A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon
Ms Christiane Guenther

Ms Christiane Guenther

Uwch-ddarlithydd
Modern Languages

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513021

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd

Trosolwg

Mae Christiane Günther yn addysgu modiwlau Almaeneg, cyfieithu ac addysgu iaith i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Derbyniodd y Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu am ei chyfraniadau rhagorol i brofiad dysgu’r myfyrwyr yn 2014, ac enillodd Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch yn 2017.

Cyn ei swydd bresennol fel Darlithydd mewn Almaeneg, ymunodd Christiane â’r Adran fel Darlithydd y Deutscher Akademischer Austauschdienst (DAAD)  - y Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd Almaeneg yn 2011.Cyn hynny, bu’n gweithio fel Lektorin, athrawes a hyfforddwraig ryngddiwylliannol ym Mhrifysgol Potsdam a sefydliadau iaith ym Merlin, Mendoza (yr Ariannin) a Phrifysgol Mississippi, UDA.Ar wahân i radd Meistr yn y Celfyddydau mewn Almaeneg, Caffael Ail Iaith a TESOL, mae ganddi dystysgrif CELTA (A) ac mae’n gyfryngydd hyfforddedig.

Yn ogystal ag addysgu, mae Christiane yn rhoi cyngor i fyfyrwyr ynghylch yr ysgoloriaethau a’r cyflogau sydd ar gael gan y DAAD, ac mae’n trefnu teithiau astudio i’r Almaen sy’n para am wythnos ar gyfer myfyrwyr yr Almaeneg yn Abertawe.At hynny, hi yw’r aelod o staff sy’n cydlynu’r Gymdeithas Almaeneg ac mae’n cydlynu gweithdai rhyngddiwylliannol ar gyfer myfyrwyr sy’n mynd ar eu blwyddyn dramor ac mae’n cynnig hyfforddiant i staff yn y maes hwnnw.

Hefyd, mae Christiane yn hyfforddwraig ar gyfer y Goethe-Institut yn Llundain ac mae’n cynnig cyrsiau uwchsgilio ar gyfer athrawon yr Almaeneg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Meysydd Arbenigedd

  • Addysgu’r Almaeneg
  • Addysgu iaith – addysgeg a didacteg
  • Cyfieithu ym meysydd ‘Llywodraeth Leol’ ac ‘Iechyd’
  • Gweithdai rhyngddiwylliannol
  • Cyrsiau uwchsgilio ar gyfe athrawon yr Almaeneg
  • Sesiynau blasu’r Almaeneg
  • Ysgoloriaethau DAAD

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Yr Almaeneg a diwylliant yr Almaen

Addysgu iaith

Caffael Ail Iaith

Cyfieithu Yr Almaeneg a diwylliant yr Almaen

Ymchwil Prif Wobrau