Singleton park campus

Dr Emily Lowthian

Darlithydd mewn Addysg
Education and Childhood Studies

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1570

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Lowthian yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Astudiaethau Addysg a Phlentyndod, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Cwblhaodd ei PhD yn DECIPHer, Prifysgol Caerdydd yn 2021, a chyn hynny fe'i cyflogwyd gan Health Data Research UK ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys defnyddio dulliau ymchwil meintiol i ateb cwestiynau pwysig ynghylch iechyd a lles plant. Mae ei diddordebau ymchwil presennol yn ymwneud â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), niwed eilaidd defnydd sylweddau gan rieni, a phlant sy'n agored i niwed (e.e. plant sy'n derbyn gofal). Ymysg y rhain, mae ganddi ddiddordeb mewn cyfraniad rhianta, amgylchedd y teulu, ac anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol fel ffactorau addasu posibl. Mae ei harbenigedd methodolegol ym maes dulliau meintiol, yn benodol modelu hafaliad strwythurol (SEM) a thechnegau uwch eraill (dadansoddi goroesi, effeithiau sefydlog/ar hap). Hefyd, mae ganddi brofiad o ddefnyddio data gweinyddol (labordy diogel SAIL ac UKDA) a data carfan (e.e., ALPSAC, MCS).

Mae ei diddordebau addysgu mewn dulliau ymchwil meintiol yn bennaf, gyda’r nod o ddatblygu sgiliau myfyrwyr yn y maes hwn i'w gymhwyso i'w diddordebau ymchwil eu hunain. Fodd bynnag, mae hi hefyd wedi addysgu anghydraddoldebau iechyd a lles plant i amrywiaeth o ddysgwyr ac mae'n datblygu addysgu ym meysydd adfyd plentyndod. Mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch a gall gynnig addysgu ym meysydd dulliau ymchwil meintiol, dulliau ymchwil meintiol uwch, iechyd a lles plant, gan gynnwys adfyd ac anghydraddoldebau. Mae hi'n agored i oruchwylio ôl-raddedigion ac israddedigion yn y meysydd hyn. 

Mae hi hefyd yn siaradwr Cymraeg sylfaenol

 
 

Meysydd Arbenigedd

  • Dulliau a dylunio meintiol
  • Lles plant (e.e. defnyddio sylweddau, canlyniadau addysg)
  • Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs)
  • Anghydraddoldebau iechyd a lles
  • Rhianta ac amgylchedd y teulu
  • Modelu hafaliadol strwythurol (SEM)
  • Dadansoddia

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Dulliau ymchwil meintiol (sylfaenol i uwch)
  • Iechyd a lles plant
  • Anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol
  • Profiadau Andwyol mewn Plentyndod
  • Hybu Iechyd

Goruchwyliaeth:

  • Traethawd estynedig israddedig
  • Traethawd estynedig Ôl-raddedig (Addysg ac Astudiaethau Plentyndod)
  • Myfyrwyr PhD (mewn meysydd ymchwil)