Agorwyd Ysgol Addysg Prifysgol Abertawe ychydig o flynyddoedd yn ôl ac mae eisoes yn ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ei gwaith ym maes addysg a dysgu ar draws y cylch bywyd ac ar draws ystod o sefydliadau addysgol. Yma, mae’r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Addysg, yn edrych ar yr ymchwil sy’n cael ei chynnal ar draws Prifysgol Abertawe ym maes dysgu ac addysgu.
Rydym yn dal i fyw mewn cyfnod diddorol. Rydym yn dynesu at flwyddyn ers dechrau’r cyfyngiadau symud cyntaf ac, er bod y newyddion ynghylch brechiadau yn gadarnhaol iawn, nid yw’r sefyllfa wedi newid yn sylweddol, yn ôl pob golwg. Mae’n amlwg y bu’n rhaid i’r Brifysgol ymaddasu a rheoli’r sefyllfa hon yn yr un modd â phob sefydliad a busnes arall ledled y wlad. Bu’n her i’r gymuned gyfan, ond rwyf am bwysleisio i ba raddau y mae ein staff a’n myfyrwyr wedi cydweithio, gan fynd gam ymhellach na’r disgwyl er mwyn gwneud y gorau o’r sefyllfa i bawb dan sylw.
Felly, yn y cyd-destun hwn, rwyf am ganu clodydd un maes ymchwil yn y Brifysgol a ddiystyrir weithiau ymysg yr holl ymchwil proffil uchel ac effaith uchel sy’n cael sylw’r newyddion a’r cyfryngau cymdeithasol yn aml. Dyma’r ymchwil a wneir, ar lawer o lefelau gwahanol, ym mhob rhan o’r sefydliad i faes dysgu ac addysgu.
Agorwyd Ysgol Addysg newydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae eisoes yn denu bri cenedlaethol a rhyngwladol oherwydd ei gwaith ar addysg a dysgu gydol oes drwy amrywiaeth o sefydliadau addysgol. Mae’r gwaith rydym yn ei wneud, ar y cyd â chydweithwyr ym meysydd y Gyfraith a Meddygaeth yn benodol, i ymchwilio i dwyll ar ffurf prynu a gwerthu traethodau wedi denu cryn gyhoeddusrwydd. Mae’r gwaith hwn eisoes wedi cael effaith gadarnhaol ar ddeddfwriaeth gwledydd megis Iwerddon a Seland Newydd a’r gobaith yw y bydd yn arwain at newidiadau i’r gyfraith yma yn y DU hefyd. Mae gwaith arall ar ddysgu gweithredol ac ar y defnydd o dechnolegau dysgu, yn ogystal â thrafod dulliau dysgu yn feirniadol, hefyd yn denu sylw rhyngwladol, a Phrifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yn y DU i gynnal cynhadledd ar y defnydd o realiti rhithwir ym maes dysgu.
Fodd bynnag, dim ond ambell achos proffil uchel yw’r rhain ymysg amrywiaeth eang y gwaith ymchwil a wneir ym mhob rhan o’r sefydliad. Mae darlithwyr, mewn llawer o ddisgyblaethau gwahanol, yn gwneud cryn dipyn o’r gwaith hwn, gan ei gysylltu’n uniongyrchol â’u profiadau addysgu eu hunain a’r materion sy’n codi o ran ennyn diddordeb myfyrwyr. Bob mis Gorffennaf, mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe yn cynnal cynhadledd ar gyfer rhwng 200 a 300 o academyddion o bob rhan o’r sefydliad, lle caiff yr holl waith ymchwil lleol hwn ei rannu â’n cydweithwyr a’i hyrwyddo.
Yn ystod y flwyddyn hon yn benodol, mae’r holl weithgarwch ymchwil hwn wedi bod yn amhrisiadwy. Heb os nac oni bai, mae’r gwaith ymchwil craidd hwn a wnaed gan ein cydweithwyr ar eu pynciau llosg a’u pryderon eu hunain wedi ein galluogi, fel sefydliad, i symud yn gyflym ac yn effeithlon i roi cymorth dysgu, addysgu a bugeiliol i’n myfyrwyr. Heb fynd ati’n barhaus i hyrwyddo ymchwil i faes dysgu ac addysgu, ar y cyd â gwaith ysblennydd cynifer o’n cydweithwyr, ni fyddem wedi llwyddo i ymateb mewn modd mor gadarnhaol pan ddechreuodd y pandemig effeithio arnom ar yr adeg hon y llynedd. Nawr, yr her yw defnyddio’r un adnoddau i ddysgu gwersi ein profiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gwreiddio’r holl arferion da yn ein gwaith pob dydd yn y dyfodol.