Trosolwg
Datblygu ac Ymgysylltu â Byd Busnes
Buddsoddiad gan randdeiliaid mewn ymchwil PhD sy'n mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn yn y Ganolfan Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial sy'n Rhoi Pwyslais ar Bobl (un o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol) yng nghyd-destunau iechyd a lles, gweithgynhyrchu clyfar, ac economi ddigidol drawsbynciol. Meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid ac academyddion i greu'r ymchwil newydd ganlynol:
2023
- HSBC. Modelau dwfn esboniadwy i rymuso twf economaidd busnesau bach a chanolig. Yr Athro Xianghua Xie
- Amicus Therapeutics. Dysgu peirianyddol er mwyn gwneud penderfyniadau meddygol. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Xianghua Xie
- GSK. Rhyngwynebau defnyddwyr, delweddu a modelu ar gyfer targedu triniaethau am ganser. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Mark Jones
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Deallusrwydd artiffisial addasol ac esboniadwy ar gyfer rhagfynegi a phroffilio cleifion mewn adrannau argyfwng yn y GIG. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Jiaxiang Zhang
- ITSUS Consulting. Defnyddio ymagwedd sy'n rhoi pwyslais ar bobl a thechnegau dysgu peirianyddol er mwyn awtomeiddio/delweddu'r broses o ganfod anghysondebau a gwendidau yng nghyd-destun systemau cyfathrebu critigol. Prif oruchwyliwr: Dr Nicholas Micallef
- Pearson. Datblygu ymagweddau deallus newydd er mwyn gwella asesiadau, e-ddysgu a chyrhaeddiad myfyrwyr yn genedlaethol. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Tom Crick
- Qinetiq. Tuag at fframwaith i hwyluso cydweithrediad rhwng systemau roboteg amlgyfrwng. Prif oruchwyliwr: Dr Muneeb Ahmad
- TEC Cymru. Hwyluso gwasanaethau teleofal deallus a rhagweithiol ar gyfer pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Jiaxiang Zhang
- Dŵr Cymru. Defnyddio dysgu cyfnerthedig (RL) gan Ddŵr Cymru i gefnogi penderfyniadau drwy batrwm deallusrwydd artiffisial esboniadwy. Prif oruchwyliwr: Dr Sara Sharifzadeh
- Arolwg Ordnans. Ailadeiladu model dinas 3D â chymorth deallusrwydd artiffisial o sawl system mewn modd y gellir ei gyflawni ar raddfa fwy. Prif oruchwyliwr: Dr Gary Tam
- Cyngor Abertawe. Pontio'r bwlch: cynyddu cydlyniant a chynhwysiant cymdeithasol mewn cymunedau yn Abertawe. Prif oruchwyliwr: Dr Tom Owen