Dr Emma Richards

Dr Emma Richards

Swyddog Ymchwil
Public Health

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604219

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
212
Ail lawr
Adeilad Talbot
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Emma Richards yn uwch-ymchwilydd yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol ac ar gyfer y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.

Ar hyn o bryd, mae Emma yn Brif Ymchwilydd ar brosiect a ariennir gan grant UKRI sy’n ymchwilio i golli clyw a lle (HELP) ac mae'n brif ymchwilydd ar gyfer prosiect a ariennir gan Gronfa Arloesi Ymchwil Cymru sy'n ymchwilio i newidiadau mewn gwynnin a symptomau clefydau’r glust mewn pobl hŷn.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys:

  • Prif Ymchwilydd ar brosiect a oedd yn ymchwilio i gymorth grŵp i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ystod Covid.
  • Nodi'r hyn y mae ei angen ar unigolion sy'n byw gyda dementia er mwyn hwyluso a chefnogi eu potensial i 'Fyw'n Dda gyda Dementia' ym Mae Abertawe. Y nod yw creu meincnod er mwyn targedu camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia i ddarparu gwasanaethau ledled y rhanbarth a datblygu fframwaith strategol. Bydd y gwaith hwn yn rhan hanfodol o ddatblygu Strategaeth Dementia'r bwrdd iechyd lleol.
  • Arweinydd prosiect de Cymru ar gyfer yr Astudiaeth ar Weithrediad Gwybyddol a Heneiddio (CFAS) Welcome to CFAS | Cognitive Function and Ageing Studies

Ffocws PhD Emma oedd Nodweddu Amhariadau Gwybyddol Fasgwlaidd (Dementia Fasgwlaidd) o ran cyflymderau prosesu'r ymennydd. Y nod oedd cynyddu ein dealltwriaeth o arwyddion a symptomau cynnar y clefyd. Roedd hyn yn cynnwys datblygu protocolau, ymchwil a datblygu a chael cymeradwyaeth foesegol gan y GIG, profi cyfranogwyr gan ddefnyddio nifer o brofion niwroseicolegol, ymchwilio i niwroddelweddau a dadansoddi ystadegol ac ansoddol.

Mae ganddi radd Meistr mewn seicoleg, gan arbenigo yn yr ymennydd a heneiddio, gan gynnwys triniaethau nad ydynt yn fferyllol ar gyfer dementia ac yfed alcohol a'r risg o ddementia, gan y Brifysgol Agored.

Hefyd, mae ganddi TAR (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) gan Brifysgol De Cymru.

Dechreuodd Emma ei gyrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe, gan ennill BSc (Anrhydedd), gyda'i phrosiect ymchwil yn ymchwilio i effeithiau symiau amrywiol o gamwybodaeth dros amser ar dystiolaeth llygad-dyst plant, a thraethawd hir: Alzheimer's disease: Assessment, cognitive deficits and treatment. Meysydd pwnc: Seicoffarmacoleg, Niwroseicoleg, Dulliau Ymchwil, Seicoleg Wybyddol a Datblygiadol.

Meysydd Arbenigedd

  • Achoseg amrywiol dementia
  • Amhariadau Gwybyddol Fasgwlaidd
  • Newidiadau synhwyraidd mewn heneiddio a dementia
  • Colli clyw
  • Profion gwybyddol
  • Gweithredu goruchwyliol
  • Cyflymdra Prosesu Gwybodaeth
  • Sylw gweledol
  • Straen gofalwyr
  • Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ysgoloriaeth PhD gan Elusen Alzheimer Brace

Deiliad Grant UKRI (Colli Clyw a Lle - HeLP) 

Prif Ymchwilydd wrth ymchwilio i newidiadau mewn gwynnin a symptomau clefydau’r glust mewn oedolion hŷn.

Cyd-ymgeisydd ar gyfer prosiect Cosmo - Effaith COVID-19 ar Gefnogi a Thrin Pobl Hŷn yng Nghymru 

Goruchwylio PhD:

  • The Trends of Using Web-Based/Internet-Based Technologies in the Process of Accessing Health Information and Health Services of Informal Caregivers of Dementia Patients ” (cyfredol)
  • Influence of sleep psychophysiological and cognitive functions in healthy older adults and people with vascular dementia (cyfredol).
  • Environmental risk factors for Cardiovascular Disease and Dementia at population level.
Prif Wobrau Cydweithrediadau