Yn yr erthygl hon mae'r Athro Judith Lamie PhD, Dirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol, yn rhannu ei barn ar y dirwedd addysg uwch ryngwladol newidiol.
Mae addysg uwch ryngwladol wedi wynebu heriau erioed. Rydym wedi gweld patrymau newidiol o alw a darpariaeth, disgwyliadau uwch gan fyfyrwyr, newid o ran anghenion cyflogwyr a rheoliadau a mesurau rheoli mwy llym gan y llywodraeth ynghylch mewnfudo. Gallwn bellach ychwanegu pandemig iechyd byd-eang, marchnad fyd-eang fwy anwadal a Brexit at y rhain. Mae'r rhain i gyd yn rhoi baich sylweddol ar bawb sy'n cyfrannu at yr amgylchedd academaidd – ysgolion, colegau a phrifysgolion, a'r cymunedau a'r gwledydd sy'n eu cynnal.
Bu'n adeg ddiddorol i ymuno â Phrifysgol Abertawe fel y Dirprwy Is-ganghellor Rhyngwladol newydd.
Mae'r diddordeb yn nyfodol addysg uwch ryngwladol wedi parhau ac mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dwysáu'r drafodaeth hon a'i gwneud yn destun dryswch sylweddol. Mae sefyllfa addysg drawswladol yn datblygu'n barhaus ac mae Covid-19 wedi cyflymu'r broses hon. Mae addysg uwch ryngwladol yn gyffredinol, ac addysg drawswladol yn benodol, yn ymwneud ag effaith, yn hytrach na mynediad, bellach – effaith ar fyfyrwyr, ar y gymuned, ar yr amgylchedd ac ar bolisïau. Wrth i batrymau symudedd, hunaniaeth a darpariaeth newid, mae angen brys i ailarchwilio cyfleoedd, ymatebion ac ymagweddau, er mwyn sicrhau y ceir ymagwedd berthnasol a chynaliadwy.
Er bod Covid-19 wedi effeithio ar deithio a’i leihau'n sylweddol, mae ymgysylltu a rhyngweithio wedi cynyddu. Mae rhagor o gyfyngiadau ar symudedd myfyrwyr wedi arwain at gynnydd o ran gweithredoedd a gweithgarwch domestig ac efallai fod dyfodol cyfnewid myfyrwyr a symudiadau rhyngwladol yn y fantol oherwydd pryderon cynyddol ynghylch ffiniau, hunaniaeth, a'r rhyddid i symud a thriniaeth dramor. Fodd bynnag, bu rhyngwladoli yn bwnc llosg gartref ers amser maith ac efallai dyma le mae cadernid a chynaliadwyedd rhyngwladol yn bwysig. Wrth wynebu argyfwng, mae addasu'n angenrheidiol, ond ceir cyfle hefyd i fyfyrio ar yr hyn sydd wrth wraidd rhyngwladoli a'i adolygu: ei ystyr a'r ffordd orau o'i gynnal
Efallai na fyddwn yn teithio mor aml na mor bell; efallai nad ydym wedi cael cyfle i gwrdd wyneb yn wyneb, ond rydym wedi dod o hyd i ffyrdd eraill o wneud iawn am hynny, yn y tymor byr. Bydd angen o hyd i bobl fod yn symudol. Bydd angen o hyd i bobl deithio, ac iddynt ryngweithio ar yr un pryd yn yr un lleoliad, ond efallai na fyddwn yn gwneud hyn mor aml mewn rhai sefyllfaoedd ac y byddwn yn achub ar y cyfleoedd digidol gwych sydd o'n blaenau.
Un o'r newidiadau mawr yn ystod y pandemig oedd y defnydd o gyfathrebu ar-lein ac yn wir y ddibyniaeth arno. Bu problemau ynghlwm wrth ddysgu ac addysgu ar-lein ers amser maith, gan amrywio o fynediad, tegwch a gallu, i addysgeg a chydnabyddiaeth ffurfiol. O fewn oddeutu 24 awr, newidiodd y sector addysg o agwedd ddrwgdybus at ddysgu ar-lein i'w dderbyn yn wresog fel math cyfartal o ddysgu ac addysgu. Er bod y farn hon braidd yn gamsyniol, mae'n dangos gallu i addasu a datblygu.
Ond un wers sydd wedi deillio o argyfwng Covid-19, ac o'n hymatebion iddo, yw ein bod wedi sylweddoli na allwn ymdopi heb ein gilydd. Mae'r sefyllfa wedi amlygu pŵer cydweithredu, cydweithio a phartneriaethau, a'r angen hollbwysig am y rhain, i ni i gyd.
Mae brwdfrydedd dros ryngwladoli o hyd, fel y mae niferoedd myfyrwyr a llwybrau parhaus recriwtio'n ei ddangos. Fodd bynnag, mae'r rhain yn newid, wedi'u cyflymu gan y pandemig, ond efallai fel rhan o ddatblygiad naturiol symudedd, wrth i genhedloedd gryfhau eu darpariaethau cenedlaethol a sefydlu partneriaethau amgen. Pan fyddwn yn ystyried canran y myfyrwyr sy’n teithio i gymryd rhan mewn addysg uwch ryngwladol, dim ond rhan fechan o gyfanswm corff y myfyrwyr yw hi.
Mae llawer o'r gwerthoedd rydym yn ceisio eu hannog yn ein myfyrwyr wrth iddynt symud tuag at fod yn ddinasyddion byd-eang yn ymwneud ag empathi tuag at bobl eraill, yr awydd i ddysgu mwy am y byd ac i gydweithio i fynd i'r afael â heriau ein byd, sef gwerthoedd sydd wrth wraidd rhyngwladoli. Yn yr oes hon o argyfwng byd-eang parhaus, mae angen i ni gefnogi'r gwerthoedd hyn yn fwy nag erioed.