Dr Mohammad Monfared

Dr Mohammad Monfared

Uwch-ddarlithydd
Electronic and Electrical Engineering
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Enillais fy ngradd PhD (gydag anrhydedd) mewn peirianneg drydanol o Brifysgol Technoleg Amirkabir (Coleg Polytechnig Tehran) yn 2010. Ymunais â Phrifysgol Ferdowsi Mashhad ar unwaith, lle enillais Wobr yr Ymchwilydd Gorau yn 2015. Yn 2018, dechreuais gydweithredu â SPECIFIC (Y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol), sy'n gonsortiwm academaidd a diwydiannol dan arweiniad Prifysgol Abertawe a chanddo'r weledigaeth o 'adeiladau fel gorsafoedd pŵer'. Ers 2022, rwyf wedi bod yn Uwch-ddarlithydd yn yr Adran Peirianneg Electronig a Thrydanol, lle rwy'n cydweithio â chwmnïau rhyngwladol ar brosiectau ymchwil sy'n cael effaith uchel, ac enillais Wobr Athro Gorau'r adran ar gyfer 2023-24. Mae fy niddordebau presennol yn cynnwys rheoli a defnyddio systemau cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac electroneg pŵer yng nghyd-destun cynhyrchu dosbarthedig, microgridiau a systemau ynni clyfar. Mae fy ymchwil wedi arwain at lawer o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion uchel eu bri, ac mae bron pob un o'm gweithiau yn cynnwys gwirio arbrofol. Cefais fy mhenodi'n Gadeirydd yr 8fed Gynhadledd Ryngwladol Electroneg, Systemau Gyriant a Thechnolegau Pŵer (PEDSTC 2017).

I gydnabod fy ymdrechion a'm cyflawniadau ymchwil, cefais fy nyrchafu i statws Uwch-aelod o'r IEEE yn 2015. Rwyf yn Olygydd Cysylltiol ar gyfer IEEE Transactions on Industrial Electronics ac IEEE Transactions on Power Electronics. I gydnabod fy nghyfraniadau, cefais fy anrhydeddu â Gwobr Adolygydd Eithriadol 2023 am IEEE Transactions on Power Electronics.

Meysydd Arbenigedd

  • Electroneg bŵer
  • Systemau ynni adnewyddadwy
  • Ansawdd pŵer a hidlyddion pŵer gweithredol
  • Rheoli ynni
  • Micro-gridiau/gridiau clyfar