Trosolwg
Mae Nigel Pollard yn hanesydd ac archaeolegydd, ac mae ei waith ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar ddiogelu treftadaeth a mathau eraill o eiddo diwylliannol mewn parthau gwrthdaro modern a hanesyddol. Yn benodol, mae’n ceisio cymhwyso gwersi a ddysgwyd o brofiad o ddiogelu a difrodi eiddo diwylliannol yn yr Ail Ryfel Byd (gan gynnwys gweithgareddau sefydliad Henebion, Celfyddyd Gain ac Archifau y Cynghreiriaid – y ‘Monuments Men’) i bolisi ac arfer cyfoes. Mae ei fonograff Bombing Pompeii: World Heritage and Military Necessity (University of Michigan Press, 2020) yn archwilio difrod bomiau 1943 i safle archaeolegol Pompeii yn ei gyd-destunau ehangach, ac yn allosod ei arwyddocâd i arfer presennol. Mae Dr Pollard yn aelod o fwrdd UK Blue Shield (y ‘Groes Goch ar gyfer henebion’), yn aelod o Weithgor Diogelu Eiddo Diwylliannol milwrol y DU, ac mae wedi cyfrannu at hyfforddi Uned Diogelu Eiddo Diwylliannol newydd lluoedd arfog y DU yn ogystal â pholisi treftadaeth llywodraeth y DU.
Arferai Dr Pollard fod yn archaeolegydd ac yn hanesydd y byd Rhufeinig, ac mae wedi ymgymryd â gwaith maes archaeolegol yn Syria, Yr Aifft, Tunisia, Yr Eidal a’r DU. Mae wedi cyhoeddi’n eang ar hanes ac archaeoleg Yr Eidal Rufeinig a’r Ymerodraeth Rufeinig ddwyreiniol, gan gynnwys monograff, Soldiers, Cities and Civilians in Roman Syria(2000) a chyfraniadau i’r Lexicon Topographicum Urbis Romae, y gwaith cyfeirio rhyngwladol aml-gyfrol ar ddinas hynafol Rhufain. Roedd hefyd yn gydawdur (gyda Joanne Berry), The Complete Roman Legions (Thames & Hudson, 2012).