Gwybodaeth amdanom ni yn yr Arsyllfa

Rydym yn rhan o Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Abertawe ac mae'r Arsyllfa'n dod â rhannau gwahanol o waith hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn yr Ysgol ynghyd, ond hefyd ar draws y Brifysgol.  

Rydym yn brosiect cydweithredol gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cynnig fforwm ar gyfer ymchwil, trafod, addysg, cyfnewid gwybodaeth ac effaith ar hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol, a gweithio i wireddu hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol drwy bolisi, arfer, eiriolaeth a diwygio'r gyfraith.

Mae'r Arsyllfa'n ymrwymedig i:

  • Gynnal ymchwil, dadansoddi data ac astudiaethau gwerthusol
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid a dysgu ganddynt.
  • Rhoi gwybodaeth a hyfforddiant i ddatblygu gallu i hyrwyddo dealltwriaeth well o hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol.
  • Yn seiliedig ar ganlyniadau ymchwil, nodi ac eirioli dros newid yn y gyfraith ac ymarfer.
  • Defnyddio'r wybodaeth a'r arloesi gorau i wireddu hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn well.
  • Gweithio gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol mewn sefydliadau academaidd, proffesiynol, llywodraethol ac anllywodraethol.