Ar ôl blwyddyn heriol arall mae’r Athro Paul Boyle, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, yn archwilio sut mae profiad 2021 wedi amlygu effaith sylweddol ymchwil, sy'n achub bywydau'n aml.
Pan ymddangosodd Covid-19, bu'n rhaid arloesi'n gyflym, o ddatblygu a darparu brechlynnau i fodelu data, ac yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi bod yn falch o wneud ein rhan yn yr ymdrechion cenedlaethol a rhyngwladol i ymateb i'r pandemig. O arloesi dyfais brechu clyfar gyntaf y byd i ymchwilio i'r ffyrdd y mae Covid-19 yn rhyngweithio â chyflyrau meddygol eraill, mae ein hymchwilwyr wedi dangos eu hystwythder a'u hymrwymiad i fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein byd.
Mae ymchwilwyr ledled Cymru'n rhannu'r ymrwymiad hwn, wrth i adroddiad diweddar danlinellu cryfder penodol ymchwil o Gymru a'i chyfraniad sylweddol at nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae'r adroddiad hwn yn dangos bod cyfran annisgwyl o uchel o ymchwil yng Nghymru'n cyfrannu'n uniongyrchol at fynd i'r afael â'r materion byd-eang a amlygir yn y nodau datblygu cynaliadwy, a bod yr ymchwil hon o ansawdd anghyffredin o uchel. Wrth symud ymlaen, bydd sefydlu Rhwydwaith Arloesi Cymru, menter sy'n cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, yn gwreiddio ymhellach ein hymagwedd gydweithredol at wneud gwaith ymchwil ac arloesi sy'n diwallu anghenion ein cenedl a'r byd.
Er gwaethaf heriau'r 12 mis diwethaf, rydym yn falch o nodi ein bod wedi denu grantiau newydd gwerth mwy nag erioed i Brifysgol Abertawe yn 2021. Gwnaethom sicrhau cyllid newydd gwerth £74.8m – ein cyfanswm blynyddol mwyaf erioed – ac mae ein portffolio ymchwil presennol bellach yn werth oddeutu £384m. Bu twf o ran denu grantiau drwy Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI), byd diwydiant a'r trydydd sector, gan ddangos amrywiaeth gynyddol ein hincwm ymchwil ym mhob disgyblaeth. Mae pob dyfarniad a grant ymchwil, waeth beth am y swm, yn gyfle arall i'n hymchwilwyr gael effaith gadarnhaol ar ein byd.
Yn ystod blwyddyn pan fu'r DU yn lleoliad i COP26, bu pwyslais penodol ar natur frys yr argyfwng hinsawdd ac rydym yn falch o effaith ein hymchwil amgylcheddol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein prosiect AMBER, er enghraifft, wedi cefnogi'r broses o ddatblygu adnoddau i adfer cysylltedd afonydd, yn ogystal â helpu i lywio'r Strategaeth Bioamrywiaeth Ewropeaidd newydd, yn benodol ei tharged o sicrhau 25,000km o afonydd sy'n llifo'n rhydd erbyn 2030. Mae ein hymchwilwyr hefyd yn meithrin microalgâu i greu cynhyrchion newydd megis porthiant anifeiliaid a biosymbylwyr, gan wneud dyframaethu'n fwy cynaliadwy yn wyneb newid yn yr hinsawdd.
Yn nes at gartref, o ganlyniad i'n harbenigedd ym maes peirianneg, mae ein Prifysgol bellach yn bartner allweddol mewn cyfleuster newydd gwerth £20m i helpu i ddatblygu'r economi werdd yng Nghymru. Dan arweiniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, bydd y cyfleuster newydd (SWITCH: South Wales Industrial Transition from Carbon Hub) yn galluogi ymchwilwyr academaidd, llywodraeth a diwydiant i gydweithio i gyflwyno atebion ymarferol ac arloesol i ddatgarboneiddio'r sector dur a metelau a'i gadwyn gyflenwi.
Er i'r cyfyngiadau ar gyfarfod a theithio newid drwy gydol 2021, roeddem yn falch o rannu effaith gadarnhaol ein hymchwil â phobl ledled y byd, drwy gyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Am y seithfed flwyddyn yn olynol, bu ein Prifysgol yn un o bedwar hyb yn unig yn y DU i gynnal Gŵyl Being Human, ac roeddem yn falch o ddathlu a dangos ym mha ffyrdd y mae'r dyniaethau yn ein hysbrydoli ac yn cyfoethogi ein bywydau'n feunyddiol. Yn ogystal, croesawyd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn ôl ym mis Hydref, wrth i gyfranogwyr ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y ddinas a lleoliad newydd Oriel Science yng nghanol y ddinas. Mae poblogrwydd y digwyddiad blynyddol hwn, gydag ysgolion a'n cymuned leol, yn dangos brwdfrydedd parhaus y cyhoedd dros wyddoniaeth, ac mae'n cynnig cyfle gwych i'n hacademyddion gyfathrebu ag ymchwilwyr, meddylwyr ac ysgogwyr newid y genhedlaeth nesaf.
Yn olaf, bu'n fraint fawr agor Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton wrth iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf, dan nawdd Llywodraeth Cymru, ym mis Tachwedd eleni. Daeth 3,000 o ymwelwyr i'r uwchgynhadledd rithwir bellgyrhaeddol hon (gweler tudalen 4), a ddaeth ag academyddion, arbenigwyr blaenllaw'r byd a meddylwyr ysbrydoledig ynghyd i drafod rhai o'r problemau pwysicaf sy'n wynebu ein cymdeithas, o newid yn yr hinsawdd i gydraddoldeb.
Wrth edrych tua'r dyfodol, mae ein cenhadaeth yn glir: rhaid i ni sicrhau dyfodol tecach a mwy cynaliadwy i'n planed a'i phobl. Efallai fod yr heriau sy'n ein hwynebu'n ymddangos yn anorchfygol, mae ein profiad dros y 18 mis diwethaf wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni, a hynny'n gyflym, pan fydd llywodraethau, prifysgolion, diwydiannau ac unigolion yn cydweithio dros achos cyffredin. Ym Mhrifysgol Abertawe, byddwn yn parhau i fanteisio ar yr un ymdeimlad o frys, dyfeisgarwch a phartneriaeth i ddiwallu anghenion ein hoes, ac i sicrhau dyfodol mwy disglair.