Rydym yn falch o fod yn un o'r lleoedd gorau yn y DU ar gyfer hyfforddiant ac addysg glinigol ac iechyd. Mae nifer o'n cyrsiau GIG israddedig wedi'u hariannu gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru fel y gallwch chi hyfforddi a bod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o Wyddonwyr Gofal Iechyd, Nyrsys, Bydwragedd, Therapyddion Galwedigaethol, Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth a Pharafeddygon.

Gall myfyrwyr sy'n astudio cyrsiau'r GIG (Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Ymarferwr Adrannau Llawdriniaeth, Gwyddor Barafeddygol, Gwyddor Gofal Iechyd) ddewis naill ai derbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, a thrwy hynny, ymrwymo i weithio yn GIG Cymru am nifer benodol o flynyddoedd, neu gan Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr.

Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru

Os ydych chi'n dewis astudio Nyrsio, Bydwreigiaeth, Therapi Galwedigaethol, Ymarferwr Adrannau LlawdriniaethGwyddor Barafeddygol, Gwyddor Gofal Iechyd, gallwch ddewis ariannu eich astudiaethau drwy un o ddwy ffordd: Fel arfer, unwaith i chi benderfynu ar eich llwybr, sef naill ai Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru neu Fenthyciadau a Grantiau Myfyrwyr, ni fydd modd i fyfyrwyr newid eu llwybr ariannu (caiff achosion eithriadol eu hystyried drwy fecanwaith apeliadau).

I dderbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, bydd yn rhaid i fyfyrwyr ymrwymo i weithio yng Nghymru am 2 flynedd ar ôl cwblhau eu cwrs. (mae amserlenni gwahanol yn berthnasol i gyflwyno cais am gyrsiau sy'n hwy neu'n fyrrach na 3 blynedd). Rydym yn cynghori'r holl fyfyrwyr sy'n dewis Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru i wirio Amodau a Thelerau GIG Cymru.

Rhaid bod gan fyfyrwyr o'r UE sy'n dechrau cyrsiau cyn neu ar ôl 1 Awst 2021 statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog yn y DU o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i gael cyllid gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru.

Pa gyllid sydd ar gael drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru?

Cyrsiau Sydd Ar Gael Ar Gynllun Bwrsariaethau Gig Cymru

Gwyddorau Gofal Iechyd
Student looking at anatomy

Mae Ymarferwyr Gwyddor Gofal Iechyd yn cyflawni rôl hanfodol wrth atal, diagnosio a thrin nifer enfawr o gyflyrau meddygol, gan gydweithio â meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Os ydych chi'n frwdfrydig iawn am wyddoniaeth a thechnoleg, ac yn ffynnu pan fyddwch yn helpu pobl eraill, gallai ein Graddau Gwyddorau Gofal Iechyd a ariennir gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru fod yn ddelfrydol i chi.

Graddau sydd ar gael:

 

Bydwreigiaeth Nyrsio Therapi Galwedigaethol Ymarferwr Adran Lawdriniaeth Gwyddor Barafeddygol