Pennod 10: Ffuglen Wyddonol a'i lle yn yr iaith Gymraeg

Yn y bennod hon

Beth yn union yw ffuglen wyddonol, a sut mae genre o’r fath yn ein helpu i archwilio’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu o ddydd i ddydd? A all genre sy’n cael ei weld fel genre sy’n drwm dan ddylanwad diwylliant ‘Eingl-Americanaidd’, ac sy’n portreadu heb eu tebyg, fod yn berthnasol i ddiwylliannau lleiafrifol heddiw?

Yn y bennod hon, mae Dr Miriam Elin Jones, mewn sgwrs ag Elin Rhys, yn trafod o ble ddaeth ei diddordeb mewn ffuglen wyddonol, a chyflwyno sut y gall y genre archwilio nifer o bryderon perthnasol i ddiwylliant lleiafrifol fel y diwylliant Cymraeg, drwy bortreadu tranc iaith a pherthynas iaith a thechnoleg.

Am ein harbenigwr

Mae Dr Miriam Elin Jones yn Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn arbenigwr ym maes ffuglen wyddonol y Gymraeg. Datblygodd ei hymchwil yn sgil ei diddordeb yn y modd y mae’r berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a thechnoleg, a goblygiadau tranc iaith i gymdeithas a’i diwylliant yn cael eu harchwilio mewn ffuglen wyddonol yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae Dr Jones yn rhan o Rwydwaith Adrodd Newid Gwledig, sy’n cyfuno ei magwraeth wledig a’i hymchwil i ddadansoddi portreadau o ffermio a bywyd yng nghefn gwlad mewn testunau ffuglen wyddonol yn y Gymraeg. Yn llenor a dramodydd, mae ganddi hefyd ddiddordeb mewn beirniadaeth greadigol ac archwilio’r berthynas rhwng beirniadaeth ac ysgrifennu creadigol.

Gwrandewch ar eich hoff blatfform

Mae sawl ffordd y gallwch chi wrando ar, neu hyd yn oed gwylio, ein cyfres o bodlediadau. Cliciwch ar un o’r dolenni isod, a fydd yn mynd â chi i’ch hoff blatfform. Ewch i’n tudalen help gyda phodlediadau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wrando.