Wrth i'r flwyddyn academaidd ddirwyn i ben, mae'n amser dathlu a llongyfarch dosbarth 2024 am eu cyflawniadau sylweddol.
Mae'r graddedigion eleni'n ymgorffori’r ysbryd o gydweithredu ac arloesi sy'n diffinio Prifysgol Abertawe. Wrth i ni ddathlu eu llwyddiant, rydym hefyd yn myfyrio ar gryfder a bywiogrwydd ein rhwydwaith cynyddol o gyn-fyfyrwyr, sy'n parhau i lywio a chyfoethogi cymunedau'n fyd-eang.
Mae'r daith tuag at raddio'n un sy'n llawn her academaidd, twf personol ac oriau o waith caled. Mae graddedigion 2024 wedi cwblhau eu teithiau drwy ymroddiad a gwydnwch, yn erbyn cefndir o heriau byd-eang a chenedlaethol digynsail. Maent wedi goroesi'r aflonyddwch a achoswyd gan bandemig COVID-19, a wnaeth symud addysg i blatfformau rhithwir a gorfodi myfyrwyr i ymaddasu i amgylcheddau dysgu newydd. Maent wedi wynebu ansicrwydd economaidd, yn sgîl dirwasgiadau byd-eang a phwysau costau byw.
Yn ogystal â'r heriau hyn, cafwyd newid cymdeithasol sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae mudiadau cyfiawnder hiliol, cydraddoldeb rhywiol a hawliau LHDTC+ wedi ennill tir yn fyd-eang. Yn ogystal â bod yn dyst i'r mudiadau cymdeithasol trawsnewidiol hyn, mae ein graddedigion wedi bod yn weithredol wrth ddadlau o blaid cymdeithas fwy cyfiawn a theg. Wrth adael Prifysgol Abertawe, bydd dosbarth 2024 yn meddu ar fwy na gwybodaeth academaidd yn unig. Maent yn meddu ar y sgiliau, yr hyblygrwydd a'r ymwybyddiaeth fyd-eang angenrheidiol i ymdopi a llwyddo mewn byd sy'n newid o hyd.
Yn ogystal â dathlu doniau unigol ein graddedigion, mae graddio'n garreg filltir sydd hefyd yn dangos yr amgylchedd cefnogol ac ategol sy'n cael ei feithrin gan sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Mae'n anodd gorbwysleisio effaith ein prifysgolion fel cyfryngau cynnydd a datblygu. Maent yn creu cyfleoedd, yn gwella symudedd cymdeithasol ac yn galluogi graddedigion i feithrin y sgiliau sy'n hanfodol i weithluoedd y dyfodol. Yn wir, mae gan gynifer â chwarter y gwledydd ledled y byd arweinwyr presennol a gafodd eu haddysgu yn y DU.
Mae prifysgolion yn gwneud cyfraniadau economaidd sylweddol hefyd, gan ychwanegu oddeutu £130 biliwn bob blwyddyn at economi'r DU a chreu miloedd o gyfleoedd am swyddi, fel cyflogwyr o bwys yn eu rhinwedd eu hunain a thrwy gwmnïau deillio a busnesau newydd. Gyda'r galw am weithwyr proffesiynol tra medrus ar fin cynyddu, amcangyfrifir y bydd angen mwy nag 11 miliwn o raddedigion ychwanegol yn y DU erbyn 2035.
Wrth gwrs, mae graddedigion yn elwa'n unigol, gan ennill cyflogau sylweddol uwch ar gyfartaledd na'u cyfoedion nad ydynt yn raddedigion (erbyn 31 oed, y gwahaniaeth yw oddeutu £8,000), ond mae cymdeithas yn elwa hefyd – ble byddem heb athrawon, nyrsys, meddygon a deintyddion sy'n cael eu hyfforddi yn ein prifysgolion? Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn dangos bod 95% o raddedigion Prifysgol Abertawe naill ai'n cael eu cyflogi, yn ymgymryd ag astudiaethau neu'n gwneud gweithgareddau ystyrlon eraill ar ôl cwblhau eu graddau. Mae'r ystadegyn hwn yn dangos gwerth addysg Prifysgol Abertawe a pharodrwydd ein graddedigion i ffynnu mewn marchnad swyddi gystadleuol sy’n newid o hyd.
Mae Prifysgol Abertawe bob amser wedi bod yn fwy na sefydliad academaidd; mae'n gymuned fywiog lle mae pobl yn meithrin cysylltiadau byd-eang ac yn llunio eu dyfodol. Mae ein rhwydwaith cynyddol o gyn-fyfyrwyr, sy'n cynnwys mwy na 235,000 o aelodau o bedwar ban byd, yn dangos effaith barhaus addysg Prifysgol Abertawe. Mae'r cysylltiadau a'r perthnasoedd hyn yn bwerus, gan agor drysau i gyfleoedd, meithrin cydweithrediadau a chreu cymuned fyd-eang gyfoethog.
Mae'r graddedigion eleni'n ymuno â llinach o gyn-fyfyrwyr uchel eu bri sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at amrywiaeth o feysydd, yma yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd. O ymgymryd ag ymchwil arloesol i lansio busnesau newydd blaengar, o dderbyn rolau arweinyddiaeth dylanwadol yn y celfyddydau a gwasanaethau cyhoeddus, i gyflawni llwyddiant diderfyn ym meysydd chwaraeon a busnes, mae ein cyn-fyfyrwyr ar frig y don ledled y byd. Rydym yn annog ein graddedigion i gadw mewn cysylltiad, i rannu eu cyflawniadau a'u profiadau, ac i barhau i ymgysylltu â Phrifysgol Abertawe. Mae eu cyfranogiad parhaus yn cyfoethogi ein cymuned ac yn ysbrydoli ein myfyrwyr presennol a’n myfyrwyr yn y dyfodol.
Wrth i ni edrych ymlaen at ein seremonïau graddio sydd i ddod, rydym yn teimlo optimistiaeth a balchder. Bydd ein graddedigion heddiw yn arwain, yn arloesi ac yn symbylu newid yfory, ac rydym yn falch o fod yn rhan o'u taith. Wrth iddynt ymuno â'n rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr, rydym yn edrych ymlaen at weld eu cyfraniadau at eu meysydd gwahanol a'u heffaith gadarnhaol ar y byd yn ystod y blynyddoedd i ddod.