Mae systemau gofal iechyd ledled y byd o dan bwysau cynyddol i gyflawni canlyniadau gwell ag adnoddau cyfyngedig. Ar yr un pryd, mae'n rhaid i lunwyr polisi ddibynnu'n aml ar ddata anghyflawn neu anghyson, sy'n gwneud dewisiadau am ddarpariaeth gofal iechyd yn gymhleth ac yn ansicr.
Mae'r her yn sylweddol. Yn y DU yn unig, mae'r GIG yn gwario mwy na £200 biliwn bob blwyddyn, ond mae llawer o'r gwariant hwn yn ariannu ymyriadau nad yw eu heffeithiolrwydd hirdymor wedi'i ddeall yn llawn. Yn fyd-eang, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod rhwng 20% a 40% o wariant yn cael ei wastraffu oherwydd aneffeithlonrwydd, a bod hynny'n gysylltiedig yn aml â bylchau mewn tystiolaeth neu'r ffordd y caiff tystiolaeth ei defnyddio.
Un o'r problemau allweddol yw'r ffaith nad yw’r dystiolaeth sydd ar gael bob amser yr un peth â’r dystiolaeth mae ei hangen ar lunwyr penderfyniadau yn aml. Er enghraifft, er bod treialon clinigol yn cael eu hystyried yn safon aur ar gyfer canfod a yw triniaeth yn gweithio, cânt eu cynnal fel arfer gyda chleifion sydd wedi'u dethol yn ofalus, mewn amgylcheddau a reolir, dros gyfnodau cymharol fyr. Mewn gwirionedd, mae'r cleifion a fydd yn cael y triniaethau hyn yn y pen draw, yn aml yn hŷn ac yn salach, a chanddynt gyflyrau iechyd mwy cymhleth, na chyfranogwyr treialon. O ganlyniad, nid oes modd arsylwi'n uniongyrchol ar y canlyniadau sydd bwysicaf i systemau iechyd, er enghraifft, goroesi yn y tymor hir, ansawdd bywyd a chostau gydol oes.
Defnyddio Ymagweddau Ystadegol i Wella Prosesau Penderfynu
Mae ymchwil dan arweiniad yr Athro Rhiannon Owen ym Mhrifysgol Abertawe yn ailddiffinio sut mae penderfyniadau allweddol mewn gofal iechyd yn cael eu gwneud, yn benodol sut caiff ymyriadau gofal iechyd eu gwerthuso am effeithiolrwydd a chost-effeithlonrwydd, yn y DU ac yn rhyngwladol. Yn ganolog i hyn y mae datblygu offer a methodolegau sy'n galluogi llunwyr polisi gofal iechyd i wneud penderfyniadau mwy cadarn a thryloyw pan fo tystiolaeth yn anghyflawn neu'n ansicr.
Yn ei gwaith, mae'r Athro Owen yn defnyddio dulliau ystadegol Bayesaidd sy'n cyfuno tystiolaeth o nifer o ffynonellau, gan gynnwys treialon clinigol a data gofal iechyd o'r byd go iawn, a dulliau amlder (frequentist), sy'n dibynnu ar arsylwi ar ddata i amcangyfrif effeithiau ac asesu arwyddocâd ystadegol.
Un o brif gryfderau dulliau ystadegol Bayesaidd yw eu gallu i ymgorffori gwybodaeth flaenorol yn ffurfiol, er enghraifft astudiaethau blaenorol, credadwyedd neu arbenigedd clinigol, er mwyn creu dosbarthiad tebygolrwydd llawn o ganlyniadau posib. Mae hyn yn galluogi llunwyr polisi i asesu effeithiolrwydd tebygol pob triniaeth, gan gynnwys pa un yw'r un orau yn gyffredinol, ac i ddeall yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth y casgliadau hyn.
Mae dulliau amlder, ar y llaw arall, yn darparu amcangyfrifon diduedd y gellir eu hatgynhyrchu, a rheolau clir ar gyfer profi damcaniaethau, heb angen rhagdybiaethau blaenorol na mewnbwn goddrychol. Mae hyn yn golygu eu bod yn hynod werthfawr ar gyfer dadansoddiadau wedi'u safoni, lleoliadau rheoleiddiol a sefyllfaoedd lle mae tryloywder a chysondeb yn hanfodol.
Mae defnyddio cofnodion gofal iechyd go iawn yn galluogi ymchwilwyr i gynnal dadansoddiadau ar raddfa fawr o ganlyniadau cleifion ar draws poblogaethau amrywiol, gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn aml. Fel rhan o'i gwaith, mae'r Athro Owen yn cyrchu cofnodion iechyd electronig o Fanc Data SAIL, un o'r storfeydd mwyaf yn y byd o gofnodion iechyd dienw cysylltiedig.
Cyflawni Canlyniadau Gwell ag Adnoddau Cyfyngedig
Drwy ddefnyddio technegau megis metaddadansoddi rhwydweithiau, gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a llunwyr polisi gymharu nifer o driniaethau ar yr un pryd i nodi'r opsiynau mwyaf effeithiol.
Ar y cyd â modelu economaidd, mae'r ymagwedd hon yn helpu i ganfod pa ymyriadau sy'n darparu'r gwerth gorau am arian, ystyriaeth hanfodol ar gyfer systemau a ariennir gan gyllid cyhoeddus fel y GIG.
I gleifion, mae hyn yn golygu:
- llwybrau diagnostig mwy effeithiol, gan helpu i gael diagnosis o gyflyrau'n gynharach ac osgoi triniaethau diangen neu aneffeithiol
- triniaethau wedi'u targedu, gan ddarparu triniaethau wedi'u teilwra'n well i anghenion yr unigolyn
- gwell mynediad at ymyriadau sy'n cynnig buddion ystyrlon
- gwell cynrychiolaeth mewn prosesau penderfynu, drwy ymgorffori tystiolaeth o boblogaethau go iawn, gan sicrhau bod cleifion nad ydynt yn cael eu cynnwys fel arfer mewn treialon (oedolion hŷn, cleifion â sawl cyflwr) yn cael eu hadlewyrchu'n well yn y sylfaen dystiolaeth
- tryloywder o ran ansicrwydd, gan ddarparu allbynnau ar sail tebygolrwydd sy'n cefnogi sgyrsiau mwy gwybodus am ofal unigol.
I ddarparwyr gofal iechyd, mae'n golygu:
- mabwysiadu triniaethau effeithiol yn gynt, gan alluogi ymyriadau i gael eu cymeradwyo a'u rhoi ar waith yn gynt lle bo tystiolaeth gref yn cefnogi eu defnyddio
- gwell gofal i gleifion, gan sicrhau bod unigolion yn fwy tebygol o gael triniaethau y profwyd eu bod yn effeithiol
- dyrannu adnoddau'n fwy effeithlon, drwy dargedu cyllid cyfyngedig i'r meysydd lle bydd yn cael yr effaith fwyaf neu'r budd mwyaf
Dylanwadu ar Bolisi Cenedlaethol a Llywio'r Ymateb i Argyfwng Byd-eang
Un o effeithiau mwyaf arwyddocaol gwaith yr Athro Owen yw ei integreiddio ym mhrosesau penderfynu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am benderfynu pa feddyginiaethau, triniaethau a thechnolegau iechyd sy'n cael eu hariannu a'u mabwysiadu ledled y GIG yng Nghymru a Lloegr.
Fel rhan o fframweithiau NICE, defnyddir ei methodolegau yn rheolaidd wrth werthuso technoleg ar gyfer cynnyrch fferyllol, diagnosteg a thriniaeth, gan gyfrannu at brosesau penderfynu sy'n fwy cyson ac yn seiliedig ar dystiolaeth a dylanwadu'n uniongyrchol ar yr ymyriadau sy'n cael eu cymeradwyo, eu hariannu a'u rhoi i gleifion ledled y DU. Hyd yn hyn, yn ei rôl fel rhan o Bwyllgor TAC B NICE, mae'r Athro Owen wedi arfarnu bron 100 o dechnolegau i'w defnyddio yn y GIG.
Daeth pwysigrwydd yr ymagwedd gadarn hon sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn arbennig o amlwg yn ystod Pandemig COVID-19, pan gyfrannodd ymchwil yr Athro Owen at strategaethau brechu'r DU ac Ewrop, gan ddarparu tystiolaeth amserol ac o ansawdd uchel. Ar adeg pan oedd angen i benderfyniadau fod yn gyflym ac yn ddibynadwy, roedd ei harbenigedd yn cefnogi dadansoddi diogelwch ac effeithiolrwydd brechlynnau, gan gynnwys asesu risg o dolchenni gwaed a gwybodaeth am gyfraddau brechu plant a phobl ifanc yn erbyn COVID-19.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio gwaith yr Athro Owen i lywio polisïau iechyd ym maes darparu gwasanaethau gofal lliniarol ac i archwilio sut mae cyflyrau megis seicosis, diabetes a methiant y galon yn datblygu dros amser ac yn effeithio ar ddisgwyliad oes.
Cynyddu Gallu ar draws y Sector Gofal Iechyd Byd-eang
Drwy hyfforddiant parhaus a datblygu meddalwedd ar gyfer clinigwyr, dadansoddwyr a llunwyr polisi yn y DU, mae'r Athro Owen yn gobeithio gwreiddio methodolegau ystadegol uwch mewn ymarfer beunyddiol, gan wella sgiliau a chryfhau gallu i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth ym mhob rhan o'r sector iechyd.
Mae ei dulliau'n cael eu mabwysiadu a'u haddasu'n rhyngwladol hefyd, gan gefnogi asiantaethau asesu technoleg iechyd a sefydliadau fferyllol i fynd i'r afael ag ansicrwydd, cost a chymhlethdod yn eu prosesau penderfynu, rheoleiddiol a pholisi. Mae'r gwledydd sydd wedi mabwysiadu methodolegau'r Athro Owen yn eu prosesau llunio polisïau yn cynnwys UDA, Canada, y DU, Sbaen, Awstralia, Ffrainc, yr Almaen ac Iwerddon.
Gyda'i gilydd, mae'r ymdrechion hyn yn sicrhau bod buddion yr ymchwil hon yn bellgyrhaeddol â'r nod yn y pen draw o wella canlyniadau cleifion a gwydnwch systemau gofal iechyd, yn y DU a ledled y byd.