Croeso i chi gysylltu â Llyfrgell MyUni os oes unrhyw ymholiadau gennych am archebu mannau astudio yn y llyfrgell.
Archebwch Fan Astudio/CP yn y Llyfrgell
Mannau Astudio Mynediad Agored
Gellir defnyddio mannau sydd wedi'u nodi fel 'Mynediad Agored' yn y llyfrgell ar unrhyw adeg heb orfod archebu.
Pa fath o Fannau Astudio sydd ar gael?
Mannau Astudio Grŵp (Llyfrgell Parc Singleton)
Gallwch ddewis ac archebu Coden Astudio Grŵp yn Llyfrgell Parc Singleton drwy ein system archebu ar-lein.
Gallwch hefyd dewis ac archebu Man Cydweithrediadol Myfyrwyr. Sylwch, lleolir y desgiau hyn i gyd yn yr un ystafell, felly efallai cewch eich clywed neu eich torri ar eich traws gan grwpiau arall yn yr ystafell - ystyriwch archebu un o'r Codennau Astudio Grŵp os ydy preifatrwydd neu gyfrinachedd o bwys ar gyfer eich gwaith.
Cewch eich cyfeirio at yr amodau a thelerau penodol ar gyfer y mannau Grŵp neu Cydweithrediadol wrth wneud yr archeb.
Mannau Astudio Grŵp (Llyfrgell y Bae)
Gallwch ddewis ac archebu Coden Astudio Grŵp yn Llyfrgell y Bae drwy ein system archebu ar-lein. Sylwch, cewch eich cyfeirio at y telerau ac amodau penodol ar gyfer y mannau hyn wrth wneud yr archeb.
Mannau CP Ôl-raddedig
Mae yna Ystafelloedd CP penodedig ar gyfer fyfyrwyr Ôl-raddedig yn Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton.
Lleolir Ystafell CP Ôl-raddedig Llyfrgell y Bae ar Adain Gogledd y llyfrgell.
Lleolir Ystafell CP Ôl-raddedig Llyfrgell Parc Singleton yn ystafell 401D, ar Lefel 4 (ar y Mesanîn, uwchben y Neuadd Astudio a Desg Llyfrgell MyUni).
Ni ellir archeb lle yn yr Ystafelloedd CP Ôl-raddedig o flaen llaw, ond mae'r mannau ar gael i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr Ôl-raddedig yn unig. I gael mynediad i'r Ystafelloedd CP Ôl-raddedig, mae angen sweipio eich cerdyn adnabod Myfyriwr Ôl-raddedig y Brifysgol yn erbyn y pwynt mynediad ar y drws.
Mannau Astudio/CP Cyffredinol
Mae yna amrywiaeth o fannau astudio ar gael yn Llyfrgelloedd Parc Singleton a'r Bae.
Gallwch ddewis ac archebu man Astudio/CP cadwadwy drwy ein system archebu ar-lein.
Mannau Astudio/CP Cyffredinol: Mae'r rhain ar gael i'n holl fyfyrwyr fel y ganlyn:
Gallwch gadw man astudio y gellir ei archebu rhwng 8yb a 10yh. Nid oes angen archebu ar gyfer y mannau hyn rhwng 10yh ac 8yb. Mae mannau astudio eraill ar gael heb orfod cadw lle.
Cewch archebu uchafswm o 24 cyfnod o 60-munud yr wythnos (cyfanswm o 24 awr, 6 awr y dydd). Rhaid archebu bob un cyfnod unigol o 60-munud.
Gallwch archebu hyd at bythefnos o flaen llaw.
Gellir archebu'r holl sesiynau yn un man os oes angen ac os ydynt ar gael. Os yr ydych yn archebu sesiynau ar draws lleoliadau gwahanol, caniatewch amser ar gyfer teithio rhwng safleoedd, a deithiwch rhwng safleoedd os yw'n angenrheidiol yn unig.
- Mae'r mannau hyn ar gael i fyfyrwyr ar gyfer defnydd unigol yn unig.
- Gallwch archebu man hyd at bythefnos o flaen llaw. Sicrhewch eich bod yn dewis yr holl amseroedd sydd angen arnoch os ydych yn archebu ar-lein. Byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau pan fydd eich archeb wedi’i gwblhau. Dylech gadw'r e-bost hwn fel prawf o'ch archeb.
- Sylwch, bydd angen i chi dangos eich cerdyn adnabod myfyriwr i fynd i mewn i'r Llyfrgell.
Cysylltwch â Ni
Mannau Astudio Amgen
Yn ogystal ag adeiladau'r llyfrgell, bellach mae yna nifer o fannau amgen ar gampysau'r Bae a Pharc Singleton y gallwch chi eu defnyddio at ddibenion astudio anffurfiol.
Gwiriwch y tudalen Lleoedd Astudio Anffurfiol am fwy o wybodaeth am fanteisio ar y mannau hyn.