Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym bob amser wedi bod yn hynod falch o'n cymuned amrywiol o fyfyrwyr a staff yn y Brifysgol, sy'n dod â phrofiadau a safbwyntiau o wledydd ledled y byd gyda nhw. Ein cenhadaeth yw meithrin amgylchedd croesawgar a chynhwysol yma yn Abertawe, sy'n hyrwyddo ac yn dathlu manteision niferus rhyngwladoli a Chymru.
Yn unol â gweddill y sector Addysg Uwch yn y DU, nid oes modd i ni, fodd bynnag, osgoi polisi a rhethreg niweidiol Llywodraeth y DU ar fewnfudo, sydd yn aml yn esgeuluso cyfraniad sylweddol myfyrwyr a staff rhyngwladol at yr economi genedlaethol a lleol. Mae'n hynod anffodus bod y sector yn gyffredinol eisoes yn wynebu effaith newidiadau i reoliadau fisa myfyrwyr y DU a ddaeth i rym ym mis Ionawr eleni, a bod Llywodraeth y DU bellach wedi comisiynu adolygiad cyflym pellach o lwybr fisa i raddedigion, y disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Mai.
Mewn ymateb, rwy'n awyddus i gynnig safbwynt gwahanol, gan bwysleisio ein balchder mewn cefnogi myfyrwyr rhyngwladol a dathlu eu cyflawniadau, wrth gydnabod y rôl hollbwysig y maen nhw'n ei chwarae yn llwyddiant ein cenedl a'r penderfyniad mawr y mae nhw'n ei wneud wrth ddewis astudio a gweithio yn y DU.
Mae hefyd yn bwysig nodi cyfraniad sylweddol myfyrwyr a staff rhyngwladol i'r economi genedlaethol a lleol. Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd gan Universities UK ac eraill, mae myfyrwyr rhyngwladol yn cyfrannu £42 biliwn i economi'r DU yn flynyddol. Hyd yn oed wrth gyfrif cost i wasanaethau cyhoeddus, mae cyfanswm budd net myfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yn y DU yn parhau i fod yn £37 biliwn. Yma yng Nghymru, amcangyfrifir bod ein myfyrwyr rhyngwladol wedi cyfrannu £1.3 biliwn yn 2021/22 yn unig, gyda phob etholaeth seneddol yng Nghymru £31 miliwn yn well na'r cyfartaledd gan fod myfyrwyr yn dewis byw ac astudio yn ein rhanbarthau.
Y tu hwnt i'r buddion ariannol, mae ein myfyrwyr rhyngwladol amrywiol hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at ein cymuned mewn cynifer o ffyrdd eraill. Er enghraifft, yn Abertawe, drwy fentrau megis 'Go Social', mae gan ein myfyrwyr rhyngwladol blatfform effeithiol i gael eu cynnwys yn llawn yn ein cymuned leol, tra bod nifer o'n myfyrwyr rhyngwladol yn rhoi rhywbeth yn ôl drwy wirfoddoli gyda'n prosiect gwirfoddoli Discovery.
Mae croesawu myfyrwyr rhyngwladol talentog yn fraint, ac mae llawer yn defnyddio eu hamser gyda ni fel sylfaen ar gyfer ymdrechion llawn effaith. Ar hyn o bryd, mae gan Brifysgol Abertawe tua 50,000 o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol gyda llawer ohonynt yn cyflawni llwyddiant arbennig. Er enghraifft, enwyd Oluwaseun Ayodeji Osowobi yn enillydd Byd-eang StudyUK y British Council am Weithredu Cymdeithasol yn 2023, a derbyniodd Alfred Oyekoya MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 2024. Yn fwy cyffredinol, mae gennym nifer o gyn-fyfyrwyr sy'n gweithio ar lefel weinidogaethol mewn gwledydd eraill, yn ogystal â'n cyn-fyfyrwyr rhyngwladol sy'n berchnogion busnes, yn sylfaenwyr, yn bartneriaid neu'n reolwyr-gyfarwyddwyr.
Mae llwybr fisa Graddedigion yn ffactor penderfynu allweddol i lawer o fyfyrwyr sy'n dewis astudio yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r gwaith ôl-astudio hwn yn galluogi myfyrwyr rhyngwladol i aros am ddwy neu dair blynedd yn dilyn eu hastudiaethau. Mae llawer yn cymryd cyfleoedd medrus, tra bod eraill yn cyfrannu at fylchau pwysig yn ein marchnad lafur y mae angen rhoi hwb iddynt. Mae rhai'n dewis peidio â gweithio yn y DU ac yn dychwelyd adref neu'n symud i wledydd eraill. Cyflwynwyd y fisa yn 2021 i fodloni nod uchelgeisiol Llywodraeth y DU i gynnal o leiaf 600,000 o fyfyrwyr rhyngwladol yn y DU bob blwyddyn. Ers hynny, mae recriwtio myfyrwyr rhyngwladol wedi rhoi hwb gwerth mwy na £60 biliwn i'n heconomi. Rwy'n rhannu pryderon llawer yn ein sector bod newidiadau posib i'r llwybr fisa hwn yn achosi niwed anadferadwy i natur ddeniadol y DU fel cyrchfan astudio dramor, ond bydd hefyd yn gwneud newid sylweddol i gynaliadwyedd ariannol addysg uwch ac i'n heconomi'n ehangach. Nid ydym mewn sefyllfa ar hyn o bryd i asesu effaith cyflwyno'r fisa hwn yn ddiweddar, nid yn unig i'n sector ond i gyflogwyr a busnesau o bob math ledled y DU; mae gwneud newidiadau iddo ar y cam cynnar hwn yn peryglu creu ansefydlogrwydd ar gyfer ein sector addysg a'r sector preifat.
Rydym eisoes yn gweld y niwed a achosir gan y cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU, sy'n paentio darlun o'r DU sy'n llai croesawgar i fyfyrwyr rhyngwladol; mae enw da hirsefydlog y DU fel cyrchfan astudio o ragoriaeth fyd-eang bellach mewn perygl difrifol. Yng Nghymru, rydym yn falch o fod yn genedl ryngwladol sy'n defnyddio'r rôl rydym yn ei chwarae ar lwyfan byd-eang, ac yng nghymdeithas hynod gysylltiedig heddiw, mae'n holl bwysig bod prifysgolion yn parhau i feithrin amgylchoedd sy'n hwyluso dysgu, byw a chymdeithasu ar draws diwylliannau a chymdeithasau amrywiol. Fel prifysgol, rhaid i ni fod yn gadarn wrth hyrwyddo manteision sylweddol rhyngwladoli i'n rhanbarthau a'n gwledydd; bydd gormod yn y fantol i'n sector a'n cymuned os na lwyddwn i wneud hyn.