Trosolwg
Mae gan Dario Debowicz DPhil mewn Economeg o Brifysgol Sussex, ac mae’n gweithio ym maes Economeg Datblygu Cymhwysol ac Economi Wleidyddol. Mae Dr Debowicz wedi cynllunio a darparu hyfforddiant mewn modelu economaidd, microefelychiadau ac adeiladu cronfeydd data mewn gwahanol Brifysgolion a sefydliadau ymchwil mewn gwledydd sy'n datblygu ar gyfer y Sefydliad Ymchwil Polisi Bwyd Rhyngwladol (IFPRI) mewn cydweithrediad â Sefydliad Kiel ar gyfer Economi'r Byd, ac mae wedi gweithio i'r Fenter Ymchwil Rhyngwladol a ariennir gan DFID ar Brasil ac Affrica, a oedd yn cynnwys cyfres o Brifysgolion o wahanol rannau o'r byd. Ar hyn o bryd mae Dr Debowicz yn gweithio ar y cysylltiad rhwng systemau etholiadol a dosbarthiad incwm pan fo pryderon anghydraddoldeb, ac mae wedi cyhoeddi yn Journal of Economic History, Journal of Policy Modelling a Journal of Economic Modelling, ymhlith eraill.