Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn darparu cipolwg unigryw ar fywyd cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol yr ardal yn ystod y 19eg a'r 20fed ganrifoedd. Os oedd un o'ch cyndeidiau'n aelod blaenllaw o'i gymuned neu ei undeb llafur, neu os oedd yn rhan o ddigwyddiad penodol, mae'n bosib bod cyfeiriadau ato yn y cofnodion.
Gall cofnodion crefyddol a busnes yn y Casgliadau o Archifau Lleol gynnwys gwybodaeth berthnasol. Mae cofrestri Eglwys Gatholig Rufeinig Priordy Dewi Sant yn ffynhonnell gyfoethog iawn ar gyfer haneswyr teuluol sydd â chyndeidiau Catholig.
Am ganllaw cryno i adnoddau hanes teuluol neu i gael gwybodaeth am gofnodion myfyrwyr a staff yn y Brifysgol, cysylltwch â'r Archifau.