Rhaglen wych o awduron yng Ngŵyl Llenyddiaeth Plant Abertawe

Cymerodd detholiad disglair o awduron ran yng Ngŵyl Llenyddiaeth Plant Abertawe a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn ystod penwythnos 7-8 Hydref 2023.

Hannah Gold photo

Daeth bron 3,000 o bobl i weld dros 30 o awduron plant adnabyddus o Gymru a ledled y DU yn yr ŵyl am ddim hon mewn sesiynau adrodd straeon, hud a lledrith, cerddoriaeth a drama a gynhaliwyd yn Gymraeg a Saesneg.

Roedd yr awduron yn cynnwys Hannah Gold, enillydd Gwobr Llyfrau Plant Waterstones 2022 ar gyfer Last Bear; y llenor toreithiog ac enillydd Medal Carnegie eleni, Manon Steffan Ros; Alex Wharton, Children's Laureate Wales 2023-2025; Nia Morais, Bardd Plant Cymru 2023-25; enillydd gwobrau di-rif a noddwr The Children’s Bookshow, Owen Sheers a Caryl Lewis sydd wedi ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru sawl tro.

Children at activity table

Yn ymuno â'r rhestr o awduron plant arobryn a thoreithiog, roedd Liz Hyder, Catherine Fisher, Casia William, Rebecca F John, Ivor Baddiel, Robin Bennett, Lee Newbery, Lesley Parr, Stephanie Burgis, E L Norry, Huw Lewis-Jones, Helen a Thomas Docherty a llawer mwy.

Trefnwyd yr Ŵyl Llenyddiaeth Plant mewn partneriaeth ag Achub y Plant Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Storyopolis, Cover to Cover a'r Austin Bailey Foundation.

Golwg ôl-weithredol ar ŵyl Llenyddiaeth Plant Abertawe AM DDIM gyntaf erioed. Cyflwynwyd gan Jon Doyle

Adborth gan yr awduron

'Gwych! Cymaint o hwyl ac wedi'i threfnu'n dda. Gwirfoddolwyr gwych a lleoliad hyfryd. Rwy'n teimlo fy nghalon yn codi wrth i fi yrru dros y ffin i Gymru.'

'Roedd hi wir yn ŵyl arbennig iawn ac, yn fy marn i, roedd hi'n unigryw am fod mor gynhwysol ac arddangos cymaint o'r ddawn sydd gennym ni yma yng Nghymru neu sydd â chysylltiadau â Chymru.'

'Am ŵyl fendigedig, roedd y trefniadau mor dda ac roedd bwrlwm hyfryd amdani. Ac am leoliad hyfryd! Da iawn bawb a oedd yn rhan o'r trefnu'. 

'Roedd honno'n ŵyl anhygoel. Mwynheais i bob eiliad. Diolch o galon am fy ngwahodd. Roeddech chi a'ch tîm yn gampus! Ac roedd y plant yn anhygoel hefyd! Gobeithio bydd ein llwybrau'n croesi eto'n fuan!'

'Cafodd yr ŵyl ei threfnu mor dda, roedd amrywiaeth wych o awduron a darlunwyr a thîm gwych o wirfoddolwyr. Dwi wir yn gobeithio mai hwn yw'r un cyntaf o lawer o ddigwyddiadau tebyg yn Abertawe ac y galla i fod yn rhan o wyliau'r dyfodol.'    

Alex Wharton onstage
Catherine Barr and Children
Owen Sheers reading
Clara Vulliamy presenting
Mother and daughter creating
Boy drawing artwork on glass window display
Father and two daughters sat at table creating
Father and daughter creating

Beth ddywedodd ein mynychwyr gŵyl...

'Gwnewch e' eto y flwyddyn nesaf. Roedd e'n wych!'

'Roeddwn i'n hoffi'r dull rhyngweithiol a ddefnyddiwyd i gyfleu llenyddiaeth i blant.'

'Nifer wych o ddigwyddiadau gyda mannau i blant ymlacio, lliwio a bod yn greadigol.'

'Hyfryd gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio gyda chyswllt da i'r testunau a geir yn yr ysgol.'

'Awyrgylch hyfryd gyda llawer o weithgareddau i hyrwyddo darllen, llysgenhadon gwych.'

'Roedd hi'n hyfryd gallu cwrdd â'r awduron mor hwylus - gwnaeth fy merch hoffi cael ei llyfr wedi'i lofnodi.'

'Roedd hi'n hyfryd bod y plant wedi cyffroi am y llyfrau a bod yn opsiwn hygyrch iddynt ar gyfer y dyfodol.'

'Dewis gwych o sesiynau ar gyfer pob oedran gyda gweithgareddau ysgogol a llawn hwyl i gymryd rhan ynddynt!Gwnaeth fy merch ddwlu ar y profiad.'

'Roedd yr amrywiaeth o awduron a darlunwyr yn wych. Roedd yr holl sesiynau'n wych. Roedd yr holl staff yn hynod gymwynasgar.'

'Roedd y sgyrsiau hynod ddiddorol gan yr awdur wedi ysbrydoli fy mhlant a gwnaethant fwynhau sgwrsio â'r awduron wrth iddynt gael llofnod ar eu llyfrau.'

'Byddai'n hyfryd cynnal hyn bob blwyddyn a'i dyfu.'

'Roedd e'n ddigwyddiad ardderchog.Roedd hi'n wych gweld yr awduron yn y cnawd, clywed barddoniaeth yn fyw a chael y profiad i gwrdd ag un o'n hoff awduron ar ôl y digwyddiad a chael llofnod ar ein llyfrau gan y person a wnaeth ei ysgrifennu! Cafodd fy mhlant eu hysbrydoli'n llwyr!'

'Gwnaethom ddwlu ar bopeth, roedd yr awduron yn llawn ysbrydoliaeth a hwyl. Gwnaethom adael gyda syniadau a llyfrau hyfryd yr awduron er mwyn i ni eu darllen.'

'Mae fy merch 9 oed yn dechrau darllen llyfrau go iawn.Roedd cwrdd ag awduron, a chlywed y straeon wedi bwydo ei dychymyg.'

Saturday interns
Sunday interns
Children's Literature Festival 2023

Sgroliwch trwy fwy o luniau'r ŵyl yma