YR ATHRO SIMON HOFFMAN
Mae ymchwil Simon yn canolbwyntio ar hawliau dynol rhyngwladol, yn enwedig hawliau cymdeithasol a hawliau lleiafrifoedd. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn sut mae hawliau dynol yn cael eu gweithredu, yn enwedig mewn systemau datganoli gwleidyddol a llywodraethu aml-lefel.
Mae Simon yn Brif Ymchwilydd ac yn Gyd-ymchwilydd profiadol sydd wedi arwain nifer o brosiectau ymchwil. Mae wedi cael ei wahodd i gyflwyno ei ymchwil yn y DU ac yn rhyngwladol, ac mae wedi rhoi tystiolaeth arbenigol am hawliau dynol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Mae Simon yn gweithio'n agos gyda rhwydweithiau o Sefydliadau Anllywodraethol er mwyn cyflawni newid, gan gynnwys Grŵp Monitro CCUHP Cymru. Ar hyn o bryd mae'n aelod o Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant Llywodraeth Cymru.
Ers 2012, mae Simon wedi bod yn un o gyd-gydlynwyr yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant. Mae'n addysgu ym maes hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol (LLB), hawliau dynol plant (LLB), a gweithredu hawliau dynol (LLM). Simon yw Cyfarwyddwr y Rhaglen LLM mewn Hawliau Dynol. Mae’n Gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch.
Darllenwch ragor am waith a chyhoeddiadau Simon.
YR ATHRO JANE WILLIAMS
Mae gyrfa Jane yn cwmpasu ymarfer preifat wrth Far Lloegr a Chymru a gwaith cyfreithiol a hyfforddiant proffesiynol i lywodraethau Cymru a'r DU cyn iddi ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2000. Mae ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith polisi yn elfennau sylweddol o'i gwaith academaidd.
Sefydlodd a golygodd Wales Journal of Law and Public Policy rhwng 2001 a 2006 a bu'n chwarae rhan allweddol yn ymdrechion cymdeithas sifil i sicrhau deddfwriaeth ar hawliau'r plentyn yng Nghymru ac i sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru. Cyd-sefydlodd yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a sicrhaodd gyllid grant i sefydlu Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.
Rhwng 2014 a 2020, bu Jane yn arwain prosiectau dilynol a ariannwyd gan grantiau i ddatblygu ymagweddau ar sail hawliau dynol at rymuso plant fel ymchwilwyr ac asiantau newid. Ymhlith y datblygiadau arloesol a gyflwynwyd ganddi y mae modiwlau ar Gyfraith Stryd ac Ymagweddau ar Sail Hawliau Dynol at Ymchwil gyda Phlant. Mae cyhoeddiadau academaidd Jane ym meysydd datganoli, cyfraith plant a hawliau plant.
Darllenwch ragor am waith a chyhoeddiadau Jane.
Dr Anthony Charles
Mae ymchwil Anthony yn canolbwyntio ar gyfiawnder ieuenctid a hawliau plant. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn prosesau dargyfeirio, hyrwyddo ymyriadau priodol, cyfranogiad plant a'r ffyrdd y mae datganoli Cymru'n effeithio ar waith timau troseddau ieuenctid.
Mae gan Anthony brofiad o arwain ymchwil gyda darparwyr cyfiawnder ieuenctid ac asiantaethau partner, yn enwedig ysgolion, mewn cyd-destun cynhyrchu ar y cyd. Mae wedi gweithio'n agos gydag amrywiaeth o asiantaethau partner, gan gynnwys llywodraeth leol a sefydliadau anllywodraethol ledled Cymru, i wella dealltwriaeth o hawliau plant ac arferion cyfiawnder ieuenctid. Mae Anthony yn aelod cysylltiol o Ganolfan Cyfiawnder Plant a Phobl Ifanc yr Alban ac yn aelod o Hwb Doeth.
Yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, Anthony yw Cyfarwyddwr y Rhaglen MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg. Mae'n Uwch-gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch ac wedi ei gydnabod fel Uwch-ymgynghorydd gan UKAT. Mae'n addysgu ym maes cyfiawnder ieuenctid a throseddwyr ifanc ar y rhaglen BSc mewn Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg ac ym maes damcaniaeth droseddegol a phobl ifanc a chyfiawnder ieuenctid ar yr MA.
Darllenwch ragor am waith a chyhoeddiadau Anthony.