Rydym yn monitro polisiau cyffuriau byd-eang ac yn eirioli aliniad hawliau dynol

Rydym yn datblygu Gwasanaeth Iechyd Gwladol cynaliadwy

Yr Her

Mae polisïau cyffuriau presennol ledled y byd yn seiliedig ar naratif "rhyfel ar gyffuriau". Mae hyn yn gwaethygu niwed ac yn arwain at dorri hawliau dynol gyda dadleuon am bolisïau cyffuriau a phrosesau llunio polisïau sy'n gymhleth, yn cael eu harwain yn wleidyddol, yn amlochrog a cheir diffyg tryloywder.  

Mae angen ymagwedd newydd i lunio polisïau gwell, gwella cyllid ar gyfer lleihau niwed, a gwella bywydau pobl sy'n defnyddio cyffuriau.

Y DULL

Gan ddefnyddio data sydd ar gael gan lywodraethau, y Cenhedloedd Unedig a ffynonellau eraill, mae'r Athro David Bewley-Taylor a'i dîm, fel rhan o Gonsortiwm Lleihau Niwed, wedi datblygu methodoleg gadarn a thryloyw ar gyfer creu mynegai cyfansawdd newydd i ddogfennu, mesur a chymharu polisïau'r llywodraeth o ran cyffuriau anghyfreithlon.  Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPI), yw'r mynegai cyntaf o'i fath yn y byd, mae'n offeryn atebolrwydd unigryw sy'n rhoi sgôr a safle i bob gwlad sy'n dangos i ba raddau y mae eu polisïau ar gyffuriau a'u gweithredu yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol, iechyd a datblygu.

Mae'r Mynegai'n cynnwys 75 o ddangosyddion polisi sy'n canolbwyntio'n bennaf ar y meysydd canlynol:

  1. Absenoldeb dedfrydu ac ymatebion eithafol
    Yn trafod y defnydd o'r gosb marwolaeth, lladdedigaethau allfarnwrol, gorfodi cyfraith cyffuriau filwrol, bywyd am oes yn y carchar a chaethiwed anwirfoddol o bobl sy'n defnyddio cyffuriau fel math o 'driniaeth'.

  2. Cymesuredd a Chyfiawnder Troseddol
    Yn canolbwyntio ar dorri hawliau dynol yn y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys gweithredoedd o drais a phoenydiad, arestiadau a dal gormesol, treial teg, defnyddio cadw yn y ddalfa cyn treial gorfodol, dad-droseddoli a dulliau amgen i'r carchar a chosb, hyd a lled carcharu am droseddau cyffuriau nad ydynt yn rhai treisgar, ac effaith wahaniaethol ymatebion cyfiawnder troseddol ar sail rhyw, ethnigrwydd, tueddfryd rhywiol a statws economaidd-gymdeithasol.

  3. Iechyd a Lleihau Niwed
    Asesu i ba raddau y mae polisïau'r wladwriaeth yn blaenoriaethu ymagwedd sy'n lleihau niwed ar gyfer pobl sy'n defnyddio cyffuriau, cyllid lleihau niwed, argaeledd a chwmpas gwasanaethau, yn ogystal ag ecwiti mewn mynediad at wasanaethau ar gyfer grwpiau penodol.

  4. Mynediad at Feddyginiaethau a Reolir
    Gwerthuso a yw mynediad at feddyginiaethau'n cael ei flaenoriaethu ym mholisïau'r llywodraeth, a oes meddyginiaethau a reolir ar gael ac yn hygyrch mewn gwirionedd ac a yw mynediad ar gyfer grwpiau penodol yn deg

EFFAITH

Mae'r GDPI yn ceisio rhoi pwysau cymdeithasol a gwleidyddol sylweddol fel lifer nerthol ar gyfer newid polisi. Nodau'r GDPI yw

• Gwella dealltwriaeth o heriau penodol sy'n ymwneud ag astudio polisïau cyffuriau a lleihau niwed
• Gwella dealltwriaeth o faterion methodolegol sy'n ymwneud â chreu mynegai cymhleth sy'n nodi ffenomena aml-ddimensiwn gan ddefnyddio ystod o ffynonellau
• Rhoi gwersi ymarferol a gwleidyddol ar sut i wneud mynegai o'r fath sy’n creu effaith, yn dryloyw ac yn ddarbwyllol yn wleidyddol

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
Nod Cynaliadwy CU - Cyfiawnder
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe