Dros yr wythnosau diwethaf, mae miloedd o fyfyrwyr yng Nghymru wedi derbyn canlyniadau arholiadau hirddisgwyliedig, ar ôl dychwelyd i ddulliau asesu cyn Covid.
I fyfyrwyr sy'n aros am ganlyniadau TGAU, BTEC, Safon Uwch neu Safon Dechnegol (T-Level), gall fod yn gyfnod gofidus yn ystod unrhyw flwyddyn benodol. Fodd bynnag, ar gyfer y carfanau hyn yn 2022, roedd y cyfnod cyn diwrnodau’r canlyniadau'n arbennig o heriol oherwydd sylw helaeth y cyfryngau ar y posibilrwydd y byddai'r graddau'n is ac y byddai llai o leoedd ar gael mewn prifysgolion na'r llynedd.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein cymorth Clirio'n dechrau ymhell cyn diwrnod canlyniadau Safon Uwch, gyda staff cyfeillgar ar gael i ateb ymholiadau, dros y ffôn, drwy e-bost neu sgwrs we, o ddechrau mis Gorffennaf. Ac, ar ôl i'r canlyniadau unigol gael eu cyhoeddi ar 18 Awst eleni, gwnaethom ateb mwy na 2,000 o ymholiadau gan y rhai a oedd yn chwilio am arweiniad ar eu camau nesaf posib i addysg uwch.
Rydym yn falch o'n hymrwymiad i gefnogi ein darpar fyfyrwyr a thawelu eu meddyliau, ac o'n neges graidd bod graddau'n un agwedd yn unig ar y penderfyniadau rydym yn eu gwneud am y rhai sy'n cyflwyno ceisiadau am leoedd ar ein cyrsiau. Yn ystod y cyfnod hwn, mae'n hawdd mabwysiadu ymagwedd or-syml at y genhedlaeth nesaf hon o ddysgwyr, gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr, gan farnu pobl yn ôl eu graddau'n unig. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod pob ymgeisydd yn llawer mwy na'r llythrennau neu'r rhifau sy'n ymddangos wrth ochr unrhyw bwnc penodol, ac mae’r ymagwedd hon yn llywio ein proses derbyn myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Drwy gydol y broses, rydym yn ymdrechu i weld y person cyfan, gan neilltuo amser i ddeall y profiad a'r gwerthoedd sy’n cyd-fynd â’r graddau.
Gan fod lleoedd ar gael o hyd ar gyfer cyrsiau ledled y wlad, mae pwyslais y sgwrs gyhoeddus wedi newid ers hynny i'r cynnydd yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol mewn addysg uwch yn y DU. Ers amser maith, rwyf wedi dadlau dros fanteision sylweddol denu myfyrwyr o bedwar ban byd i sefydliadau yn y DU. Mae'r un dadleuon a ddefnyddir i gefnogi’r angen am gynlluniau cyfnewid lle mae myfyrwyr yn mynd dramor – er enghraifft, cynllun Turing Llywodraeth y DU a chynllun Taith Llywodraeth Cymru – yn berthnasol yn achos myfyrwyr rhyngwladol sy'n dod yma. Yn yr oes hon lle mae busnesau a sefydliadau eraill yn cydweithredu'n rhydd ar draws ffiniau cenedlaethol mewn byd dan effeithiau globaleiddio go iawn, mae'n hanfodol bod prifysgolion yn rhoi'r cyfle i bob myfyriwr ddysgu, byw a chymdeithasu ar draws diwylliannau a chymdeithasau y tu hwnt i'w ddiwylliannau a'i gymdeithasau ei hun.
Mae'r ffaith bod addysg uwch yn y DU yn dal i fod yn atyniad mawr i weddill y byd wedi cael ei hystyried yn bluen yn ein cap ers amser maith. O ganlyniad i'r profiad o fyw ac astudio yn y DU, a'r bri rhyngwladol sy’n deillio o ddal gradd gan brifysgol ym Mhrydain, yr Unol Daleithiau yw'r unig gyrchfan yn y byd sy’n fwy poblogaidd na’r DU ymhlith myfyrwyr rhyngwladol, ar sail niferoedd myfyrwyr. Yn achos Cymru, fel gwlad sy'n meddu ar feddylfryd rhyngwladol hirdymor a pharhaus, mae'n amlwg bod rhannu ein diwylliant unigryw â dinasyddion byd-eang y dyfodol yn fodd pwerus i atgyfnerthu ein lle yn y byd.
Ym Mhrifysgol Abertawe, ein cred graidd yw bod ein cymuned o fyfyrwyr rhyngwladol a gweithredol yn fyd-eang yn cyfrannu'n sylweddol at bŵer trawsnewidiol profiad cyffredinol ein Prifysgol, yn ogystal ag amrywiaeth ddiwylliannol y ddinas a'r rhanbarth y cafodd ei sefydlu i'w gwasanaethu. Fodd bynnag, mae gwirionedd economaidd nad oes modd ei osgoi ar waith yn y sector addysg uwch ehangach. Mae'r gwahaniaeth rhwng y ffïoedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a'r ffïoedd ar gyfer myfyrwyr cartref (o'r DU) yn amlwg, wrth i ffïoedd dysgu ar gyfer myfyrwyr cartref yn y DU aros bron yn sefydlog am fwy na degawd. Yn Lloegr, £9,000 y flwyddyn oedd yr uchafswm ffioedd a osodwyd yn wreiddiol, ac mae hwn wedi cael ei gynyddu unwaith yn unig, i £9,250, yn 2017. Yng Nghymru, mae'r uchafswm wedi aros yn £9,000 y flwyddyn drwy gydol y cyfnod hwn, ond mae'r ffïoedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol deirgwaith yn fwy na hynny'n aml.
Mewn cyfnod o chwyddiant uchel, lle mae gallu go iawn pob unigolyn a sefydliad i wario wedi lleihau'n sylweddol, a yw’n syndod bod rheidrwydd economaidd o bosib yn elfen sy'n cyfrannu at awydd rhai prifysgolion i gynyddu eu carfanau o fyfyrwyr rhyngwladol? Yn y DU, mae'n hen bryd cael sgwrs gyhoeddus agored a gonest am wir werth addysg uwch a sut telir amdani, sy'n ystyried y gwirionedd economaidd presennol ar gyfer prifysgolion a myfyrwyr, ac sy’n cydnabod na ddylem gynyddu anfantais myfyrwyr y gall costau uwch ddwyn perswâd arnynt i beidio ag astudio.
Yn ystod y sgwrs honno, pan fyddwn yn ystyried gwerth addysg uwch, fy unig obaith yw na fyddwn yn gwneud yr un camgymeriad rydym yn ei wneud weithiau o ran ein pobl ifanc, sef trin eu gwerth cyffredinol yn ôl llythrennau neu rifau. Mae pob myfyriwr yn llawer mwy na'i raddau ac yn llawer mwy na'r ffioedd dysgu sy'n cyd-fynd ag ef, yn yr un modd ag y mae profiad prifysgol yn llawer mwy na thystysgrif gradd yn unig. Mewn cyfnod lle mae pŵer ariannol pobl yn lleihau, gadewch i ni i gyd ymdrechu i barhau i ganolbwyntio ar werth go iawn.