Mae'r erthyglau hyn bellach wedi'u harchifo ac ni fyddant yn cael eu diweddaru mwyach

Cyswllt prifysgol â Wuhan yn uno arbenigwyr i ymladd COVID-19

Flashback i 2015 pan deithiodd yr Athro Keith Lloyd (dde), pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe i China a chwrdd â chydweithwyr o Ysbyty Undeb Wuhan

Mae Prifysgol Abertawe wedi defnyddio ei chysylltiad unigryw â Wuhan i ddod ag arbenigwyr o bob rhan o Gymru ynghyd â rhai o'r ymarferwyr meddygol cyntaf i fynd i'r afael â coronafeirws. 

Gwnaeth y Brifysgol chwarae rôl allweddol, ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, wrth drefnu cynhadledd fideo rhwng cynrychiolwyr o fyrddau iechyd yng Nghymru ac uwch-feddygon yn Ysbyty Undeb Wuhan.

Mae'r ysbyty yn Tsieina yn gartref i ganolfan feddygol ar y cyd, a agorwyd ddwy flynedd yn ôl yn dilyn cydweithrediad hirsefydlog a llwyddiannus rhwng y Brifysgol a'r ysbyty. Fe'i sefydlwyd i hyrwyddo ymchwil glinigol ac ymchwil gwyddorau bywyd, a chreu cyfleoedd cyfnewid i fyfyrwyr a staff yn ogystal â datblygu cydweithrediad addysgol a phroffesiynol.

Arweiniodd y cysylltiadau hynny at gynhadledd lwyddiannus yr wythnos diwethaf a roddodd gyfle i glinigwyr yng Nghymru sydd yn rheng flaen y frwydr yn erbyn y pandemig ar hyn o bryd rannu profiadau a dysgu oddi wrth staff a aeth i'r afael â COVID-19 ar y cychwyn cyntaf.

Trefnwyd y gynhadledd gan yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth yr Ysgol Feddygaeth, a'r Athro Richard Evans, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a'r gobaith nawr yw y bydd yn ysgogi rhagor o gydweithrediad wrth i'r pandemig barhau.

Meddai'r Athro Lloyd: “O ganlyniad i'r diddordeb cynyddol yn y gynhadledd, yn y diwedd cymerodd cynrychiolwyr ran o fyrddau iechyd ym mhob rhan o Gymru a wnaeth achub ar y cyfle i siarad â'u cymheiriaid yn Wuhan.

“Cawsant gyfle i grybwyll amrywiaeth o faterion ynghylch COVID-19 a sut i'w drin. Yn dilyn y cyfarfod, anfonodd y staff yn Wuhan atebion ysgrifenedig a chyflwyniadau atom ynghylch y pynciau a grybwyllwyd.”

Meddai'r Athro Evans: “Roedd hwn yn gyfle gwych i fanteisio ar y cysylltiad rhwng Prifysgol Abertawe ac Ysbyty Undeb Wuhan, gan ddod ag uwch-feddygon ac arbenigwyr o bob rhan o Gymru ynghyd er mwyn rhannu'r gwersi a ddysgwyd gan gydweithwyr yn rheng flaen pandemig COVID-19.”

Roedd y rhain yn cynnwys materion yn ymwneud ag arwyddion clinigol y salwch, brysbennu cleifion sy'n dioddef o coronafeirws, ac elfennau o ofal critigol.

Wedi'i leoli yn y ddinas lle bu farw 1,290 o bobl ar ddechrau'r argyfwng, roedd ysbyty Wuhan wrth wraidd y broses o ofalu am rai o'r cleifion cyntaf oll.

Sylfaenwyd Ysbyty Undeb Wuhan ym 1866 gan y Parchedig Dr Griffith John, cenhadwr a anwyd yn Abertawe. O ganlyniad, mae Abertawe wedi mwynhau cysylltiadau â'r ddinas ers hynny.

Yn ôl yn 2018, teithiodd yr Athro Lloyd ynghyd ag uwch-aelodau eraill o staff yr Ysgol Feddygaeth i Wuhan ar gyfer digwyddiad lansio'r ganolfan feddygol, gan helpu i greu'r cydweithrediad agosach a arweiniodd at y gynhadledd fideo.

Ychwanegodd: “Daeth y cyfarfod â 25 o gynrychiolwyr o Gymru ynghyd â chydweithwyr yn Tsieina ac roedd yn hynod werthfawr. Trwy gysylltiad unigryw'r Brifysgol â Wuhan, cawsom gipolwg go iawn ar yr heriau sy'n deillio o COVID-19 ac rydym yn falch bod y cyfarfod wedi arwain at gynnig cymorth a chydweithrediad parhaus – yn ystod y pandemig ac ar ei ôl.”

Rhannu'r stori