Trosolwg
Ymunodd Dr Ilias (Elias) Asproudis ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ym mis Mawrth 2016 fel Darlithydd mewn Economeg.
Mae ganddo PhD mewn Economeg o Ysgol Busnes ac Economeg Prifysgol Loughborough, y DU. Mae ganddo MSc/MBA mewn Trefnu a Gweinyddu Systemau Diwydiannol gydag arbenigedd mewn Rheoli Ynni a Diogelu'r Amgylchedd o Brifysgol Piraeus ac o Brifysgol Dechnegol Genedlaethol Athen, Gwlad Groeg. Hefyd, enillodd BSc mewn Economeg o Brifysgol Crete, Gwlad Groeg.
Mae ganddo brofiad o addysgu ym Mhrifysgol Northampton, Prifysgol Nottingham Trent a Phrifysgol Loughborough.
Cyflwynwyd rhan o'i ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol fel y Gymdeithas Ewropeaidd dros Ymchwil mewn Economeg Ddiwydiannol, y Gymdeithas Economaidd Frenhinol a’r Gymdeithas Ewropeaidd dros Economegwyr Amgylcheddol ac Adnoddau. Mae wedi cyhoeddi ei waith mewn cyfnodolion academaidd rhyngwladol.