Sut aethom ati i brofi learner.swan.ac.uk
Archwiliwyd sampl o dudalennau o learner.swan.ac.uk - System Derbyn Myfyrwyr. Detholwyd y tudalennau hyn i geisio efelychu defnydd myfyriwr nodweddiadol sy'n cyflwyno cais i'r brifysgol. Myfyrwyr yw'r sylfaen defnyddwyr fwyaf ar gyfer y system hon, felly mae eu taith defnyddiwr yn hollbwysig.
Roedd y daith defnyddiwr yn cynnwys meysydd allweddol gan gynnwys gwe-lywio, rhyngweithiadau a chywiro gwallau.
Roedd y sampl o dudalennau a oedd yn rhan o'r adolygiad awtomataidd a'r adolygiad â llaw a gefnogwyd gan offer gwerthuso yn cynnwys y canlynol:
• Tudalen Fewngofnodi
• Tudalen Creu Cais
• Y Broses Derbyn Myfyrwyr sy'n cynnwys nifer o dudalennau yn cynnwys meysydd ffurflen a chyfleoedd i lanlwytho ffeil.
• Tudalen Lanio'r Broses CAS
Roedd yr archwiliad mewnol o sampl o dudalennau yn cynnwys y canlynol:
• Adolygiad â llaw yn seiliedig ar feini prawf WCAG 2.2. safon A/AA
• Adolygiad â llaw gan ddefnyddio Darllenydd Sgrîn VoiceOver gan archwilio meysydd gwe-lywio, rhyngweithio, terfynau amser a chywiro gwallau.
• Roedd y system mewn cyflwr cyn lansio adeg ei phrofi a oedd yn cyfyngu ar y profion roedd modd eu cynnal yn y cyfnod amser, felly roedd hyn yn effeithio ar y broses archwilio.