Abertawe-Wuhan: Partneriaeth Chwaer-Ddinasoedd
Mae cysylltiadau rhwng dinasoedd Abertawe a Wuhan yn dyddio'n ôl i 1855 pan sefydlodd y cenhadwr o Abertawe, Griffith John, Ysbyty Undeb Wuhan.
Cryfhawyd y berthynas hon pan lofnododd cynrychiolwyr o'r ddwy ddinas gytundeb i gydweithredu ym meysydd masnach, trafnidiaeth a logisteg, diwylliant a chwaraeon, twristiaeth ac addysg.
Atgyfnerthwyd y berthynas ymhellach pan lofnodwyd cytundeb chwaer-ddinas yn 2018 er mwyn caniatáu i'r dinasoedd ddysgu gan ei gilydd a rhannu arfer gorau mewn amrywiaeth o feysydd. Mae gan Brifysgol Abertawe berthynas hirsefydlog ag Ysbyty Undeb Wuhan ac mae wedi datblygu cydweithrediadau ym meysydd addysgu, recriwtio ac ymchwil â nifer o brifysgolion y ddinas.
Sefydliadau Cydweithredu
PARTNERIAID YMCHWIL: Ysbyty Undeb Wuhan; Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Huazhong (HUST); Prifysgol Wuhan
PARTNERIAID RECRIWTIO: Prifysgol Fusnes Wuhan; Prifysgol Donghu Wuhan; Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Wuhan; Sefydliad Technoleg Adeiladu Llongau Wuhan; Prifysgol y Gwyddorau Daear Tsieina, Wuhan
Yn Gryno: Cydweithrediadau Ymchwil
- 70 o bapurau wedi'u hysgrifennu ar y cyd
- 15,000 o ddyfyniadau
- 62 - Effaith a asesir ar sail dyfyniadau o'u cymharu â'r cyfartaledd am y maes
- 46 o gyd-awduron yn Wuhan
- 19 papur wedi'u cyhoeddi yn The Lancet
Cydweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19
Cydweithio yn y frwydr yn erbyn COVID-19
Oherwydd y cysylltiad unigryw rhwng y Brifysgol a Wuhan, cafodd arbenigwyr meddygol o bob cwr o Gymru gyfle i gydweithio â rhai o'r meddygon cyntaf i fynd i’r afael â her y coronafeirws.
Drwy gynhadledd fideo a drefnwyd rhwng cynrychiolwyr byrddau iechyd Cymru ac uwch-feddygon yn Ysbyty Wuhan, cafodd clinigwyr Cymru sydd yn rheng flaen y frwydr yn erbyn y pandemig ar hyn o bryd gyfle i rannu profiadau a dysgu gan staff a wynebodd her COVID-19 yn nyddiau cynharaf y pandemig. Mynychodd y Llysgennad Prydeinig yn Tsieina, Caroline Wilson CMG, y gynhadledd ddiweddaraf, ym mis Rhagfyr 2020.
Canolfan Feddygol ar y cyd Abertawe-Wuhan
Yn 2014 sefydlwyd Canolfan Feddygol Abertawe-Wuhan ar y cyd ag Ysbyty Undeb Wuhan. Bydd y Ganolfan yn hyrwyddo ymchwil yn y gwyddorau clinigol a bywyd ac yn hwyluso ymweliadau cyfnewid rhwng myfyrwyr a staff a chydweithrediadau addysg drwy'r Fforwm Meddygol Blynyddol, Cymdeithas Feddygol y DU-Tsieina, cyhoeddiadau a phrosiectau cydweithredol.
Yn 2015, cynhaliodd Prifysgol Abertawe'r ail Fforwm Meddygol rhwng yr UD a Tsieina a ddarparodd gyfle i arbenigwyr meddygol o'r DU a Tsieina gyfnewid gwybodaeth am bynciau amrywiol, gan gynnwys clefydau esgyrn, canserau gynaecolegol a thechnoleg argraffu 3D at ddiben aildyfu meinweoedd.
Ysbyty Cyfeillgarwch Tsieina-Y DU
Ysbyty Cyfeillgarwch Tsieina a'r DU
Gan adeiladu ar y berthynas hirsefydlog rhwng Abertawe ac Ysbyty Undeb Wuhan, cyfarfu cynrychiolwyr o'r ddwy ochr yn 2019 i drafod sefydlu Ysbyty Cyfeillgarwch Tsieina a'r DU yn Wuhan.
Bydd y prosiect arfaethedig yn cryfhau cysylltiadau rhwng dinasoedd Abertawe a Wuhan ymhellach a bydd yn cefnogi cydweithrediadau ym meysydd addysg, ymchwil, hyfforddiant a chyfnewid myfyrwyr.
Bydd hefyd yn darparu sylfaen newydd ar gyfer Canolfan Feddygol Abertawe-Wuhan yn ogystal â chyd-gyfleusterau newydd eraill.
Cyhoeddiadau diweddar
CYHOEDDIADAU DIWEDDAR
- Barrier Lake Formation due to Landslide impacting a River
- Stochastic Discrete Element Modelling of Rough Particles - A Random Normal Interaction Law
- The Effect of Noise Intensity on Parabolic Equations
- Mechatronic Design and Control of a 3D Printed Low Cost Robotic Upper Limb
- Low Cost, Nature-Based Solutions for Managing Aquatic Resources: Integrating the Principles of Ecohydrology and the Circular Economy
Wuhan
Prifddinas talaith Hubei, mae Wuhan yn ganolfan o bwys am fasnach, cyllid, trafnidiaeth, TG ac addysg.
Mae'n gartref i 35 sefydliad addysg uwch, gan gynnwys Prifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Huazhong (HUST) a Phrifysgol Wuhan, ill dau wedi'u cydnabod fel Prifysgolion Dosbarth Cyntaf Dwbl Dosbarth A.
Fel yn Abertawe, mae gweithgynhyrchu metelau wedi chwarae rôl bwysig yn economi Wuhan ac, ochr yn ochr â hyn, mae diwydiannau pwysig bellach yn cynnwys electroneg optegol, gweithgynhyrchu moduron, peirianneg fiolegol, fferylliaeth a diogelu amgylcheddol.
Griffith John
Roedd y cenhadwr o Abertawe, Griffith John, yn 24 oed pan hwyliodd am Tsieina ym 1855. Bu'n gwasanaethu Tsieina am 55 o flynyddoedd, ac yn ystod y cyfnod hwn, sefydlodd ysgolion, colegau hyfforddiant ac ysbytai, gan gynnwys Ysbyty Undeb Wuhan.
Bellach yn un o ysbytai mwyaf Tsieina, mae gan Ysbyty Undeb Wuhan fwy na 5,000 o welyau i gleifion mewnol ac mae'n trin dros dair miliwn o gleifion bob blwyddyn. Mae hefyd yn gartref i ganolfan feddygol ar y cyd â Phrifysgol Abertawe a agorwyd yn 2018. Gellir gweld penddelw o Griffith John gan y cerflunydd Xiang Jinguo a roddwyd i Abertawe gan Ysbyty’r Undeb yn Amgueddfa Abertawe.