Mr Tashi Gyaltsen

Mr Tashi Gyaltsen

Uwch-swyddog Ymgysylltu â Busnes Canolfan Hyfforddiant Doethurol EPIC, Science and Engineering

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Datblygu ac Ymgysylltu â Byd Busnes

Buddsoddiad gan randdeiliaid mewn ymchwil PhD sy'n mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn yn y Ganolfan Ymchwil Deallusrwydd Artiffisial sy'n Rhoi Pwyslais ar Bobl (un o Ganolfannau Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol) yng nghyd-destunau iechyd a lles, gweithgynhyrchu clyfar, ac economi ddigidol drawsbynciol. Meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid ac academyddion i greu'r ymchwil newydd ganlynol:

2023

  • HSBC. Modelau dwfn esboniadwy i rymuso twf economaidd busnesau bach a chanolig. Yr Athro Xianghua Xie
  • Amicus Therapeutics. Dysgu peirianyddol er mwyn gwneud penderfyniadau meddygol. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Xianghua Xie
  • GSK. Rhyngwynebau defnyddwyr, delweddu a modelu ar gyfer targedu triniaethau am ganser. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Mark Jones
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Deallusrwydd artiffisial addasol ac esboniadwy ar gyfer rhagfynegi a phroffilio cleifion mewn adrannau argyfwng yn y GIG. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Jiaxiang Zhang
  • ITSUS Consulting. Defnyddio ymagwedd sy'n rhoi pwyslais ar bobl a thechnegau dysgu peirianyddol er mwyn awtomeiddio/delweddu'r broses o ganfod anghysondebau a gwendidau yng nghyd-destun systemau cyfathrebu critigol. Prif oruchwyliwr: Dr Nicholas Micallef
  • Pearson. Datblygu ymagweddau deallus newydd er mwyn gwella asesiadau, e-ddysgu a chyrhaeddiad myfyrwyr yn genedlaethol. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Tom Crick
  • Qinetiq. Tuag at fframwaith i hwyluso cydweithrediad rhwng systemau roboteg amlgyfrwng. Prif oruchwyliwr: Dr Muneeb Ahmad
  • TEC Cymru. Hwyluso gwasanaethau teleofal deallus a rhagweithiol ar gyfer pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed. Prif oruchwyliwr: Yr Athro Jiaxiang Zhang
  • Dŵr Cymru. Defnyddio dysgu cyfnerthedig (RL) gan Ddŵr Cymru i gefnogi penderfyniadau drwy batrwm deallusrwydd artiffisial esboniadwy. Prif oruchwyliwr: Dr Sara Sharifzadeh
  • Arolwg Ordnans. Ailadeiladu model dinas 3D â chymorth deallusrwydd artiffisial o sawl system mewn modd y gellir ei gyflawni ar raddfa fwy. Prif oruchwyliwr: Dr Gary Tam
  • Cyngor Abertawe. Pontio'r bwlch: cynyddu cydlyniant a chynhwysiant cymdeithasol mewn cymunedau yn Abertawe. Prif oruchwyliwr: Dr Tom Owen

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Rhagor o archwilio buddsoddiad i ymchwil ar waith yn 2021/2022 gyda’r gymuned aml-randdeiliaid ganlynol:

AstraZeneca, Accenture, Pfizer, GSK, Amplify, BT, Vodafone, GKN Aerospace, Rescape, Huawei, Lab Ymchwil Toshiba, Ysbyty Treforys, Stofl, BIP Caerdydd a’r Fro, Gwasanaeth Genomeg Meddygol Cymru Gyfan, DVLA, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a mwy…

Rhwydweithio gyda’r Diwydiant: NHSx, PwC, Visa, HSBC, Mastercard, BBC, Amazon, Fforwm Economaidd y Byd, IBM, Facebook, Barclays, Digital Catapult, Royal Mint, Thales, Yoello, Atos, Direct Line Group, Pearson, Olio, Bulb, Swyddfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Seneddol, Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r Swyddfa Deallusrwydd Artiffisial.