BETH YW E? Trwy gydol y casgliad ceir enghreifftiau o’r profiad gafodd menywod gyda’u harian: sef y ffordd y byddai’r dynion yn eu bywydau’n cyfyngu i raddau helaeth ar reolaeth y menywod ar eu harian eu hunain drwy reoli eu mynediad at yr arian ynghyd â’r ffordd y gallent ei wario.
BETH YW’R FFYNONELLAU? Mae hon yn elfen achlysurol o’r llyfr cofnodion ond ceir enghreifftiau diddorol megis y nodion sy’n disgrifio’r amodau yr oedd yn rhaid i’r menywod eu derbyn er mwyn cael mynediad at eu harian, fel y modd y byddai’r arian dim ond yn cael ei dalu allan iddynt “dan gyngor cyfreithiol”. Hefyd, y Weithred Benodi gan Charles Pascoe Grenfell sy’n gadael yn ffurfiol “un chwarter cyfartal" o £10,000 a dim byd mwy ar ôl ei farwolaeth i’w ferch Maria Georgianna Grenfell. Mae cytundeb priodas William Grenfell a Mrs Frances Dorlase a’r cytundeb ôl-briodasol gan Thomas Frances Leyshon a’i wraig Eleanor Du Pre Leyshon, oll yn darlunio’r rheolaeth a oedd gan y dynion fel ymddiriedolwyr dros arian y menywod.
BETH SY’N EI WNEUD YN DDIDDOROL? Amlygrwydd rhywiaeth yn y cofnodion. Mae digon i’w ddysgu am y 1800au a chymdeithas yn ystod y cyfnod hwnnw o’r ffynonellau hyn. Maent yn darparu enghreifftiau rhyfeddol o’r cyfyngiadau a roddwyd ar fenywod yn hwyrach yn y 1800au a allai, er enghraifft, fod yn ffynhonnell ddefnyddiol i’w defnyddio wrth astudio safle ariannol menywod yn y cyfnod hwn. Gallent hefyd ddarparu manylion i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud ymchwil ar astudiaeth achos ar y teulu Grenfell fel teulu cyfoethog, i weld ble a sut y byddent yn gwario eu harian a sut y byddent yn trefnu eu harian personol a busnes.