Trosolwg
Mae Ansgar yn Microeconomegydd Cymhwysol, sy'n defnyddio damcaniaeth gemau gymhwysol, dulliau Microeconomeg empirig ac arbrofion labordy yn ei ymchwil. Ei brif faes diddordeb yw Economeg a’r Gyfraith, h.y. dadansoddiad economaidd o effeithiau cymhellol cyfreithiau. Ymhlith y pynciau y mae Ansgar wedi gweithio arnynt mae cymhellion asiantaeth orfodi i ymchwilio i achosion a gosod cosb, dyluniad optimaidd y weithdrefn gyfreithiol ac effaith cyfraith camwedd ar gymhellion posibl yr anafwr i gymryd rhagofalon. Enghreifftiau o’r meysydd eraill y mae wedi gweithio ynddynt yw iechyd, addysg, cyllid cyhoeddus, rheoleiddio banciau a threfniadaeth ddiwydiannol. Mae effaith ei ymchwil ar y byd go iawn yn amrywio o ddyfyniadau mewn dadleuon yn San Steffan i brosiect polisi parhaus ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Cyn ymuno ag Abertawe, bu'n gweithio ym Mhrifysgolion Portsmouth, Bonn ac Aachen, a'r tu allan i academia yn PricewaterhouseCoopers.