Chwaraeon
Chwaraeon
Timau Chwaraeon, Clybiau a Chymdeithasau
Mae cofnodion timau chwaraeon neu gofnodion sy'n ymwneud â nhw'n adnodd cyfoethog. Gweler isod enghreifftiau o'r mathau o gymdeithasau a chofnodion a gedwir yn yr Archifau:
- Undeb Athletaidd Prifysgol Abertawe: llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol, adroddiadau, gohebiaeth, ffotograffau ar gyfer amrywiaeth eang o glybiau a thimau (Cyf.2012/19)
- Clwb Rygbi Blaendulais: Cofnodion, cyfrifon, cofnodion aelodaeth a thimau, 1955-1991 (Cyf. 1997/21)
Yn ogystal, mae'r Archifau'n cynnwys nifer o ffotograffau sy'n dangos cyfleusterau a gweithgareddau chwaraeon:
- Adargraffiadau a negatifau ffotograff o'r gêm criced flynyddol rhwng prynwyr a gwerthwyr, Depo Caerdydd CWS, ym Mharc Porthkerry, 15 Gorffennaf 1909 (Cyf.SWCC/MND/137/2/21/18)
- Ffotograff o aelodau Clwb Pêl-droed Amatur y Basque Boys, Caerleon, 1939 (Cyf.SWCC/PHO/SCW/31)
- Ffotograff o dîm drafftiau Sefydliad Tredegar, c1900-1910 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/6)
- Ffotograff o dîm coitio y Banwen, a arferai gwrdd yng Ngwesty Pontyddraenen, yn dangos eu tlysau, c1930-1940 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/17)
- Ffotograffau o Uchelwyl Glowyr De Cymru, gan gynnwys gêm rygbi (Cyf. SWCC/PHO/REC/3/29)
Meysydd Chwaraeon a Chyfleusterau eraill
Mae cofnodion llawer o'r cymdeithasau lles, y sefydliadau, y cymdeithasau hamdden a'r cymdeithasau eraill ym Maes Glo De Cymru'n adnodd cyfoethog ar gyfer ymchwilio i ddatblygiad cyfleusterau chwaraeon. Gweler isod enghreifftiau o'r mathau o sefydliadau a chofnodion a gedwir yn yr Archifau:
- Cymdeithas Llesiant Cymdeithasol y Maes Glo. Papurau gweinyddol, gan gynnwys llyfrau cyfrifon sy'n darparu manylion am gymorth grant gan Gymdeithas Llesiant Cymdeithasol y Maes Glo (CISWO) i gymdeithasau llesiant (e.e. 2007/8/77) ar gyfer cynnal a chadw adeileddau, pafiliynau bowls a thennis, ymysg eraill c1952-2007 (Cyf. 2007/8)
- Clybiau i bobl ifanc [Pentref Bechgyn St Athan a Mudiad y Clybiau Bechgyn yng Nghymru]: Adroddiadau blynyddol, cylchgronau a ffotograffau, 1928-2009 (Cyf.2011/2)
- Cymdeithas Difyrrwch Ynysybwl: Llyfrau cofnodion, rheolau, cyfrifon a phapurau ariannol eraill, mapiau a chynlluniau safle, 1922-1965 (Cyf. SWCC/MNA/PP/81)
- Dr JD Jenkins (Swyddog Meddygol, Cyngor Dosbarth Trefol y Rhondda): Gohebiaeth a thaflenni ynghylch y pwll nofio ym mharc Cwm, 1933 (Cyf. SWCC/MNA/PP/55/2)
Mae'r Archifau hefyd yn cynnwys nifer o ffotograffau o gyfleusterau a gweithgareddau chwaraeon:
- Twrnamaint llawiad yn Nelson, c1900 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/16)
- Lawnt fowls a phobl yn Llanwrtyd, Powys, c1910 (Cyf. SWCC/PHO/REC/1/2)
- Pwll nofio awyr agored Blaendulais, c 1930-40 (Cyf.SWCC/PHO/REC/1/22)
- Ffotograff o lun o adroddiad blynyddol Cymdeithas Llesiant Cambrian ym 1926, sy'n rhoi argraff artist o gynllun arfaethedig safle i'w ddatblygu yng nghyffiniau Blaenclydach. Mae hyn yn cynnwys cyrtiau tennis, lawnt fowlio, pafiliwn a theatr awyr agored (Cyf. SWCC/PHO/TOP/1/25)
Chwaraeon yn y wasg a llenyddiaeth arall
Yn ogystal â chofnodion mewn papurau newydd a chylchgronau cwmni, ceir cyfeiriadau at chwaraeon mewn mathau eraill o lenyddiaeth. Gweler isod rhai enghreifftiau o'r deunydd sydd yn yr archifau:
- J.D. Williams: toriadau o bapurau newydd ar amrywiaeth o bynciau megis Abertawe a'r rhanbarth, achosion llys, capeli lleol, detholiadau llenyddol, gwleidyddiaeth, Eisteddfodau, chwaraeon, etc. 1898 (Cyf. LAC/124/3)
- 'The Football Leader': rhifyn chwaraeon y Cambrian Daily Leader, 9 Rhagfyr 1906 (Cyf.LAC/102/4)
- So Long Hector Bebb: nofel gan Ron Berry sy'n archwilio bywyd paffiwr - 'In the day-time Hector Bebb drives a brewery lorry, but he's out early each morning for roadwork and every evening he trains for the big fight in the gym above the White Hart. Abe would have his boxers function as single-minded, sexless fighting machines. Hector has everything to make a world-beater, but his disillusioned wife, Millie, suffers frantic consequences, and when Hector returns home after winning the big fight he meets bigger trouble - the cross-roads of his life. Told by a series of interior monologues, the fourteen characters involved in this novel give a vivid and loving picture of the boxing world.' (http://www.ronberry.co.uk/SoLong.aspx cyrchwyd 14 Gorffennaf 2015). Mae gan yr Archifau nifer o gopïau llawysgrif a theipysgrif o'r gwaith hwn a gyhoeddwyd gyntaf gan Macmillan and Co. ym 1970. (Cyf. WWE/1/1/3)
Ffynonellau eraill ar gyfer Chwaraeon
Gall cofnodion busnes fod yn ffynhonnell ddefnyddiol wrth ymchwilio i hanes. Mae llawer o fusnesau mwy sylweddol wedi noddi timau lleol ac roedd gan rai sefydliadau glybiau chwaraeon mewnol. Dyma rai enghreifftiau o'r deunydd sydd yn yr Archifau:
- Mae llyfr cyfrifon hysbysebu a gedwid gan Gwmni Gwella Tramffyrdd Abertawe yn cynnwys adroddiad ar gyfer Cymdeithas Pêl-droed Tref Abertawe (Cyf.LAC/85/C28). Mae rhagor o wybodaeth am y cyfriflyfr hwn ar gael ar y wefan a grëwyd gan fyfyrwyr MA ym Mhrifysgol Abertawe.
- Mae'r casgliad o ddogfennau ar gyfer Cymdeithas Gydweithredol Llanelli yn cynnwys copïau o ffotograffau o gyflwyniadau clwb llesiant y staff ar gyfer tennis a bowls (Cyf. SWCC/MND/137/2/35/28)
- Mae'r casgliad o ddogfennau ar gyfer Cymdeithas Gydweithredol Ynysybwl yn cynnwys rhestrau o renti eiddo a chomisiynau a dderbyniwyd, gan gynnwys comisiwn a dderbyniwyd o ran Clwb Criced Sir Forgannwg ar gyfer 6 mis a ddaeth i ben ar 3 Medi 1979 (Cyf. SWCC/MND/137/2/73/28)