Pennod 6: 'Using digital technology to support people in the criminal justice system'

Yn y bennod hon

Ar hyn o bryd, mae poblogaethau carchardai Cymru a Lloegr ymysg yr uchaf fesul 100,000 o bobl yn y byd gorllewinol. Mae cyfraddau aildroseddu presennol y rhai hynny sy'n cael eu rhyddhau o’r carchar rhwng 40% a 60%.

Felly, mae sawl agwedd ar y system gosbi nad yw’n gweithio. Gan fynd i'r afael â'r gwirionedd llym hwn, mae Dr Gemma Morgan, uwch-ddarlithydd troseddeg, polisi cymdeithasol a chymdeithaseg o Brifysgol Abertawe, a’i thîm ehangach mewn partneriaeth ag Include UK a Labordy Arloesi Cyfreithiol Cymru, ddatblygodd yr ap ‘My Journey. ’Nod yr ap unigryw hwn yw helpu'r rhai hynny sy'n gadael y carchar neu sydd ar brawf i beidio â throseddu eto, ac i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Mae Dr Morgan yn trafod prif nodweddion yr ap, sut mae ei hymchwil wedi arwain at fanteisio ar dechnoleg ddigidol mewn ffyrdd newydd a sut bydd helpu i adsefydlu troseddwyr mewn cymdeithas yn dod â buddion economaidd a chymdeithasol i gymdeithas yn gyffredinol.

Am ein harbenigwr

Mae Dr Gemma Morgan yn uwch-ddarlithydd â diddordebau ymchwil arbenigol mewn adsefydlu pobl, technoleg ddigidol mewn ymatal rhag parhau i droseddu, ieuenctid a chyfiawnder cymdeithasol. Ar draws ei gwaith, mae'n cysylltu'n agos â phartneriaid yn y system cyfiawnder troseddol ac asiantaethau cymorth er mwyn helpu i wella gwasanaethau rheng flaen. Mae'n mabwysiadu ymagwedd arloesol ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar greu effaith a newid yn y byd go iawn.

Derbyniodd Dr Morgan Wobr Seren Ymchwil ac Arloesi'r Dyfodol Prifysgol Abertawe yn 2022. A hithau wedi llwyddo i ennill ysgoloriaeth Fulbright, bydd yn treulio 2024 ym Mhrifysgol George Mason yn America lle bydd yn parhau i ddatblygu’r ap ‘My Journey’.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.