Casgliad Llyfrau Prin
Casgliad Llyfrau Prin
Casgliad Llyfrau Prin
Cael mynediad i’r Casgliad Llyfrau Prin
Gellir ymgynghori â hwy drwy apwyntiad yn unig yn ystod oriau’r swyddfa, 9am-4:45pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, os nad yw darllenydd wedi gwneud apwyntiad, gall fod modd ymgynghori â’r casgliad os bydd aelod o staff ar gael. Ni ellir ymgynghori ag eitemau yn y casgliad hwn ond yn yr ystafell Llyfrau Prin, a gofynnir i ymchwilwyr gadw at reolau’r ystafell ddarllen.
Mae’r ystafell ddarllen ar gyfer Llyfrau Prin ar lefel 2 yn Llyfrgell Parc Singleton.
Am ymholiadau ynglŷn â'r casgliad Llyfrau Prin ac i wneud apwyntiad, e-bostiwch y Gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau os gwelwch yn dda.
Casgliad Llyfrau Prin
Mae’r holl eitemau yn y casgliad Llyfrau Prin wedi’u rhestru yng nghatalog iFind y llyfrgell. (Ar ôl chwilio, gallwch hidlo canlyniadau'ch chwiliad trwy ddefnyddio hidlyddion y lleoliad Llyfrau Prin.)
Mae’r casgliad yn cynnwys dros 1,700 o lyfrau a phamffledi wedi’u hargraffu o 1473 hyd heddiw. Mae rhyw 60 o lyfrau a argraffwyd cyn 1600, rhyw 430 a argraffwyd yn yr 17eg ganrif (megis argraffiadau o Brittanica Camden sy’n cynnwys darluniadau cain) a mwy na 550 o’r 18fed ganrif.
Dyma rai enghreifftiau o’r llyfrau a gyhoeddwyd ar ôl y 18fed ganrif:
- Llyfrau a gyhoeddwyd mewn argraffiad cyfyngedig o lai na 500 o gopïau
- Llyfrau a gyhoeddwyd gan weisg preifat (e.e. Gwasg Gregynog, Kelmscott a Golden Cockerel Press)
- Argraffiadau cyntaf (e.e. gan Dylan Thomas a Rhys Davies)
- Llyfrau a lofnodwyd gan awduron enwog (e.e. Dylan Thomas)
- Llyfrau â darluniadau hardd (e.e. The Book of Kells: reproductions from the manuscript in Trinity College, Dublin)
- Llyfrau o ddiddordeb lleol a allai fod yn anodd neu’n ddrud i gael gafael arnynt (e.e. Rhys Phillips, History of the Vale of Neath)
- Llyfrau sydd wedi’u rhwymo’n arbennig o gain
Mae’r Casgliad yn cynnwys detholiad o fwy na 300 o faledi (y mae’r mwyafrif ohonynt yn Gymraeg) a argraffwyd rhwng 1710 a dechrau’r 20fed ganrif, ac mae pob un ohonynt wedi’u catalogio ar wahân yng nghyfleuster iFind Discover.
Casgliadau Arbennig yn Storfeydd y Llyfrgell
Casgliad Allan Milne
Casgliad o fwy na 2,500 o lyfrau ar y Rhyfel Cartref yn America, a roddwyd gan Allan Milne. Mae’n cynnwys llawer o ddeunyddiau sy’n ffynonellau cynradd, megis dyddiaduron, hunangofiannau a llythyron milwyr. Mae Casgliad Allan Milne, un o’r casgliadau mwyaf o ddeunyddiau sy’n ymwneud â Rhyfel Cartref America yn y Deyrnas Unedig, yn hynod werthfawr i lawer o ymchwilwyr.
Cymynrodd Llewellyn
Llyfrau a phamffledi, o ddiddordeb Cymreig yn bennaf, a roddwyd i’r Llyfrgell. Maent yn cynnwys bywgraffiadau, testunau a chyfieithiadau o’r 18fed a’r 19eg ganrif a llyfrau ar Gymru a’r gororau. Roedd y mwyafrif ohonynt yn rhodd gan Llewellyn Llewellyn o Frynhyfryd yn 1935 a rhoddwyd eraill yn 1943 a 1955 gan ei fab a’i ferch yng nghyfraith.
Casgliad Salmon
Cyfrolau wedi’u rhwymo o bamffledi o’r 19eg ganrif, oedd yn eiddo i David Salmon, sef Prifathro Coleg Hyfforddi Abertawe, a ddaeth yn rhan o Sefydliad Addysg Uwch Abertawe (Prifysgol Fetropolitan Abertawe bellach).
Casgliad Dylan Thomas
Cyfieithiadau o rai o weithiau barddoniaeth a rhyddiaith Dylan Thomas i nifer o wahanol ieithoedd, gan gynnwys Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg. Mae’n cefnogi gwaith y Ganolfan Ymchwil i Iaith a Llenyddiaeth Cymru yn Saesneg yn yr Adran Saesneg.
Casgliad Glyn Jones
Mae casgliad o lyfrau wedi cael ei gyfrannu (1997) o lyfrgell y diweddar Glyn Jones (1915-1995), y bardd Eingl-Gymreig, yr awdur straeon byrion a’r nofelydd. Mae pob un o’r llyfrau yn gopi cyflwyno gydag arysgrif, ac mae gwaith gwerthfawr mewn sawl cyfrol (megis cerdd gyfan gan John Ormond yn llawysgrif Ormond ei hun ac anodiadau helaeth gan Glyn Jones mewn amrywiol destunau gan R.S. Thomas ac Emyr Humphreys). Mae sawl un o’r testunau hefyd yn argraffiadau cyntaf neu’n gopïau prin.
Casgliad John Loder / Noel Mortimer
Casgliad o ddogfennau ar hedfan.
Casgliad Vivienne Sugar
Deunydd yn ymwneud â Chomisiwn Richard. Roedd Vivienne Sugar, a fu gynt yn Brif Weithredwr ar Ddinas a Sir Abertawe, hefyd o 2002 i 2004 yn aelod o Gomisiwn Richard a fu’n archwilio pwerau a threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Casgliadau Arbennig Eifftoleg
Casgliad Gardiner
Casgliad mawr o bamffledi ar Eifftoleg a Dwyrain Agos yr henfyd oedd yn perthyn i lyfrgell bersonol Syr Alan Gardiner (1879–1963), yr Eifftolegydd o fri a’r ysgolhaig ieithyddol. Mae’r rhain yn cynnwys llawer o wahanlithoedd o gylchgronau. Mae’r pamffledi ar fenthyciad parhaol o Lyfrgell Sackler ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae llawer o’r ysgrifeniadau mewn Almaeneg, Ffrangeg neu Eidaleg.
Casgliad Gwyn Griffiths
Casgliad o lyfrau a chylchgronau ar Eifftoleg a Dwyrain Agos yr henfyd oedd yn eiddo i’r Athro J. Gwyn Griffiths (1911-2004), a fu’n rhan o Adran y Clasuron ac Eifftoleg o 1946 nes iddo ymddeol yn 1979, a’i wraig, oedd yr un mor nodedig, Dr. Kate Bosse-Griffiths (1910-1998). Maent yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys crefydd a mytholeg. Fe’u rhoddwyd i’r llyfrgell pan fu’r Athro Griffiths farw.
Casgliad Francis Llewellyn Griffith
Casgliad bychan o fwy na chant o lyfrau ac eitemau eraill ar Aifft yr henfyd a’r Dwyrain Agos a fu ar un adeg yn rhan o lyfrgell fawr Francis Llewellyn Griffith (1862–1934), a ddisgrifir yn briodol yng Ngeiriadur Bywgraffiadau Cenedlaethol Rhydychen fel un o dadau Eifftoleg ym Mhrydain. Mae llawer o’r cyfrolau’n ymwneud â chloddiadau archaeolegol.
Casgliad DuQuesne
Llyfrau o lyfrgell yr Eifftolegydd Terence DuQuesne a roddwyd i’r llyfrgell yn 2014 wedi iddo farw. Mae rhyw 300 o lyfrau a nifer bach o gyfnodolion.