Cyfres Seminarau SBARC

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chydweithwyr ledled y byd ac mae ein hymchwil yn sicrhau effaith economaidd a chymdeithasol sylweddol, barhaus a gwerthfawr yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Mae Cyfres Seminarau SBARC yn tynnu sylw at ddiddordebau ymchwil sy'n gorgyffwrdd, yn meithrin ymchwil bellach ac yn hyrwyddo cydweithio â'n partneriaid strategol.

Ein Partneriaethau Rhyngwladol

Mae gan y Brifysgol gyrhaeddiad ac enw da yn fyd-eang ac mae'n gweithio gyda phartneriaid ar draws y byd i ddarparu ymchwil o safon fyd-eang a chyfleoedd dysgu ac addysgu. Darganfyddwch fwy am ein partneriaethau:

Ymchwiliwch gyda Ni

Drwy gydweithio â phrifysgolion blaenllaw eraill a phartneriaid yn y diwydiant, rydym yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr arloesol mewn disgyblaethau sy’n wynebu’r dyfodol. Rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau a gwobrau i fyfyrwyr sy'n dilyn PhD, MPhil, MRes neu astudiaethau Meistr trwy Ymchwil a hyfforddiant a datblygiad ar gyfer myfyrwyr ymchwil a goruchwylwyr.