Cyrchu Rhaglenni RD&I a Ariennir

Rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru'n elwa o fuddsoddiad gwerth tua £1.8bn gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.  Mae Cronfeydd Strwythurol yr UE yn helpu i gefnogi pobl i ddechrau gwaith a hyfforddiant, cyflogaeth ieuenctid, ymchwil ac arloesi, mantais gystadleuol busnesau (BBaCh), ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, a chysylltedd a datblygiad trefol.

Mae'r prosiectau canlynol ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn arian gan Gronfeydd Strwythurol yr UE (2014-2020) drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd

Mae'r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn falch o fod yn bartner yn rhaglen Cyflymu Cymru gyfan gwerth £24m ac mae'n cefnogi'r broses o roi syniadau addawol o'r sectorau gwyddor bywyd, iechyd a gofal yng Nghymru ar waith er mwyn creu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau, gyda'r nod o ddarparu gwerth economaidd hirhoedlog ochr yn ochr â buddion cymdeithasol ehangach.

Rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd.

 

 

AGOR IP

Mae AgorIP yn eich cefnogi o’r syniad gwych cyntaf hyd at gyflwyno’r cynnyrch ar y farchnad. Fel ymagwedd newydd at arloesi â chymorth yr UE a Llywodraeth Cymru, gall AgorIP eich helpu i ddatblygu eich syniad, eich cynnyrch neu'r ymchwil hyd at y farchnad, a gwneud eich Eiddo Deallusol yn llwyddiant masnachol.

AgorIP

 

AMBER

Mae AMBER yn brosiect ymchwil ac arloesi gwerth €6.2 miliwn a arweinir gan Brifysgol Abertawe dan Horizon 2020.  Ei nod yw cynhyrchu'r atlas cyntaf o rwystrau i lif nentydd yn Ewrop ac adfer cysylltedd nentydd drwy ddull ymaddasol o reoli rhwystrau.

AMBER

 

ASTUTE 2020

Mae ASTUTE 2020 yn darparu cymorth ymchwil, datblygu ac arloesi o'r radd flaenaf i fusnesau er mwyn datblygu a chyflawni prosiectau cydweithredol wedi'u hysbrydoli gan ddiwydiant ym meysydd Modelu Peirianneg Gyfrifiadol, Technoleg Deunyddiau Uwch a Pheirianneg Systemau Gweithgynhyrchu.

  

Sefydliad Awen

Mae Sefydliad Awen yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd â phobl hŷn a'r diwydiannau creadigol i greu ar y cyd gynnyrch, gwasanaethau ac amgylcheddau ar gyfer poblogaeth sy'n dod yn fwyfwy hŷn.

Rhagor o wybodaeth am Sefydliad Awen.

 

BEACON+

Mae prosiect BEACON+ yn cefnogi gwyddonwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe wrth weithio gyda thros 100 o fusnesau bach a chanolig er mwyn datblygu arloesedd mewn ymchwil a chynhyrchion ym meysydd deunyddiau adnewyddadwy, tanwyddau a chemegau.

  BEACON

 

CALIN

Mae CALIN yn darparu mynediad agored i bartneriaeth rhwng chwe Phrifysgol o safon fyd-eang yng Nghymru ac Iwerddon, Uniliver a GE Healthcare i gefnogi datblygu cynhyrchion drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ym meysydd meddygaeth fanwl, meddygaeth adfywiol, bio-gydnawsedd a gwerthuso diogelwch.

CALIN

 

CHERISH DE

Mae'n hwyluso prosiectau, ymweliadau effaith ymchwil a secondiadau drwy fecanweithiau ariannu â'r nod o ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau a fydd yn arwain at effaith ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, cymunedau â phrinder adnoddau a diogelwch a diogeledd.

Cherish de

 

FFOWNDRI GYFRIFIADOL

‌‌Bydd y Ffowndri Gyfrifiadol yn ysgogi ymchwil i wyddor gyfrifiadol, gan wneud Cymru'n gyrchfan byd-eang ar gyfer gwyddonwyr cyfrifiadol a phartneriaid diwydiannol.  Disgwylir i waith adeiladu'r Ffowndri ddechrau ym mis Tachwedd ac y bydd yn agor ym mis Medi 2018.

 Computational Foundry

 

DIPFSCC

Prosiect SMARTExpertise a ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac a arweinir gan Brifysgol Abertawe yw DIPFSCC (sy’n sefyll am Ddatblygu Perfformiad Arloesi mewn Cwmnïoedd a Chlystyrau Cadwyn Gyflenwi). Bydd yn mynd i’r afael â rhwystrau i arloesi a datblygu Ymchwil a Datblygu newydd â chadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu yng Nghymru.

  

 

ARWEINYDDIAETH ION

Nod rhaglen arweinyddiaeth ION (Arwain Twf Busnes Gorllewin Cymru) yw datblygu a gwella sgiliau arweinyddiaeth perchnogion, rheolwyr a llunwyr penderfyniadau allweddol busnesau.  Wedi'u cyflwyno gan arbenigwyr busnes, mae'r cyrsiau yn seiliedig ar ddysgu ymarferol a thrwy brofiad.

ION Leadership  

 

KESS 2

Mae KESS 2 yn cynnig ysgoloriaethau ar gyfer prosiectau ymchwil cydweithredol. Bydd y cynllun, a leolir ym mhrifysgolion Cymru, yn creu partneriaethau rhwng 500+ o fusnesau ac academyddion a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu prosiectau ymchwil arloesol sy'n ysgogi twf busnesau.

KESS2

 

Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu

Mae'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A) ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu hyfforddiant ymchwil a arweinir gan ddiwydiant i fyfyrwyr ôl-raddedig, ym meysydd deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch. Mae M2A yn gallu cynnig 24 o leoedd ar raglenni EngD ac 8 lle ymchwil ar raglenni MSc y flwyddyn, ynghyd â rhaglenni PhD a Meistr rhan-amser.

M2A

 

M2ETAL

Mae Addysg Hyfforddiant a Dysgu Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (METAL) yn darparu hyfforddiant technegol yn seiliedig ar y gweithle i fusnesau yn y diwydiant deunyddiau a gweithgynhyrchu, gan wella sgiliau'r gweithlu ac, yn y pen draw, helpu i sicrhau cynaladwyedd y diwydiant yng Nghymru.

M2ETAL

 

SEACAMS

Drwy SEACAMS 2, prosiect tair blynedd gwerth £17m, gall cwmnïoedd sydd am harneisio pŵer y môr a chreu diwydiant ynni adnewyddadwy o'r môr yng Nghymru, elwa o'r cymorth ymchwil hollbwysig sy'n angenrheidiol i gyflawni datblygiadau gwerth miliynau o bunnoedd.

SEACAMS

 

SPECIFIC

Mae'r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol (SPECIFIC) yn gonsortiwm academaidd a diwydiannol a arweinir gan Brifysgol Abertawe, gyda Tata Steel, NSG Pilkington a BASF fel partneriaid strategol.  Wrth ei gwraidd mae Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), Innovate UK a Llywodraeth Cymru.

SPECIFIC

 

SMARTAQUA

Amcan SMARTAQUA yw ehangu busnesau dyframaeth nad ydynt yn cynhyrchu bwyd yng Nghymru. Dyframaeth – cynhyrchu organeddau dyfrol – yw’r agwedd ar y diwydiant bwyd sy’n tyfu gyflymaf yn y byd, ond mae’n hynod gystadleuol hefyd. Ar y llaw arall, mae’r agwedd ar y diwydiant nad yw’n cynhyrchu bwyd (e.e. cynhyrchu pysgod glanach a deunyddiau maethol-fferyllol o algâu) yn farchnad arbenigol a ysgogir gan wyddoniaeth lle gall Cymru arwain y ffordd.