- Rhif y Swydd
- SU01672
- Math o Gytundeb
- Cyfnod Penodol
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 8 Medi 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 23 Medi 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Chris Groves c.r.groves@swansea.ac.uk
- Sara Macbride-Stewart MacBride-StewartS@cardiff.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Rydym yn chwilio am Swyddog Ymchwil i fod yn gyfrifol am gyflawni amcanion ymchwil allweddol ar gyfer prosiect HIT, a reolir gan Chris Groves yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe a Sara Macbride-Stewart ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'r prosiect yn cynnwys consortiwm o naw sefydliad ymchwil ledled Ewrop, a chaiff ei reoli gan Brifysgol Tampere a Demos Helsinki o'r Ffindir. Mae'n canolbwyntio ar ddysgu gan brofiadau'r gorffennol ynghylch trawsnewidiadau diwydiannol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal ymchwil ar becyn gwaith a arweinir gan Dr Groves a'r Athro Macbride-Stewart a chyfrannu at becynnau gwaith eraill a arweinir gan sefydliadau eraill yn ôl yr angen. Mae tri phrif amcan gan y gwaith: 1) deall sut mae busnes, polisi a chymdeithas sifil yng Nghymru yn rhagweld canlyniadau'r trawsnewidiad gwyrdd yn y dyfodol, a sut mae'r disgwyliadau hyn yn gysylltiedig â thrawsnewidiadau diwydiannol y gorffennol; 2) cyd-gynhyrchu pecyn cymorth dulliau ymchwil er mwyn galluogi partneriaid Ewropeaidd y prosiect i gynnal ymchwil debyg mewn lleoliadau eraill; 3) datblygu astudiaeth achos Gymreig sy'n dogfennu sut mae polisi a ffactorau economaidd-gymdeithasol wedi llywio trawsnewidiadau blaenorol a sut maen nhw'n dylanwadu ar hynt y trawsnewidiad gwyrdd.
Dyma gyfle cyffrous i ymgeisydd sydd â sgiliau ymchwil, trefnu a rheoli amser, ac sydd ag arbenigedd a chymwysterau academaidd mewn pynciau perthnasol (astudiaethau gwyddoniaeth a thechnoleg, cymdeithaseg disgwyliadau, cymdeithaseg economaidd, daearyddiaeth economaidd), ynghyd â diddordeb cryf mewn ymchwil ym maes trawsnewidiadau cyfiawn. Swydd dros dro am gyfnod penodol o 36 mis yw hon.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr