bay campus shots
Dr Riikka Savolainen

Dr Riikka Savolainen

Darlithydd mewn Economeg
Economics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602935

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Riikka Savolainen â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi fel Darlithydd mewn Economeg.

Mae Riikka yn ficroeconomydd empirig sy’n astudio prosesau gwleidyddol a pholisïau cyhoeddus. Ymhlith pethau eraill, mae hi wedi astudio effaith profiad gwleidyddol ar safbwyntiau polisi gwleidyddion, effaith mudo ffoaduriaid ar farn ailddosbarthu gwleidyddion, yn ogystal ag effaith anghymesuredd etholiadol ar gydlyniant mewnol pleidiau. Mae hi hefyd yn astudio’r effaith ar brisiau o ganlyniad i gymeradwyo treth bechod ar gyfer cynhyrchion melys a’r elastigedd galw cysylltiedig.

Mae hi’n meddu ar radd PhD, gradd MSc a gradd BSc o Brifysgol Aalto (Helsinki, y Ffindir). Yn flaenorol, gweithiodd fel Darlithydd mewn Economeg ym Mhrifysgol Newcastle ac fel Cymrawd Addysgu mewn Economeg yng Ngholeg y Brenin, Llundain, yn ogystal â chyflawni gwaith polisi yn Nhrysorlys y Ffindir. Mae hi’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Anogir myfyrwyr â diddordeb mewn astudio am radd PhD mewn Microeconomeg Empirig i gyflwyno cais.

Meysydd Arbenigedd

  • Economeg wleidyddol
  • Economeg gyhoeddus
  • Microeconometreg empeiraidd