Mae'r R.V. Mary Anning yn long ymchwil arolwg 18m pwrpasol, a ddyluniwyd fel platfform gweithio sefydlog a all weithio ar y lan yn ogystal ag ar y môr, gyda digon o gyflymder i gyrraedd cyrchfannau yn gyflym os oes angen, ei chyflymder mwyaf economaidd yw 18kts - sy'n weddol gyflym i long o'r maint hwn.
Mae gan y Ganolfan Ymchwil Dyfrol Cynaliadwy (CSAR) systemau dyframaeth cylchol modern, cwbl raglenadwy. Dyluniwyd CSAR ar gyfer ymchwil gymhwysol ar ystod amrywiol o organebau dyfrol, o amgylcheddau tymherus i drofannol a morol i amgylcheddau dŵr croyw.
Mae ein labordy addysgu Biowyddorau ac ystafell TG wedi cael eu hadnewyddu fel rhan o ymrwymiad parhaus y Brifysgol i wella'r amgylchedd dysgu ac addysgu. Mae'r labordai yn cynnwys ystod lawn o gyfleusterau AV sy'n gallu trosglwyddo allbwn o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron personol, chwaraewyr DVD ac unedau delweddu/camera i sawl sgrin plasma.
Mae'r labordy arbenigol hwn yn cynnal dadansoddiad hormonau anfewnwthiol ac yn mynd i'r afael â chwestiynau amserol mewn endocrinoleg gyffredinol ac ymddygiadol. Mae ymchwil yn cynnwys meintioli hormonau amrywiol (e.e. hormonau atgenhedlu a straen) mewn dŵr, gwallt, poer, a samplau ysgarthol, a gesglir o ystod eang o rywogaethau o bysgod i fodau dynol.
Defnyddir y Labordy Ymddygiad Arthropod i fonitro ymddygiad pryfed gan ddefnyddio camerâu fideo confensiynol yn ogystal â synwyryddion cysylltiedig ag anifeiliaid fel cyflymromedrau a ddatblygwyd yn y Labordy Adeiladu Tagiau a'u dadansoddi yn yr ystafell ddelweddu. Mae prosiectau’n cynnwys ymateb plâu pryfed i semiogemegion ac asesu ciwiau ymddygiadol sy’n ymwneud â ‘stâd’.
Mae'r Lab Adeiladu Tagiau wedi'i sefydlu ar gyfer ymchwilio, datblygu a gwireddu tagiau anifeiliaid sydd â galluoedd newydd i astudio achosion a chanlyniadau symud anifeiliaid trwy ddefnyddio technoleg sy'n gysylltiedig ag anifeiliaid. Mae'r gwaith yn cynnwys synwyryddion, systemau cynaeafu ynni, a lleihau maint electroneg ynghyd â thechnoleg argraffu 3-D a phrofi gorchuddion fel y gellir adeiladu tagiau i fod yn gadarn wrth gael yr effaith leiaf bosibl ar eu gwisgwyr.
Cysylltwch â ni
Adran Biowyddoniaeth, Adeilad Wallace, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP.