Dr Joe MacInnes

Uwch-ddarlithydd, Computer Science
308
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n ymchwilydd rhyngddisgyblaethol sydd â diddordeb mewn sut y defnyddir sylw i flaenoriaethu mewnbwn synhwyraidd er mwyn cwrdd â nodau asiant. Mae Seicoleg a niwrowyddoniaeth wedi astudio sylw mewn bodau dynol dros fwy na chanrif, ond mae sylw wedi dod o ddiddordeb i'r gymuned dysgu peirianyddol yn ddiweddar. Nod gyffredinol fy ymchwil yw deall sylw golygol trwy ddatblygu modelau dysgu peirianyddol sy'n efelychu prosesu golygol mewn bodau dynol. Rwy'n defnyddio data o dracio symudiadau cyflymder uchel y llygaid ac arbrofion sy'n cynnwys tasgau golygol cymhleth megis porthianna, chwilio a chofio golygfeydd er mwyn deall sut y defnyddir sylw, a hyfforddi modelau cyfrifiadurol i wneud tasgau tebyg. Wrth ddeall sylw dynol yn well, rydym hefyd yn dysgu ffyrdd newydd o feddwl am sylw peirianyddol, a'i rhoi ar waith. 

Meysydd Arbenigedd

  • Dysgu peirianyddol
  • Sylw
  • Tracio symudiadau llygaid
  • Chwilio golygol
  • Modelu Gwybyddol Cyfrifiadurol
  • Deallusrwydd artiffisial
  • Ataliad dychwelyd (Inhibition of return)