Lleolir Llyfrgell Parc Dewi Sant ar gampws Parc Dewi Sant, Caerfyrddin. Mae'r Llyfrgell hon yn cefnogi myfyrwyr y Gwyddorau Iechyd sy'n cael eu haddysgu yng Nghaerfyrddin.
Mae'r Llyfrgell at ddefnydd myfyrwyr y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe yn bennaf, ond caiff unrhyw fyfyriwr cofrestredig, neu unrhyw aelod o staff ddefnyddio'r cyfleusterau a benthyca eitemau o'r Llyfrgell trwy ymweld â hi.
Mae Llyfrgell Parc Dewi Sant yn croesawu ymwelwyr allanol ar sail cyfeirio yn unig.
Cyfleusterau TG
Mae mynediad llawn ar gael i 31 cyfrifiadur personol yn Llyfrgell Parc Dewi Sant. Gall myfyrwyr argraffu gan ddefnyddio eu cyfrif argraffu myfyriwr. Ceir cyfleusterau llungopïo hefyd.