- Disgrifiad
Mae'r Ddoethuriaeth Broffesiynol ran-amser hon mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn addas i ymarferwyr proffesiynol presennol sy'n dymuno cynyddu eu dysgu proffesiynol a'u harbenigedd ymchwil.
Bydd y rhaglen yn adeiladu ar gysylltiadau â byd diwydiant yn yr Ysgol ac yn cefnogi datblygiad arweinwyr y dyfodol yn eu proffesiynau.
Byddwch yn cael cyfle i astudio ar raglen a fydd yn cyfuno gwybodaeth ryngddisgyblaethol a dysgu drwy brofiad â gwybodaeth am bynciau penodol, ond a fydd hefyd yn cael ei harwain gan ymchwil ac yn canolbwyntio ar eich maes ymarfer eich hun (lle bo hyn yn berthnasol).
Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil wreiddiol sylweddol ynghyd ag ysgolheictod o safon a fyddai'n bodloni adolygiad gan gymheiriaid ac felly bydd y rhaglen yn bodloni'r gofynion ar gyfer dyfarniadau doethurol.
Bydd y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn cynnwys dau gam gwahanol i'w cyflwyno ar Lefel 8 y FfCAU.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Cam Un - yr elfen a addysgir - Blynyddoedd Un i Dri
Bydd hwn yn cynnwys pedwar modiwl gwerth 30 credyd sy'n canolbwyntio ar fethodoleg, ac un modiwl gwerth 60 credyd, ynghyd â sesiynau hyfforddi sgiliau arbenigol.
Caiff y modiwlau a'r sesiynau hyn eu haddysgu drwy gyfres o wyth ysgol benwythnos ar sail dysgu wyneb yn wyneb a chyfunol.
Bydd modiwl blwyddyn tri yn bont rhwng yr elfen wedi'i haddysgu o'r cwrs a'r prosiect ymchwil terfynol. Bydd yn canolbwyntio ar lunio mandad y prosiect ymchwil terfynol ar ffurf astudiaeth gwmpasu, astudiaeth beilot neu gynnig ymchwil manwl. Caiff ei greu'n annibynnol gan y myfyriwr, gyda chymorth tiwtor a enwebir gan Gyfarwyddwr y Rhaglen.
Cam Dau – Elfennau Ymchwil – Blynyddoedd Pedwar i Chwech
Ar ôl cwblhau cam un yn llwyddiannus, byddwch yn symud i'r cam ymchwil, pan fyddwch yn ymgymryd ag ymchwil wreiddiol, i'w chyflwyno a'i hamddiffyn yn ystod arholiad llafar, yn debyg i raglenni doethurol eraill.
Erbyn diwedd y cam ymchwil, byddwch wedi llunio traethawd ymchwil rhwng 50,000 a 60,000 o eiriau. Ni fyddwch yn dechrau gweithio ar y traethawd ymchwil nes i chi gwblhau'r modiwlau a addysgir. Serch hynny, bydd cymorth ar gael ar ffurf trafodaethau cynnar â goruchwylwyr traethawd ymchwil a fydd hefyd yn gweithredu fel mentoriaid academaidd drwy gydol y rhaglen.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- 24/25 - 25/26
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.