Mae'r cwrs LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn gwrs i raddedigion y Gyfraith a'r rheiny sydd â Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion. Fe'i dylunnir ar gyfer y rhai sydd am baratoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE 1a2).
Er bod yr SQE yn benodol ar gyfer y rhai sydd am gymhwyso'n gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr, mae'r cwrs ar agor i unrhyw un sydd â diddordeb mewn meithrin gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol sy'n seiliedig ar ymarfer, wrth ennill cymhwyster ar lefel Meistr. Mae asesiadau SQE yn arholiadau sy'n cael eu hasesu'n ganolog sy'n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ac nid ydynt yn rhan o'r cwrs.
Mae'r LLM yn gwrs ymarferol sy'n canolbwyntio ar feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y mae eu hangen i gwblhau'r SQE ac am lwyddiant mewn ymarfer cyfreithiol. Mae'r LLM yn rhan o'r Ganolfan Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol, sy'n cynnal cynllun lleoliad gwaith llwyddiannus sy'n helpu myfyrwyr i gael y profiad y mae ei angen arnynt i sicrhau gwaith yn y sector cyfreithiol.
Bydd angen i unrhyw un sy'n dechrau ar ei radd yn y Gyfraith neu ei GDL ar ôl mis Medi 2021 sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) er mwyn cymhwyso fel cyfreithiwr.
Gall y rhai a ddechreuodd eu GDL neu eu gradd yn y Gyfraith cyn hynny ddewis cymhwyso drwy'r SQE neu drwy'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a llwybr contract hyfforddi. Gweler ein Cwrs Ymarfer Cyfreithiol a'n LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch os ydych chi yn y categori hwn ac os hoffech ragor o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth ar dudalen y cwrs LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol