Ni fydd meddu ar gofnod troseddol o reidrwydd yn eich rhwystro rhag gweithio ym Mhrifysgol Abertawe na rhag gwneud gwaith gwirfoddol yma. Byddwn yn archwilio natur unrhyw euogfarn a ddatganwyd neu a ddatgelwyd er mwyn:
- Sicrhau diogelwch a lles ein staff a'n myfyrwyr
- Sicrhau diogelwch eiddo'r Brifysgol
- Diogelu enw da a pharch cyhoeddus y Brifysgol
- Cyflawni'n cyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol
Cymerir unrhyw benderfyniad dewis yn sgil asesiad risg gan ddefnyddio'r meini prawf hyn. Mae rhagor o fanylion yn ein Datganiad Polisi ar Recriwtio Cyn-droseddwyr.
Yn ogystal â'r hyn a wneir gan y Brifysgol, mae'r llywodraeth yn cyhoeddi rheolau a chanllawiau i sicrhau na chamddefnyddir gwybodaeth am euogfarnau, ac na thrinnir cyn-droseddwyr mewn modd annheg.
Bydd cyn-droseddwyr yn cadw'r sicrwydd a roddwyd iddynt gan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974; mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cyhoeddi Côd Ymarfer ar gyfer Cyrff Cofrestredig, ac mae'r Ddeddf Diogelu Data yn gweithio i ddiogelu gwybodaeth breifat amdanoch.