Peirianneg Gemegol & Gwyddor Deunyddiau: Pilenni Microfandyllog ar gyfer Batris Llif Haearn-Sylffwr Sefydlog a Rhad (RS988)
Dyddiad cau: 16 Tachwedd 2026
Gwybodaeth Allweddol
Ar agor i: Ymgeiswyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU yn unig
Darparwyr y cyllid: Sefydliad Faraday a Leaf-Tech Ltd
Y meysydd pwnc: Peirianneg Gemegol, Cemeg, Gwyddor Deunyddiau
Dyddiadau dechrau'r prosiect: Ionawr 2027
*(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).
** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.
Goruchwylwyr:
- Dr Rui Tan rui.tan@swansea.ac.uk
- Dr Anji Munnangi a.r.munnangi@swansea.ac.uk
- Dr Yuanxi Yang yuanxi.yang@leaf-techltd.com
Rhaglen astudio gydnaws: Peirianneg Gemegol, Ph.D. / M.Phil.
Dull astudio: Amser llawn
Man Astudio: Prifysgol Abertawe (Campus Y Bae)
Disgrifiad o'r Prosiect:
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gynnig ysgoloriaeth PhD wedi’i hariannu’n llawn fel rhan o Raglen Hyfforddi PhD Sefydliad Faraday, sy’n canolbwyntio ar ddatblygu pilenni microfandyllog cenhedlaeth nesaf ar gyfer batris llif rhydocs haearn–sylffwr (Fe–S) cost isel ar gyfer storio ynni hirdymor.
Mae pilenni gwahanu yn hanfodol i effeithlonrwydd ac oes batris llif rhydocs; fodd bynnag, mae pilenni masnachol presennol yn dioddef o groesdrosglwyddo sylweddol o rywogaethau gweithredol, gan arwain at golli capasiti a lleihau effeithlonrwydd gweithredol. Bydd y prosiect hwn yn ymchwilio i sut mae strwythur moleciwlaidd, microfandyllrwydd a swyddogaethedd cemegol polymerau microfandyllrwydd cynhenid (PIMs) yn rheoli cludiant a detholusrwydd ïonau mewn cemegau batris Fe–S. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dylunio ac yn syntheseiddio PIMs swyddogaethol â mandyllau is-nanometr wedi’u teilwra, yn datblygu pilenni y gellir eu prosesu o hydoddiant, ac yn sefydlu perthnasoedd meintiol rhwng strwythur, cludiant ïonau a pherfformiad batri drwy nodweddu pilenni uwch a phrofion electrocemegol.
Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan Dr Rui Tan ym Mhrifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad agos â Leaf-Tech Ltd, partner diwydiannol sy’n gweithio ar ddatblygu a chynyddu graddfa deunyddiau a thechnolegau uwch ar gyfer cymwysiadau ynni.
Mae grŵp ymchwil Dr Rui Tan yn canolbwyntio ar bolymerau microfandyllog swyddogaethol, pilenni cludiant ïonau detholus a storio ynni electrocemegol, gydag arbenigedd penodol mewn pilenni wedi’u peiriannu ar lefel foleciwlaidd a’u cymhwyso mewn batris llif rhydocs a systemau batri newydd eraill. Bydd Leaf-Tech Ltd yn cefnogi cynyddu graddfa a gweithgynhyrchu deunyddiau a philenni PIM, yn ogystal â darparu mewnbwn technegol a mentora diwydiannol i werthuso eu gweithgynhyrchadwyedd, eu graddadwyedd a’u potensial masnachol ar gyfer batris llif cenhedlaeth nesaf.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgymryd â lleoliad diwydiannol gyda Leaf-Tech Ltd yn ystod y PhD, gan ennill profiad uniongyrchol mewn cynyddu graddfa polymerau a philenni, gweithgynhyrchu, optimeiddio prosesau a heriau ymchwil a datblygu diwydiannol sy’n gysylltiedig â throsi deunyddiau pilen uwch o ddarganfyddiadau labordy i dechnolegau storio ynni hirdymor ymarferol.
Cymhwyster
PhD: Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer PhD feddu ar radd israddedig ar lefel 2.1 o leiaf (neu gyfwerth o'r tu allan i'r DU fel y'i diffinnir gan Brifysgol Abertawe) mewn Peirianneg neu mewn disgyblaeth berthnasol debyg.
Iaith Saesneg
IELTS 6.5 yn gyffredinol (gyda sgôr o o leiaf 5.5 ym mhob elfen unigol) neu gyfwerth sy'n cael ei gydnabod gan Brifysgol Abertawe. Ceir manylion llawn yma am ein polisi Iaith Saesneg, gan gynnwys cyfnod dilysrwydd tystysgrifau.
Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:
Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.
Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.
Sylwer bod y rhaglen yn gofyn i rai ymgeiswyr feddu ar gymeradwyaeth ATAS, mae mwy o fanylion am gymwysterau'r cynllun ATAS ar wefan Llywodraeth y DU.
NID yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses ymgeisio am ysgoloriaeth. Rhoddir manylion i ddeiliaid dyfarniad (fel y bo'n briodol) ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar yr un pryd â chael cynnig ysgoloriaeth am gwrs.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI (£21,805 for 2026/27) - Hydref 2026 ymlaen
Yn ogystal â chyflog byw UKRI, bydd pob ymchwilydd hefyd yn derbyn £2,000 y flwyddyn i gefnogi hyfforddiant a nwyddau traul, ynghyd â mynediad at Raglen Hyfforddi PhD bwrpasol Sefydliad Faraday, sydd werth tua £5,000 y flwyddyn.
Oherwydd cyfyngiadau cyllid, mae'r ysgoloriaeth hon ar agor i ymgeiswyr sy'n gymwys i dalu ffïoedd dysgu ar gyfradd y DU yn unig, fel y’i diffinnir gan UKCISA (Rhestr lawn o gategorïau ar gyfer addysg uwch yng Nghymru)
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon.
Gallwch gyflwyno cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Gweler Polisi Prifysgol Abertawe ar ddyfarnu grantiau a darparu cymorth ariannol
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth hon, mae angen y camau canlynol hefyd.
1) Yn yr adran 'Gwybodaeth sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen', rhowch y Cod RS perthnasol ar gyfer y dyfarniad ysgoloriaeth h.y. RS988
2) Yn yr adran 'Ymchwil' fe welwch 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth'* (Gorfodol)
- Yn 'Teitl prosiect arfaethedig/teitl ysgoloriaeth' rhowch y ddau:
- y Cod RS988, a
- teitl yr ysgoloriaeth.
- Gadewch y maes Goruchwyliwr Arfaethedig yn wag
- Gadewch y Prosiect Ymchwil (os yw'n berthnasol) yn wag
- Yn 'Oes gennych gynnig i'w uwchlwytho?*' (Gorfodol) Dewiswch Ydw
- Yna uwchlwythwch gopi o'r hysbyseb (gallwch gadw'r hysbyseb trwy glicio print, ac yna argraffu i pdf)
3) Yn yr adran 'Gwybodaeth am gyllid' dewiswch yr opsiwn 'Cyllid Ysgoloriaeth' yn unig. Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw opsiynau eraill wedi'u dewis.
*Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw rhestru'r wybodaeth uchod yn gywir wrth wneud cais, sylwch na fydd ceisiadau a dderbynnir heb y wybodaeth uchod a restrir yn cael eu hystyried ar gyfer dyfarniad yr ysgoloriaeth.
Os ydych wedi gwneud cais am y rhaglen hon o'r blaen, bydd y system yn arddangos rhybudd 'Cais Wedi'i Gyflwyno' ac yn blocio cyflwyniad newydd. Yn yr achos hwn:
- Gwnewch gais am yr un cwrs gyda'r dyddiad cychwyn nesaf sydd ar gael (e.e., dewiswch Ionawr os nad yw mis Hydref ar gael).
- Anfonwch e-bost at pgrscholarships@abertawe.ac.uk gyda'ch rhif myfyriwr a chod RS yr ysgoloriaeth berthnasol, gan ofyn i'r dyddiad cychwyn gael ei ddiwygio i gyd-fynd â'r hysbyseb.
- Yna bydd staff derbyn yn diweddaru'ch cais yn unol â hynny.
Pwysig: Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais am yr un rhaglen a dyddiad dechrau, peidiwch ag ail-ymgeisio gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir gyda chyfeiriad e-bost sy'n wahanol i'r un a ddefnyddiwyd yn eich cais gwreiddiol yn cael eu derbyn na'u hystyried.
Mae angen un cais i bob dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil unigol dan arweiniad Prifysgol Abertawe; ni ellir ystyried ceisiadau sy'n rhestru sawl dyfarniad ysgoloriaeth ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
NODER: Ymgeiswyr ar gyfer PhD/EngD/ProfD/EdD - er mwyn cefnogi ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd heb wahaniaethu a dathlu amrywiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mae'n ofynnol i chi lenwi Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yn ychwanegol at eich ffurflen gais rhaglen.
Sylwch fod llenwi'r Ffurflen Monitro EDI yn orfodol; Efallai na fydd eich cais yn symud ymlaen os na chyflwynir y wybodaeth hon.
Fel rhan o'ch cais ar-lein, RHAID i chi uwchlwytho'r dogfennau canlynol (peidiwch ag anfon y rhain trwy e-bost):
- CV
- Tystysgrifau gradd a thrawsgrifiadau (os ydych chi'n astudio ar gyfer gradd ar hyn o bryd, mae sgrinluniau o'ch graddau hyd yma yn ddigonol)
- Llythyr cyflwyno sy'n cynnwys 'Datganiad Personol Atodol' i esbonio pam mae'r swydd yn cyd-fynd yn arbennig â'ch sgiliau a'ch profiad a sut rydych chi'n dewis datblygu'r prosiect.
- Un geirda (academaidd neu gyflogwr blaenorol) ar bapur pennawd neu gan ddefnyddio ffurflen geirda Prifysgol Abertawe. Sylwch nad ydym yn gallu derbyn cyfeiriadau a dderbynnir yn dyfynnu cyfrifon e-bost preifat, e.e. Hotmail. Dylai dyfarnwyr ddyfynnu eu cyfeiriad e-bost cyflogaeth i wirio geirda.
- Tystiolaeth o fodloni gofynion Iaith Saesneg (os yw'n berthnasol – nodwch gall unrhyw gynnig a wneir fod yn amodol ar y lefel briodol o Saesneg. Mae rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol i'w gweld yma).
- Copi o fisa preswyl y DU (os yw'n berthnasol)
- Cadarnhau cyflwyno ffurflen EDI
Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:
- Dr Rui Tan rui.tan@abertawe.ac.uk
- Dr Anji Munnangi a.r.munnangi@abertawe.ac.uk
- Dr Yuanxi Yang yuanxi.yang@leaf-techltd.com
*Rhannu Data Cais Partner Allanol – Sylwer, fel rhan o'r broses dethol ceisiadau am ysgoloriaeth, y gall rhannu data cais ddigwydd gyda phartneriaid allanol y tu allan i'r Brifysgol, pan fo cyd-ariannu prosiect ysgoloriaeth yn berthnasol.