Beirniadu
Bob blwyddyn mae'r gystadleuaeth Ymchwil fel Celf yn cael ei beirniadu'n ofalus yn Llundain gan grŵp o gynrychiolwyr blaenllaw o'r gymuned ymchwil a chyfathrebu gwyddonol. Mae ein beirniaid yn edrych yn drylwyr ar bob cais, gan ystyried ei stori a'r llun sy'n ei gynrychioli. Yn ogystal â'r enillydd cyffredinol, bydd y beirniaid hefyd yn dewis nifer o geisiadau i dderbyn gwobrau. Bydd y beirniaid hefyd yn dewis nifer o ymgeiswyr teilwng sy'n haeddu canmoliaeth yn eu barn.