Rydym yn croesawu pob math o adborth ar yr ardaloedd yn y llyfrgell a’n wasanaethau.
Hoffwn glywed oddi wrthoch! Gadewch i ni wybod eich barn yma!
Dyddiau |
Oriau agor adeilad y llyfrgell |
Oriau agor Desg Wybodaeth Llyfrgell MyUni |
---|---|---|
Dydd Llun Rhagfyr 16eg |
24 awr |
08:00 - 20:00 |
Dydd Mawrth Rhagfyr 17eg |
Ar gau o 17:00 |
09:00 - 17:00 |
18fed i 23ain Rhagfyr (yn gynhwysol) |
09:00 - 17:00 | 09:00 - 17:00 |
24ain i 26ain Rhagfyr (yn gynhwysol) |
Ar gau |
Ar gau |
27ain i 31ain Rhagfyr (yn gynhwysol) |
09:00 - 17:00 | Ar gau |
Dydd Mercher Ionawr 1af |
Ar gau |
Ar gau |
Dydd Iau Ionawr 2ail |
Ar agor o 9yb a 24/7 wedi hynny |
Oriau arferol Desg Llyfrgell MyUni |
Oriau Agor Llyfrgell Parc Singleton
Nodir os gwelwch yn dda, mae’r newidiadau yn weithredol yn ystod dyddiadau gwyliau’r gaeaf.
Dyddiau | Oriau agor adeilad y llyfrgell | Oriau agor Desg Gwybodaeth Llyfrgell MyUni |
---|---|---|
Dydd Llun | 24 awr | 08:00 - 20:00 |
Dydd Mawrth i ddydd Gwener | 24 awr | 08:00 - 17:00 |
Dydd Sadwrn | 24 awr | Ar gau |
Dydd Sul | 24 awr | 12:00 (canol dydd) - 20:00 |
Mae cymorth o bell ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgell ar gael drwy gysylltu â ni drwy'r sianelau canlynol:
Gellir defnyddio'r gwasanaethau isod trwy hunanwasanaeth fel y ganlyn:
Gwasanaeth |
Lleoliad |
Gwneud cais am a benthyg eitemau llyfrgell |
Gall myfyrwyr a staff cyfredol pori silffoedd y llyfrgell a benthyg eitemau drwy'r terfynellau Hunan-Fenthyca, sydd wedi'u leoli gyferbyn â'r Ddesg Gwybodaeth. Gellir hefyd gwneud cais am neu adalw eitemau drwy ddefnyddio ein gwasanaeth Cais a Chasglu. |
Dychwelyd llyfrau |
Gellir dychwelyd eitemau'r llyfrgell drwy ddefnyddio'r derfynell Hunan-Ddychwelyd, sydd wedi'i leoli ger y Ddesg Gwybodaeth. Gellir dychwelyd Benthyciadau Rhwng Llyfrgelloedd i staff wrth y Ddesg Gwybodaeth, yn ystod oriau agor y Ddesg Gwybodaeth. |
Benthyciadau gliniaduron |
Gellir benthyg gliniaduron o'n Loceri Gliniadur yn Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton (yn amodol ar argaeledd). Gweler ein tudalen Loceri Gliniaduron am fwy o wybodaeth am fenthyg a dychwelyd gliniaduron. |
Mannau astudio |
Mae yna fannau astudio/CP neilltuadwy a mynediad agored ar gael yn Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Gellir defnyddio mannau sydd wedi'u nodi fel 'Mynediad Agored' yn y llyfrgell ar unrhyw adeg heb orfod archebu. Gweler ein tudalen Archebu Man Astudio/CP am wybodaeth am sut mai archebu man neilltuadwy. |
Ymholiadau Llyfrgell Gyffredinol |
Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth ar dudalennau we'r llyfrgell: E-bostiwch Dîm Llyfrgell MyUni neu ffoniwch +44 (0) 1792 (60)6400 |
Ymholiadau Llyfrgell sy'n benodol i'ch pwnc |
Gweler ein Canllawiau Llyfrgell Gallwch hefyd sgwrsio gyda llyfrgellydd ar-lein trwy ddefnyddio'n wasanaeth Holi Llyfrgellydd ar y gwefan Canllawiau Llyfrgell |
Casglu'ch cerdyn adnabod |
Os ydych chi'n fyfyriwr newydd ac mae angen i chi casglu eich cerdyn adnabod myfyriwr, gweler ein tudalen Casglu Cardiau Adnabod. Os ydych chi'n aelod newydd staff ac mae angen i chi casglu eich cerdyn adnabod staff, gweler y wybodaeth am gasglu eich cerdyn adnabod staff ar Fewnrwyd y Staff. Os ydych chi'n fyfyriwr neu aelod staff ac mae angen cerdyn adnabod newydd arnoch, ymwelwch â Desg Gwybodaeth y Llyfrgell yn ystod oriau agor y ddesg, os gwelwch yn dda. Sylwch, codir tal o £4.00 i amnewid cardiau coll neu sydd wedi'u difrodi, a bydd angen i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig. |
Y tu allan i gyfnodau Mynediad Cyfyngedig, rydym yn croesawu ymelwyr i lyfrgelloedd campws Parc Singleton a'r Bae, llyfrgell Banwen a Llyfrgell Glowyr De Cymru yn ystod oriau staff. Gwiriwch ein tudalennau gwe Oriau Agor a Lleoliadau Llyfrgelloedd ar gyfer y llyfrgell rydych chi am fynd i.
Bydd mynediad i adeiladau'r llyfrgell Prifysgol Abertawe yn gyfyngedig i fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe ac aelodau Mynediad SCONUL yn unig, yn ystod y cyfnodau canlynol:
Ni threfnir unrhyw gyfnodau mynediad cyfyngedig ar hyn o bryd.
Yn ystod cyfnodau mynediad cyfyngedig, bydd ymchwilwyr yn dal i allu ymweld â Llyfrgell y Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton drwy apwyntiad. Hefyd, caniateir benthycwyr allanol gael mynediad i'r llyfrgell i ddychwelyd eitemau, os oes ganddynt fenthyciadau a bydd yn dod yn ddyledus yn ystod y cyfnod mynediad cyfyngedig.
Lleolir Llyfrgell Parc Singleton ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe.
Gellir dod o hyd i gyfarwyddiadau i Gampws Parc Singleton ar ein tudalen Sut i Ddod o Hyd i Ni.
Adeilad rhif 7 yw Llyfrgell Parc Singleton, ar y Cynllun Campws Parc Singleton.
Llyfrgell Parc Singleton
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe
SA2 8PP
Ffôn: +44 (0)1792 (60)6400
Rydym yn croesawu pob math o adborth ar yr ardaloedd yn y llyfrgell a’n wasanaethau.
Hoffwn glywed oddi wrthoch! Gadewch i ni wybod eich barn yma!