Pennod 1: 'Creative solutions for plastic pollution'

Yn y bennod hon

Gyda bron 60% o'r holl blastig a gynhyrchwyd erioed yn dal i lygru ein planed, mae problemau enfawr yn sgîl maint enfawr y gwastraff plastig sy'n ymddangos yn ein hamgylchedd. Fodd bynnag, drwy ail-addasu'r pentwr enfawr hwn o wastraff plastig i fod yn rhywbeth sydd o fwy o werth, gallwn ni droi'r broblem hon yn ateb o fudd i bawb, gan glirio'r ffordd at ddyfodol mwy disglair a glân.

Yn y bennod hon, mewn trafodaeth gyda Dr Sam Blaxland, bydd Dr Alvin Orbaek White, yn flaenorol yn Athro Cysylltiol Peirianneg Gemegol yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, yn datgelu gallu anhygoel gwastraff plastig. Fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw y byd ym maes nanobeirianneg, bydd Dr Orbaek White yn trafod potensial arloesol gwastraff plastig, a sut y gellir ei drawsnewid i fod yn ddeunydd gwerthfawr fel nwy hydrogen a nanodiwbiau carbon (CNT). Y deunyddiau pwerus ac amlddefnydd hyn yw dyfodol arloesi, i'w defnyddio mewn unrhyw beth o geblau i fatris a sganwyr MRI.

Am ein harbenigwr

Bu Dr Alvin Orbaek White gynt yn Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Gemegol ac yn gyn Gymrawd Sêr Cymru II Llywodraeth Cymru ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn entrepreneur sydd wedi sefydlu ei gwmni ei hun TrimLabs yn ddiweddar i fasnacheiddio'r wybodaeth am ynni cynaliadwy mae wedi'i meithrin.

Mae Dr Orbaek White yn un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn nanobeirianneg ac mae wedi arloesi technolegau uwch sy'n gallu trawsnewid plastigion gwastraff yn ddeunyddiau cynaliadwy o werth uchel. Mae'n athro brwd ac yn eirioli dros gyfle cyfatal drwy fod yn aelod o fwrdd Rhwydwaith BAME Prifysgol Abertawe.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.