Dewiswyd y Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe fel un o chwech canolfan ar gyfer Bod yn Ddynol 2019, unig ŵyl ddyniaethau genedlaethol y DU.
Bellach yn ei chweched flwyddyn, arweinir Bod yn Ddynol gan yr Ysgol Astudiaethau Uwch ym Mhrifysgol Llundain, mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau a’r Academi Brydeinig. Mae’r bartneriaeth hon yn dwyn ynghyd y tri phrif gorff sy’n ymroi i gefnogi a hyrwyddo ymchwil yn y dyniaethau yn y DU ac yn rhyngwladol.
Gyda’r thema Ddarganfyddiadau a Chyfrinachau, cynhelir dathliad y dyniaethau eleni yn genedlaethol rhwng 14 a 23 Tachwedd 2019, gyda chyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ledled Abertawe.
O dan thema ganolog Ailddarganfod Abertawe: o’r tir i’r môr, gall cynulleidfaoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol, perfformiadau, trafodaethau ac arddangosfa, o ddiwrnod hwyl i’r teulu’n darganfod bywyd ar y llong ryfel Tuduraidd, y Mary Rose, i noson yn archwilio athrylith Sherlock Holmes. Bydd cyfle i wylio Pinocchio wedi’i ailddychmygu i’r gymdeithas orllewinol fodern, sgwrs ryngweithiol am fyd tywyll llofruddiaethau drwy’r oesoedd, a chipolwg ar hanes teulu diwydiannol dylanwadol Abertawe, y teulu Vivian, a llawer mwy!
Cyflwynir y digwyddiadau hyn gan y Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag ystod o bartneriaid o ardal Bae Abertawe.
Dywedodd Dr Elaine Canning (Pennaeth Ymgysylltu a Datblygu Diwylliannol, Sefydliad Diwylliannol, Prifysgol Abertawe): “Rydym yn hynod falch o gynnal canolfan ŵyl fel rhan o Bod yn Ddynol 2019 a dymunwn ddiolch i drefnwyr yr ŵyl am roi’r cyfle cyffrous yma i ni ddod â’n hymchwil i’r gymuned unwaith yn rhagor.”
Digwyddiad Mawr Rhoi Llyfrau am ddim
Ymunwch â ni am ein helfa lyfrau i’r teulu ar draws dinas Abertawe o ddydd Sadwrn 16 Tachwedd! Cyn dathlu canfed pen-blwydd y Brifysgol, byddwn yn cuddio cant o lyfrau yn y lleoedd mwyaf dirgel - ar y traeth, yn un o’n parciau hyfryd, neu efallai mewn arhosfan bws! Os ydych yn dod o hyd i lyfr, cewch ei gadw! Bydd pob llyfr hefyd yn cynnwys neges arbennig, a phan fyddant wedi mynd, ni fydd dim mwy ar gael!
Rediscovering Swansea - arddangosfa newydd
Ymunwch â ni am arddangosfa newydd sy’n addas i’r teulu cyfan lle cewch gyfle i ailddarganfod eich dinas!
- Byddwch yn dysgu am y teulu Vivian a hanodd o Gernyw’n wreiddiol, a’u bywyd yn Abaty Singleton
- Cewch fwy o wybodaeth am y gweithfeydd copr a oedd yn guriad calon bywyd yn Abertawe
- Dewch i ddathlu canmlwyddiant Prifysgol Abertawe sydd ar ddod yn 2020 a chael cipolwg ar ei hanes
14 - 23 Tachwedd
Lleoliad: Llfrgell Campws Singleton Prifysgol Abertawe, Prifysgol Abertawe, Abertawe, SA2 8PP
Amser: Agored 24awr
nid oes angen tocyn - galw heibio!