Datganiad hygyrchedd
Mae'r datganiad hwn ar hygyrchedd yn berthnasol i https://www.abertawe.ac.uk
Datblygwyd y wefan hon gan Brifysgol Abertawe. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon, gan fwynhau croeso a phrofiad boddhaol. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu
- Chwyddo i mewn hyd at 200% heb i destun lifo oddi ar y sgrîn.
- Defnyddio gwe-lywio cyson ar draws y wefan.
- Llywio rhan fwyaf y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
- Defnyddio’r cymhwysiad ReciteMe i ddarparu amrywiaeth o offer hygyrchedd.
Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw abertawe.ac.uk?
Mae'r wefan wedi cael ei gwerthuso gan ein harbenigwr mewnol ac mae'n tystio bod abertawe.ac.uk yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Rydym yn ymwybodol nad yw bob rhan o abertawe.ac.uk mor hygyrch ag y dylai fod:
- Mae rhai tudalennau'n camddefnyddio penawdau neu mae penawdau ar goll arnynt
- Mae disgrifiadau delweddau ar gael, ond mae angen eu gwella.
- Nid yw ymddygiad tabiau ar dudalennau cwrs yn cyd-fynd â llif y dudalen ac nid yw aria yn cael ei weithredu'n iawn er mwyn nodi cyflwr rhai cydrannau yn gywir.
- Nid yw rhannau a ddatblygwyd gan drydydd partïon fel Virtual Tours, Prospectus flipbook a forms mor hygyrch ag sydd ei angen.
- Nid oes gan rai fideos ddisgrifiadau sain ble mae eu hangen.
- Mae ein safle'n defnyddio cylchoedd ffocws, ond maen nhw'n anghyson o ran arddull ac mae angen eu gwella.
- Mae gan rai tudalennau fân broblemau HTML felly nid ydynt yn pasio Dilysiad WS3.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am abertawe.ac.uk mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fformat hawdd i'w ddarllen, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â'n Canolfan Drawsgrifio:
Ebost: braille@abertawe.ac.uk
Twitter: @SUTranscription
Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe, Adeilad Amy Dillwyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, Y Deyrnas Unedig.
Sut i ddod o hyd i’r ganolfan drawsgrifio: SUTC-Accessible-Guide
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dychwelyd atoch mewn 7 niwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd abertawe.ac.uk
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Cysylltwch â ni os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn cwrdd â gofynion hygyrchedd:
Ebost: customerservice@swansea.ac.uk
Ffoniwch: +44 (0)1792 295500
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb.
Cysylltwch â ni drwy ffonio neu ymweld â ni
Nod y brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth ac arweiniad proffesiynol i fyfyrwyr anabl, myfyrwyr sydd ag anghenion penodol a/neu gyflyrau meddygol. Gallwn ddarparu cymorth os hoffech ymweld â ni neu ein ffonio.
Cysylltwch â'r gwasanaeth anabledd:
Ffôn: +44 (0)1792 606617
Ebost: wellbeingdisability@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i gynnal Lefel hygyrchedd AA. Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio unrhyw rannau o'r wefan nad ydynt, hyd y gwyddom, yn cydymffurfio, yn ogystal â'r hyn rydyn ni'n ei wneud i geisio sicrhau hyn.
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
1.1.1 Cynnwys nad yw'n destun
Tudalennau lle mae golygyddion y cynnwys wedi darparu disgrifiadau gwael o'r delweddau
Mae gan rai tudalennau o'r wefan ddisgrifiadau gwael o ddelweddau nad ydynt yn rhoi gwybodaeth bwysig, er enghraifft gallai gwobr ddatgan yr enw yn unig yn hytrach na'r lefel a gafwyd.
Disgrifiadau delweddau ar Virtual Tours
Mae'r wefan yn defnyddio cymhwysiad trydydd parti o'r enw teithiau rhithwir, sy'n rhoi taith 3D gweledol o amgylch y campws a theithiau ar gyfer edrych o gwmpas enghreifftiau o ystafelloedd llety. Ni ddarperir fformat amgen ar ffurf testun a disgrifiadau ar gyfer defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg.
Mae gan dudalennau sydd â Chynnwys Graffigol Unigryw a Mewnosodiadau Trydydd Parti destun amgen gwael
Mae rhai tudalennau ar y wefan, megis "Pa mor bell yw Abertawe" a "Diwrnod Agored Rhithwir", yn defnyddio graffigwaith SVG sy’n cyfyngu ar ddisgrifiadau delweddau neu does dim disgrifiad arnynt. Hefyd, mae gan y wefan "Daith Rithwir" a ddatblygwyd yn allanol nad oes disgrifiadau delweddau ganddi.
1.2.1 Dewisiadau amgen sain yn unig a fideo yn unig
Dim Trawsgrifiad ar bodlediadau
Mae rhai tudalennau'n cynnwys podlediadau heb unrhyw drawsgrifiad a fyddai’n cefnogi ystod o ddefnyddwyr sydd am gael mynediad at y cynnwys hwn mewn ffordd amgen.
Mae gan rai fideos gynnwys gweledol yn unig
Mae rhai tudalennau'n cynnwys fideos tiwtorial ar systemau’r brifysgol sydd â chapsiynau neu gyfarwyddiadau wedi'u trawsgrifio.
1.2.3 Disgrifiad sain neu ddewis cyfryngol amgen
Fideos Bywyd Myfyriwr
Mae rhai tudalennau'n cynnwys fideos YouTube sy'n defnyddio capsiynau, ond nad ydynt yn darparu disgrifiadau sain ar gyfer cynnwys sy'n gwbl weledol fel myfyrwyr yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau eraill.
1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
Hierarchaeth Penawdau
Mae gan nifer o dudalennau benawdau sydd wedi cael eu defnyddio’n anghywir neu sydd ar goll, sy'n effeithio ar yr hierarchaeth. Mae hyn yn cynnwys y dudalen lanio, Swyddi, tudalennau swyddfa'r wasg, y daith rithwir a thudalennau cyrsiau ar ffôn symudol.
Tablau Modiwlau ar Dudalennau Cyrsiau
Mae penawdau’r tabl ar goll ar golofn "Enw'r Modiwl" y tabl. Mae hyn yn arwain at fethu cyhoeddi enw'r modiwl yng nghyd-destun hyd, credydau a chôd y modiwl.
Penawdau Tabl ar dudalennau cyrsiau
Mae penawdau tabl ar goll o bob tabl ar dudalennau cyrsiau. Mae hyn yn cynnwys tablau modiwlau a’r tabl manylion allweddol.
Rhestrau gyda dewislen ‘Mega’
Mae'r ddewislen ‘mega’ yn batrwm a ddefnyddir ar draws y wefan ac mae’n cynnwys nifer o ddolenni a rhestrau. Mae'r gydran yn cynnwys 2 restr gwymplen gydag adran ym mhob un, cyhoeddir penawdau’r adran yn gywir fel rhestr (e.e. 1 o 8) ond nid yw'r cynnwys, a chaiff ei gyhoeddi fel "rhestr" yn unig.
Defnydd o ARIA ar Dabiau Manylion Allweddol y Cwrs
Defnyddiwyd swyddogaeth ARIA o "tablist", ond nid yw'r manylyn wedi'i weithredu'n gywir gan ei fod yn colli'r is-swyddogaeth gywir o "tab".
Tirnodau nas defnyddir mewn teithiau rhithwir
Nid yw tirnodau wedi cael eu defnyddio ar wefan "Virtual Tours" a ddatblygwyd gan drydydd parti.
1.3.2 Dilyniant ystyrlon
Nid yw’r drefn ddarllen yn adlewyrchu llif y dudalen
Nid yw’r drefn ddarllen tudalennau cyrsiau gyda thechnoleg gynorthwyol yn adlewyrchu trefn y dudalen ac mae’n neidio i’r cynnwys sydd yn y bar ochr pan fydd hanner ffordd drwy'r dudalen.
1.4.3 Cyferbynnedd (Lleiafswm)
Dotiau Carwsél, Chevrons, Penawdau a ffurflenni trydydd partïon
Mae'r wefan yn defnyddio rhai rheolyddion (chevrons, dotiau a botwm hidlo chwiliad) nad ydynt yn cwrdd â chyferbynnedd (isafswm). Nid yw rhai penawdau ar y tudalennau "do you Swansea" yn cwrdd â chyferbynnedd (lleiafswm).
1.4.5 Delweddau o destun
Testun gyda delweddau
Mae'r wefan yn cynnwys defnydd cyfyngedig o destun mewn delweddau ar gyfer cardiau newyddion.
1.4.12 Bylchu Testun
Ffurflen Cadwch mewn cysylltiad
Defnyddir ffurflen trydydd parti ar gyfer y ffurflen "Cadwch mewn cysylltiad". Ni ellir gwrth-wneud y ffurflen er mwyn ychwanegu bylchau neu newid y ffurfdeip.
2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd
Flipbook y Prospectws
Defnyddir "flipbook”, sy’n feddalwedd trydydd parti ar dudalennau’r prosbectws. Gellir rhyngweithio â hyn trwy ddefnyddio bysell tab neu fysellau cyfeiriad (o ran llywio’r prosbectws). Fodd bynnag, nid yw'n galluogi defnyddwyr i symud yn ôl gan ddefnyddio bysell tab ar ôl symud i rai rheolyddion megis tudalennau a nodiadau.
2.4.2 Teitlau Tudalennau
Nid yw teitlau’r tudalennau Teithiau Rhithwir yn unigryw
Teitl pob tudalen yw Teithiau Rhithwir, ni waeth pa gampws neu adeilad rydych wedi ei ddewis ar y pryd.
2.4.3 Trefn y Ffocws
Nid yw’r drefn dabio yn adlewyrchu’r drefn ddarllen
Mae'r drefn dabio ar dudalen y cyrsiau yn symud i’r cynnwys yn y bar ar ochr y dudalen ar ôl "Trosolwg Cwrs" yn lle symud i’r adran "Modiwlau" sydd yn ei dilyn.
Teithiau rhithwir
Gellir defnyddio gwefan y daith rithiol gyda bysellfwrdd ond ble mae modd rhyngweithio â chynnwys preswylfeydd, dangosir cynnwys newydd ac mae’r cynnwys blaenorol yn cael ei guddio'n weledol. Fodd bynnag, mae dal angen tabio trwy’r cynnwys cudd felly mae hyn yn torri’r drefn ffocws.
2.4.4 Pwrpas Dolenni
Defnyddir enwau generig ar ddolenni
Mae dolen y dudalen swyddi gwag presennol yn defnyddio'r enw "Manylion" sawl gwaith ac mae'r dudalen Lwfans Myfyrwyr Anabl yn defnyddio "dilynwch y ddolen hon", a allai effeithio ar y profiad i ystod o ddefnyddwyr.
Nid yw enwau dolenni’r Teithiau Rhithwir ar gael i dechnoleg gynorthwyol
Does dim teitl dolen ganfyddadwy nac unrhyw destun heblaw am “Void” ar y "taith rithwir" a ddatblygwyd gan drydydd parti sy'n dangos myfyrwyr yn rhithiol o amgylch y campws.
Canlyniadau chwilio yn rhoi dolenni wedi’u rhifo i dudalennau
Mae canlyniadau chwilio yn cynnig tudalennau wedi’u rhifo. Mae dolenni'r tudalennau (1,2,3,4,5) wedi'u disgrifio fel rhifau'n unig, ac nid oes pennawd er mwyn rhoi’r cyd-destun i ddefnyddwyr.
2.4.6 Penawdau a Labeli
Defnydd anghywir o benawdau
Mae rhai tudalennau'n defnyddio penawdau ar gyfer arddull cynnwys fel rhifau ffôn neu ddatganiadau yn hytrach na’u defnyddio mewn ffordd ystyrlon i rannu cynnwys yn adrannau.
Dyblygu pennawd H1
Mae'r dudalen llety yn defnyddio dau bennawd H1.
2.4.7 Ffocws i'w weld
Cylchoedd ffocws anghyson
Ceir cylchoedd ffocws ar nifer o gydrannau a thudalennau ond maent yn anghyson ac nid ydynt bob amser yn bodloni’r canllawiau cyferbynnedd. Mae gan gymwysiadau trydydd parti fel y teithiau rhithwir gylchoedd ffocws sy’n anodd eu gweld.
2.5.3 Label mewn enw
Mae Baner Cwcis yn defnyddio enw hygyrch generig
Nid yw’r datrysiad rheoli cwcis trydydd parti "Cookiebot" yn defnyddio enw clir, hygyrch gan ei fod yn defnyddio "Open Widget" fel label aria.
Logos Podlediadau
Mae tudalennau podlediadau yn defnyddio logos Spotify neu apple ar gyfer ‘call to action’. Mae gan y logos hyn ‘alt tag’ gwag neu gynnwys di-fudd fel "apple_logo".
3.2.1 Ar Ffocws
Ffurflen gofrestru yn agor
Mae gan dudalen y prosbectws ffurflen gofrestru sy’n agor ar ôl cwblhau rhai camau (symud trwy 2 dudalen) pan fydd y flipbook ar agor.
3.3.1 Nodi Gwallau
Ni chaiff gwall ei nodi pan gwblheir chwiliad gwag o’r wefan
Mae'r swyddogaeth chwilio yn caniatáu blwch gwag, sy’n arwain at dudalen wag heb gynnig cyngor i’r defnyddiwr na nodi gwall o ran yr hyn sydd wedi digwydd.
Gwallau a nodwyd trwy liw yn unig
Mae'r ffurflenni "cadwch mewn cysylltiad" a "flipbook" yn nodi gwallau mewn lliw yn unig, heb unrhyw ddefnydd o eiconau.
3.3.3 Awgrymu Gwall
Mae Gwallau Ffurflenni yn generig
Nid yw'r ffurflenni "cadwch mewn cysylltiad" na "flipbook" yn darparu negeseuon gwall sy’n esbonio’n benodol pa wall a gafwyd.
Nid yw’r Ffurflenni Prosbectws yn darparu negeseuon gwall manwl
Nid yw'r ffurflen gais am brosbectws yn darparu negeseuon gwall manwl nac yn tynnu sylw at yr union faes ble mae’r broblem.
4.4.1 Dosrannu
Gwallau Dilysu WS3
Cyflwynwyd nifer o dudalennau i ddilysydd WS3 allanol a nodwyd rhai mân broblemau y mae angen eu datrys.
4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
Tabiau Manylion Allweddol
Ni ddisgrifir Tabiau Manylion Allweddol fel tabiau ar gyfer rhaglenni darllen sgrîn (e.e. 1 o 2) ac nid ydynt yn caniatáu’r defnydd o fysellau saeth ar y bysellfwrdd. Hefyd, nid yw ffocws yn gweithio ar y panel tab ar ôl dewis tab.
Stad yr Acordion
Mae llawer o dudalennau, gan gynnwys tudalennau cyrsiau, yn defnyddio acordion i ddangos a chuddio cynnwys. Ni chyhoeddir pan fydd yr accordion ar agor neu wedi’i guddio felly ni fydd defnyddwyr rhaglenni darllen sgrîn yn ymwybodol o’r wybodaeth sydd ar gael. Fe'u cyhoeddir fel “Clickable Heading, Link” sy'n awgrymu dolen i dudalen nid ehangwr gyda gwybodaeth.
Flipbook
Mae Flipbook yn feddalwedd trydydd parti sydd wedi'i mewnosod i’r dudalen. Mae'r meddalwedd yn caniatáu i ddefnyddwyr bori prosbectws yn rhithiol. Yn anffodus, nid yw cynnwys y prosbectws ar gael i dechnoleg gynorthwyol trwy Flipbook. Mae'r brifysgol wedi ceisio mynd i'r afael â hyn drwy greu fersiwn wedi’i thrawsgrifio o'r prosbectws a'i gynnwys ar y dudalen hon.
Ffurflenni trydydd parti
Rydym yn defnyddio ffurflenni gan ddarparwr trydydd parti nad yw’n defnyddio enw hygyrch ar yr iframe sy'n cael ei ddefnyddio i fewnosod y ffurflen ar y dudalen. Mae hyn yn effeithio ar y ffurflenni "Cadwch mewn cysylltiad" a "Cofrestrwch eich diddordeb".
4.1.3 Negeseuon Statws
Mireinio chwiliadau swyddi
Mae'r dudalen "Swyddi Gwag Presennol" yn caniatáu hidlo’r swyddi ond nid yw’n cyhoeddi i ddefnyddwyr rhaglen darllen sgrîn bod yr hidlydd wedi’i osod. Mae’n rhaid i ddefnyddwyr y dudalen ffocysu ar dag er mwyn deall a yw wedi ei osod.
Sut byddwn yn mynd i'r afael â diffyg cydymffurfiaeth
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi mynd i'r afael â nifer o faterion hygyrchedd, gan dderbyn hyfforddiant gan asiantaeth allanol ar sut i gwblhau profion ac awdit hygyrchedd. Fodd bynnag, gwyddom fod angen i ni wneud mwy!
Byddwn yn mynd i’r afael â’r methiannau meini prawf uchod drwy:
- Ddatblygu labordy empathi i godi ymwybyddiaeth ymhlith golygyddion cynnwys ac ar draws y sefydliad.
- Cysylltu â darparwyr trydydd parti a gofyn am atgyweiriadau i'r materion hygyrchedd a ddarganfuwyd gennym.
- Neilltuo amser dynodedig i'r Tîm Datblygu Gwe fynd i'r afael â'r materion hyn.
- Ymchwilio i ffyrdd o awtomeiddio profion hygyrchedd o fewn ein proses ddatblygu.
- Ail-archwilio'r wefan er mwyn asesu'r atgyweiriadau o fewn y 12 mis nesaf.
Baich Anghymesur
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod yn faich anghymesur yn yr adran hon.
Llywio a chyrchu gwybodaeth
Nid oes problemau neu nid yw’n berthnasol.
Offer rhyngweithiol a thrafodion
Nid oes problemau neu nid yw’n berthnasol.
Offer rhyngweithiol
Nid oes problemau neu nid yw’n berthnasol.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Mae sampl o ddogfennau PDF wedi cael eu profi am eu hygyrchedd ac adroddwyd am rai mân wallau. Byddwn yn gweithio gyda golygyddion cynnwys i sicrhau bod ganddynt yr hyfforddiant a'r adnoddau i fynd i'r afael ag unrhyw wallau a ganfyddir.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd rydym yn eu cyhoeddi’n bodloni’r safonau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein Cynllun Gweithredu Hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd abertawe.ac.uk.
Paratoi'r datganiad hwn ar hygyrchedd
Paratowyd y datganiad hwn ar 24/10/2022. Cafodd y datganiad hwn ei adolygu ddiwethaf ar 25/10/2022.
Profwyd gwefan abertawe.ac.uk ddiwethaf ar 20/10/2022. Cynhaliwyd y prawf gan ein harbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd mewnol sy'n gweithio ar wahân i'r tîm gwe sy'n datblygu'r wefan hon.
Gwnaethom ddefnyddio proses ac ymagwedd gyson er mwyn penderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi. Mae'r rhain ar gael yn yr adran Sut wnaethon ni brofi’r wefan
Mae'r adroddiad hygyrchedd llawn ar gael ar gais.