Stori Clirio i Feddygaeth i Raddedigion Hope Henry

Ymunodd Hope Henry â Phrifysgol Abertawe fel myfyriwr Clirio gan na chafodd y graddau disgwyliedig yr oedd eu hangen arni i astudio Meddygaeth Israddedig. Mae hi'n rhannu ei phrofiadau gyda ni o astudio Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a mynd ymlaen i sicrhau ei lle ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion.

Os ydw i'n bod yn hollol onest, i mi nid oedd Prifysgol Abertawe yn rhywle y gwnes i hyd yn oed ei hystyried yn iawn nes clirio, heblaw iddi lenwi slot ar fy ffurflen gais UCAS. Cefais sioc fawr ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch pan ddaeth yn amlwg nad oedd fy arholiadau wedi mynd cystal ag yr oeddwn wedi gobeithio. Cefais fy nhaflu i anhrefn llwyr wrth i bob man yr oeddwn wedi gwneud cais amdano ym mhob prifysgol gael ei amau, nes i mi dderbyn galwad ffôn gan y tîm clirio yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe. Fe wnaethant drafod fy opsiynau â mi yn fanwl a derbyniais gynnig diamod i ddechrau ar Flwyddyn Sylfaen y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol (AMS), gradd sy'n cynnig llwybr i feddygaeth i mi, a meddygaeth yw fy nod yn y pen draw. Gallaf ddweud yn frwd mai hwn oedd y penderfyniad gorau i mi erioed ei wneud. O'r alwad ffôn gychwynnol, roedd Prifysgol Abertawe yn ymddiried yndda i fel person ac fel myfyriwr, gan wrthod fy nghadw o'r neilltu oherwydd nad oedd fy ngraddau cystal â’r disgwyl ac fe wnaethant fy nghroesawu i gymuned brifysgol gyfeillgar tu hwnt. Os rhywbeth, fe wnaeth fy mlwyddyn sylfaen yn AMS fy mharatoi ar gyfer gweddill fy ngradd, gan roi sylfaen well i mi a gwybodaeth fwy cyfoethog i adeiladu arno trwy gydol fy nghwrs cyfan. Heb fy nghyfnod fel myfyriwr AMS, ni fyddwn y person yr wyf heddiw.

Rwy’n falch iawn o ddweud, ar ôl cwblhau fy astudiaethau yn AMS, ac ar ôl llawer o waed, chwys a dagrau, rwyf bellach wedi cael cynnig lle i astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe, lle rwyf bellach yn ei hystyried yn gartref oddi chartref. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n cael ei rannu rhwng dewisiadau lleoedd prifysgol neu'r rhai sydd mewn sefyllfa anodd ar ddiwrnod y canlyniadau i siarad â'r tîm clirio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r blynyddoedd a wnaeth ddilyn y sgyrsiau clirio cychwynnol hyn wedi bod y gorau yn fy mywyd. Edrychaf ymlaen at barhau â'm hamser ym Mhrifysgol Abertawe gyda'r her Meddygaeth Mynediad i Raddedigion sydd i ddod. Mae unrhyw beth yn bosib os ydych yn barod i weithio’n ddigon caled i gymryd y naid o ffydd gychwynnol.

Llwybrau at Feddygaeth

Dewiswch eich cwrs

Delwedd o ddau fyfyriwr mewn labordy.

Mae Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn faes astudio amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar agweddau biolegol iechyd a chlefydau dynol. Mae'n cyfuno egwyddorion o fioleg, cemeg, a disgyblaethau gwyddonol eraill i ddeall mecanweithiau sylfaenol clefydau, datblygu offer diagnostig, ac archwilio triniaethau ac ymyriadau. Mae gwyddonwyr meddygol Cymhwysol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu gwybodaeth feddygol a gwella gofal iechyd.

Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, BSc (Anrh)
Delwedd o fyfyriwr yn defnyddio offer ymchwil mewn labordy.

Mae Biocemeg Feddygol yn rhaglen sy'n canolbwyntio ar astudio biocemeg gyda phwyslais penodol ar ei chymwysiadau mewn meddygaeth a gofal iechyd. Mae Biocemeg Feddygol yn faes arbenigol sy'n canolbwyntio ar y prosesau biocemegol a'r moleciwlau sy'n gysylltiedig ag iechyd a chlefydau dynol. Trwy astudio gradd Biocemeg Feddygol bydd myfyrwyr yn archwilio sut mae celloedd, meinweoedd, ac organau yn gweithredu ar lefel foleciwlaidd a sut y gall aflonyddwch yn y prosesau hyn arwain at gyflyrau meddygol.

Biocemeg Feddygol, BSc (Anrh)
Delwedd o fyfyriwr yn gwneud gwaith ymchwil mewn amgylchedd labordy.

Mae Geneteg Feddygol yn faes cyffrous sy'n symud yn gyflym ac sy'n cael effaith aruthrol ar Feddygaeth. Mae Geneteg Feddygol yn canolbwyntio ar astudio anhwylderau genetig, a'r ffactorau genetig sy'n dylanwadu ar iechyd a chlefydau dynol. Mae gradd mewn geneteg feddygol yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i unigolion weithio ar y groesffordd rhwng geneteg a gofal iechyd, gan wneud cyfraniadau hollbwysig at ddiagnosis, triniaeth ac atal anhwylderau genetig a chlefydau etifeddol. Bydd gradd mewn Geneteg Feddygol yn helpu i'ch paratoi trwy ddeall y wyddoniaeth sy'n chwyldroi Meddygaeth.

Geneteg Feddygol, BSc (Anrh)
Delwedd o ddau fyfyriwr yn gweithio gyda'i gilydd mewn labordy.

Ffarmacoleg Feddygol yw'r wyddoniaeth y tu ôl i gyffuriau a meddyginiaethau, eu heffeithiau ar systemau byw, a'u rôl wrth drin afiechyd. Mae'r math hwn o raglen radd wedi'i chynllunio i roi dealltwriaeth ddofn i fyfyrwyr o ffarmacoleg a'i chymwysiadau mewn gofal iechyd ac ymarfer clinigol. Mae'n ymwneud yn arbennig â datblygiad, defnydd, ac effeithiau meddyginiaethau yng nghyd-destun ymarfer meddygol, gan gynnwys deall mecanweithiau cyffuriau, cymwysiadau therapiwtig, a sgîl-effeithiau posibl. Mae gradd mewn ffarmacoleg feddygol yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i unigolion weithio ar y groesffordd rhwng ffarmacoleg a gofal iechyd, gan gyfrannu at y defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau mewn ymarfer clinigol ac ymchwil.

Ffarmacoleg Feddygol, BSc (Anrh)
Delwedd o ddau fyfyriwr yn astudio gyda'i gilydd.

Rhaglen Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau Prifysgol Abertawe yw eich porth i yrfa ddeinamig a gwerth chweil ym myd gofal iechyd, epidemioleg a pholisi iechyd y cyhoedd. Mae ein Rhaglen Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau arloesol wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad ymarferol sydd eu hangen arnoch i ragori ym maes iechyd y boblogaeth sy'n datblygu'n gyflym. Gyda phwyslais cryf ar ddysgu rhyngddisgyblaethol, mae'r rhaglen hon yn cyfuno'r gwyddorau meddygol, iechyd y cyhoedd a'r gwyddorau cymdeithasol yn ddi-dor, gan roi dealltwriaeth gyfannol i chi o systemau iechyd a gofal iechyd.

Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Poblogaethau, BSc (Anrh)
Delwedd o fyfyriwr yn edrych ar gap sganio'r ymennydd.

Bydd astudio Seicoleg yn rhoi hyfforddiant gwyddonol arbenigol i chi yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad. Byddwch yn astudio prosesau seicolegol a niwro-wyddonol sy’n tanategu gweithgareddau fel meddwl, rhesymu, cof ac iaith, dysgu am effeithiau anaf i'r ymennydd, ac yn archwilio ffyrdd o wella cynnydd ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd.

Seicoleg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)
Delwedd o ddau berson gyda model plastig o gorff dynol at ddibenion meddygol.

Rydym yn falch iawn o'r cyfleoedd mae ein graddau Llwybrau'n eu cynnig i'n myfyrwyr, rydym yn cynnig nifer o raddau Dim Llwybrau i Feddygaeth a fydd yn eich rhoi wrth wraidd cynnig cymorth y mae ei angen ar gleifion a chefnogi gwneud penderfyniadau clinigol i gael cleifion ar y ffordd i adferiad. Mae gwella iechyd a lles cymunedau yn ymagwedd un tîm, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd clinigol.

Graddau sydd ar gael:

Myfyrwyr yn y labordy biofeddygol
  1. Marc cyfartalog cyffredinol o 60% yn y Flwyddyn Gyntaf
  2. 60% yn y Modiwlau Llwybr – "Doctors, Patients and the Goals of Medicine (PM254)"
  3. Mae'n ofynnol wrth wneud cais fod gan fyfyrwyr sgor GAMSAT neu UCAT dilys neu eu bod un disgwyl sgor dilys

Bydd myfyrwyr sy'n cyrraedd y meini prawf mynediad yn gymwys am gyfweliad gwarantedig yn eu blwyddyn olaf ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe, ond dim ond unwaith y caiff fyfyrwyr ddefnyddio'r Cyfweliad Gwarantedig, yn eu blwyddyn olaf o astudio.