Rhoddir cerdyn adnabod Prifysgol Abertawe, hefyd a elwir yn gerdyn Llyfrgell, i holl fyfyrwyr y Brifysgol.

Bydd eich cerdyn adnabod yn eich galluogi chi i:

  • Cofnodi’ch presenoldeb mewn darlithoedd, drwy ei sweipio
  • Benthyg deunyddiau o'r llyfrgell
  • Defnyddio'r gwasanaeth argraffu, copïo a sganio yn y llyfrgell
  • Cael mynediad i rai ystafelloedd astudio a labordai
  • Dangos pwy ydych chi mewn arholiadau Prifysgol
  • Dod yn aelod o glybiau chwaraeon a chymdeithasau
Myfyriwr yn defnyddio ei gerdyn adnabod myfyriwr i fenthyg llyfr

Sut allaf gasglu fy ngherdyn?

Os ydych chi'n fyfyriwr newydd, gallwch chi gasglu eich cerdyn ar ôl ymrestru. Yn gyntaf, bydd rhaid i chi lanlwytho llun ar gyfer eich cerdyn. Cliciwch ar yr adrannau isod am fwy o wybodaeth.

Edrych ar ôl eich cerdyn

Wedi i chi casglu eich cerdyn, byddwch yn sicr i edrych ar ei ôl! Cymerwch ofal i beidio â'i phlygu neu bwnsio tyllau ynddo, gan gall hyn achosi difrod a all rhwystro'r cerdyn rhag gweithio gyda rhai systemau.

Os ydy eich cerdyn wedi mynd ar goll neu wedi ei ddwyn, adroddwch hwn i Dîm Llyfrgell MyUni cyn gynted ag sy'n bosib.

Os oes angen amnewid eich cerdyn, ymwelwch â'r Ddesg Llyfrgell MyUni yn Llyfrgell Parc Singleton neu Lyfrgell y Bae, gan ddod a phrawf adnabod ffotograffig gyda chi. Codir tal amnewid o £4.00 am gardiau coll neu sydd wedi eu difrodi.

Os oes angen cymorth arnoch ddefnyddio'ch cerdyn, neu os nad ydy eich cerdyn yn gweithio ar rhai systemau, cysylltwch â Thîm Llyfrgell MyUni a bydd yn hapus i'ch helpu.

Hysbysiad Pwysig

Rhaid i chi gadw eich cerdyn adnabod y brifysgol gyda chi ar bob adeg pan rydych chi ar gampws, a'i ddangos i staff y brifysgol pan ofynnir. Peidiwch byth a rhoi eich cerdyn adnabod y brifysgol i unrhyw un arall i'w ddefnyddio o dan unrhyw amgylchiadau. Os nad ydych yn gallu mynychu darlithoedd yn bersonol, dylech roi wybod i'ch adran. Os nad ydych yn gallu casglu eitemau llyfrgell yn bersonol, dylech roi wybod i Lyfrgell MyUni. Gall defnydd amhriodol o'ch cerdyn adnabod y brifysgol arwain i chi gael rhybudd ffurfiol a'r posibilrwydd o weithrediad pellach gan y brifysgol. Gall hwn gynnwys cael eich tynnu'n ôl o'ch cwrs.